Mae gan y myfyrwyr hynny sy’n byw mewn llety Prifysgol Bangor, yn Ffriddoedd neu Santes Fair, aelodaeth wedi’i gynnwys yn eu rhent. Hefyd ar safle Ffriddoedd mae caeau glaswellt ar gyfer pêl-droed a lacrosse ynghyd â chae pob tywydd gyda llifoleuadau ar gyfer hoci.
Saif caeau awyr agored yn Nhreborth, gan gynnwys cae FIFA ac IRB 3G newydd sbon a’r trac athletau, mewn ardal o harddwch naturiol a'i golygon dros Afon Menai at Ynys Môn. Mae caeau pêl-droed (gyda llifoleuadau), rygbi a phêl-droed Americanaidd.
Ar Safle’r Normal mae dwy neuadd chwaraeon gydag adnoddau a chyfleusterau ffensio a saethyddiaeth dan do yn ogystal â rhwydi criced dan do.
Mae ystafell ffitrwydd hefyd i drigolion pentref myfyrwyr y Santes Fair.
Neuadd Chwaraeon Coleg Menai – Eleni bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau hyfforddi i rai o dimau myfyrwyr yn Neuadd Chwaraeon Coleg Menai, ger ein safle Ffriddoedd.
Cewch ymuno â holl glybiau chwaraeon Undeb y Myfyrwyr am ddim.Â