Difodiant ac Esblygiad: Astudiaeth arloesol yn adolygu gwreiddiau bioamrywiaeth
Mae t卯m rhyngwladol o wyddonwyr wedi gwneud darganfyddiad arloesol a allai ail-lunio ein dealltwriaeth o sut esblygodd bioamrywiaeth fyd-eang. Trwy ail-greu esblygiad rhywogaethau dros y 45 miliwn o flynyddoedd diwethaf, canfu ymchwilwyr fod tarddiad daearyddol llawer o blanhigion, pryfed a mamaliaid wedi'u cysylltu'n agosach nag a feddyliwyd o鈥檙 blaen.
Arweinir yr ymchwil gan Brifysgol Aberdeen mewn cydweithrediad 芒 Phrifysgol Bangor, Prifysgol Lakehead yng Nghanada, a nifer o sefydliadau yn Indonesia gan gynnwys IBP, Bogor. Defnyddiodd y t卯m De-ddwyrain Asia鈥攗n o鈥檙 rhanbarthau mwyaf cyfoethog o ran bioamrywiaeth yn y byd鈥攆el labordy naturiol i olrhain tarddiad daearyddol ystod eang o rywogaethau. Mae eu canfyddiadau yn herio damcaniaethau hirsefydlog bod grwpiau o fflora a ffawna wedi esblygu ar wah芒n ar wahanol fathau o dir cyn arallgyfeirio ar draws y rhanbarth.
Yn ganolog i鈥檙 ymchwil hwn mae model esblygiadol newydd a ddatblygwyd gan y t卯m, sy鈥檔 cynnwys rhywogaethau diflanedig yn eu dadansoddiad am y tro cyntaf. Mae鈥檙 dull arloesol hwn nid yn unig wedi darparu darlun esblygiadol mwy cyflawn ond mae hefyd wedi paratoi鈥檙 ffordd ar gyfer dealltwriaeth newydd o sut y dechreuodd ac y lledaenodd bioamrywiaeth ar draws ehangdiroedd. Defnyddir y model bellach mewn cydweithio rhyngwladol i ailedrych ar hanes esblygiadol cyfandiroedd eraill, a fydd mae鈥檔 si诺r yn ail-lunio ein dealltwriaeth o fioamrywiaeth fyd-eang.
鈥淭ybiem a allai sawl gr诺p o blanhigion ac anifeiliaid fod 芒鈥檙 un tarddiad daearyddol wrth i dystiolaeth ddaearegol newydd gyferbynnu 芒鈥檙 adluniadau presennol o darddiad a lledaeniad rhywogaethau鈥, meddai Dr Leonel Herrera Alsina, Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Aberdeen. 鈥淔odd bynnag, mae difodiant parhaus rhywogaethau trwy gydol proses esblygiad yn dileu gwybodaeth allweddol o ran ail-greu鈥檙 gorffennol.
鈥漅oedd cynnwys rhywogaethau diflanedig yn y broses fodelu yn caniat谩u i'r ymchwilwyr olrhain patrymau esblygiadol ymhellach yn 么l mewn amser, gan ddatgelu bod sawl gr诺p o rywogaethau yn Ne-ddwyrain Asia wedi lledaenu ar draws y rhanbarth cyfan yn gynharach nag a feddyliwyd o鈥檙 blaen. Mae'r canlyniad hwn yn atgyfnerthu'r syniad bod pontydd tir yn bodoli ac yn gweithredu fel modd o gynorthwyo lledaeniad rhywogaethau allan o Borneo a Chyfandir Asia."
Dywedodd Dr Alexander Papadopulos, Darllenydd mewn Ecoleg Foleciwlaidd a Genomeg ym Mhrifysgol Bangor, 鈥淢ae ein dealltwriaeth o ble y tarddodd grwpiau o rywogaethau a鈥檙 llwybr a gymerodd eu cyndeidiau i鈥檞 cartrefi presennol wedi鈥檌 seilio ar wybodaeth anghyflawn. Ni allwn ond arsylwi dosbarthiad y llinachau sy'n parhau. Mae ein ffordd ni o fynd ati yn cynnwys difodiant wrth fodelu esblygiad rhywogaethau yn y rhanbarth daearyddol cymhleth a bioamrywiol hwn, gan chwyldroi ein barn ynghylch sut y cynhyrchwyd y fioamrywiaeth anhygoel hon.鈥
鈥淩oedd dulliau blaenorol yn anwybyddu effaith rhywogaethau diflanedig, ond trwy eu hymgorffori, rydym ni wedi gallu creu darlun mwy cywir a chynhwysfawr o sut yr esblygodd bioamrywiaeth anhygoel y rhanbarth hwn,鈥 meddai'r Athro Lesley Lancaster, sydd 芒 Chadair Bersonol ym Mhrifysgol Aberdeen. 鈥淢ae鈥檙 ddealltwriaeth newydd hon yn cyd-fynd 芒 chanfyddiadau daearegol diweddar a gallai drawsnewid sut rydym yn synio am darddiad a lledaeniad rhywogaethau yn fyd-eang.鈥
Pwysleisiodd yr Athro David Burslem, Cyfarwyddwr y Sefydliad Rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberdeen, arwyddoc芒d ehangach yr astudiaeth. 鈥淢ae鈥檙 ymchwil hwn yn tanlinellu pwysigrwydd astudio prosesau ecolegol a daearegol gyda鈥檌 gilydd. Mae'r patrymau esblygiadol a welwn ni heddiw wedi'u cydblethu'n ddwfn 芒 hanes daearegol y rhanbarth. Mae integreiddio鈥檙 disgyblaethau hyn yn ein galluogi i ddeall gwreiddiau bioamrywiaeth yn well a sut mae wedi datblygu dros filiynau o flynyddoedd.鈥
Mae鈥檙 astudiaeth, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Frenhinol, yn taflu goleuni newydd ar hanes esblygiadol bywyd ar y Ddaear ac yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr ynghylch sut y gellir integreiddio prosesau esblygiadol i flaenoriaethu cadwraeth, gan helpu i ddiogelu bioamrywiaeth wrth i ecosystemau wynebu pwysau cynyddol oherwydd newid hinsawdd.
鈥淢ae ein canfyddiadau yn chwyldroi鈥檙 ffordd rydym ni鈥檔 meddwl am esblygiad bioamrywiaeth, nid yn unig yn Ne-ddwyrain Asia ond yn fyd-eang,鈥 ychwanegodd yr Athro Justin Travis, sydd 芒 Chadair Bersonol ym Mhrifysgol Aberdeen. 鈥淢ae'r model hwn, a ddefnyddir bellach mewn partneriaethau ledled y byd, yn agor y drws i ailedrych ar ddamcaniaethau hirsefydlog am esblygiad ar gyfandiroedd eraill hefyd. Mae鈥檙 gwaith yn gosod y llwyfan ar gyfer ymchwil yn y dyfodol a fydd yn adolygu ein dealltwriaeth o sut mae rhywogaethau wedi addasu ac arallgyfeirio dros filiynau o flynyddoedd.鈥
Ariannwyd yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) UKRI. Cyhoeddir y papur yn y cyfnodolyn, .听