Cydnabyddwyd gwaith Prifysgol Bangor ym maes iechyd y cyhoedd wrth i fedal a thystysgrif Queen鈥檚 University Prize gael eu cyflwyno ym Mhalas Buckingham.
Mae鈥檙 Queen鈥檚 Anniversary Prizes ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn rhan o system Anrhydeddau鈥檙 DU ac yn cael eu dyfarnu bob dwy flynedd gan y Sofran ar gyngor y Prif Weinidog yn dilyn proses adolygu annibynnol drylwyr a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Brenhinol, elusen annibynnol.
Dyma bymthegfed rownd y cynllun ac roedd dros 100 o geisiadau, a dyfarnwyd Gwobr i 22 o sefydliadau.
Cafodd Prifysgol Bangor ei chydnabod am ei system newydd ar gyfer gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd drwy ddadansoddi pathogenau niweidiol mewn d诺r gwastraff. Cafodd y system ei ddefnyddio yn genedlaethol yn ystod y pandemig ac mae bellach wedi鈥檌 haddasu i fesur ystod eang o ddangosyddion iechyd cyhoeddus.
Wrth i ni wynebu heriau鈥檙 pandemig COVID-19, roeddem yn gwybod o ymchwil yr oeddem eisoes wedi ei wneud ei biod hi鈥檔 bosib defnyddio profi d诺r gwastraff i dracio sut yr oedd y firws yn lledaenu, a dyna鈥檔 union waethon ni. Taflodd hyn oleuni ar ddeinameg SARS-CoV-2, ond hefyd ar botensial trawsnewidiol epidemioleg yn seiliedig ar dd诺r gwastraff er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ers hynny, ac ar ran Llywodraeth Cymru, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a鈥檙 Undeb Ewropeaidd, mae鈥檙 dechnoleg wedi鈥檌 hehangu i fonitro ystod eang o ddangosyddion iechyd y cyhoedd gan gynnwys enterofirws, norofeirws, ffliw, RSV, polio ac organebau sy鈥檔 gwrthsefyll gwrthficrobaidd. Mae hyn bellach yn cael ei ymgorffori mewn system rybuddio amser real ar gyfer cyfleusterau gofal iechyd ac asiantaethau iechyd cyhoeddus. Mae鈥檙 dechnoleg hefyd yn cael ei defnyddio i ragfynegi鈥檙 potensial i unigolion gael eu heintio o ddod i gysylltiad 芒 d诺r wedi鈥檌 halogi gan garthion (e.e. nofio d诺r agored), gan helpu i dorri cylch ail-heintio clefydau.
Ychwanegodd yr Athro Jones, 鈥淢ae鈥檔 anrhydedd fawr derbyn y Wobr hon, a hoffwn ddiolch i鈥檓 holl gydweithwyr sydd wedi rhoi o鈥檜 hamser a鈥檜 hegni i wneud yr ymchwil hwn yn bosibl. Trwy weithio gyda diwydiant, sefydliadau academaidd eraill a llywodraethau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, byddwn yn parhau i wneud ymchwil cyfrifol er lles y cyhoedd.鈥
Mewn llythyr at enillwyr Gwobr Pen-blwydd y Frenhines dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak: