Rhoddodd y naturiaethwr a鈥檙 fforiwr sgwrs am gadwraeth bywyd gwyllt yn y brifysgol ar 么l perfformio yn ei sioe theatr, Ocean, a oedd dan ei sang yn Venue Cymru yn Llandudno.聽
Mae鈥檙 seren deledu a enillodd wobr BAFTA a鈥檙 awdur mawr ei werthiant, a wnaeth raglenni fel Deadly 60 ac Expedition, yn ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, a dyfarnwyd gradd er anrhydedd iddo gan y brifysgol yn gynharach eleni.聽
Wrth siarad 芒 myfyrwyr yn y digwyddiad dywedodd Steve,
Mi wnaethoch chi benderfyniad gorau'ch bywydau鈥檔 dod i Brifysgol Bangor, ac rydw i eisiau i bawb ohonoch wneud yn fawr o hynny, ei drysori, a鈥檌 ddefnyddio cystal ag y gallwch.聽
鈥淎r garreg eich drws mae yna ryfeddodau naturiol nad oes gan bron neb arall yn y wlad yn y brifysgol. Felly cofiwch fanteisio arnynt i鈥檞 llawn botensial.
Dywedodd Dr Christian Dunn, a fu鈥檔 siarad 芒鈥檙 cyflwynydd BBC ar y llwyfan fel rhan o鈥檌 ddarlith ym Mangor,
鈥淭yfodd llawer o鈥檔 myfyrwyr i fyny yn gwylio Steve ar y teledu a fo a鈥檜 hysbrydolodd i astudio鈥檙 gwyddorau naturiol 鈥 mae鈥檔 wych gweld faint mae鈥檔 ei olygu iddyn nhw cael cyfarfod ag o. 聽
鈥淩oedd yn fraint wirioneddol sgwrsio 芒 fo ar y llwyfan ac yntau mor wybodus a phrofiadol yn y maes - mae hefyd yn ddyn gwirioneddol wych a synnwyr digrifwch gwych ganddo!鈥澛
Roedd y sgwrs eang gan Steve yn ymdrin 芒 phopeth gan gynnwys gwleidyddiaeth a photsio, datgoedwigo a chadwraeth siarcod.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:,
鈥淢ae bob amser yn bleser croesawu Steve Backshall i Fangor 鈥 mae鈥檔 naturiaethwr mor wybodus ac yn anturiaethwr profiadol.聽
鈥淩ydym yn ffodus iawn bod Steve yn un o鈥檔 darlithwyr er anrhydedd, er nad yw鈥檔 syndod ei fod mor hoff o Brifysgol Bangor o ystyried yr enw da sydd gennym am addysgu ac ymchwil i鈥檙 gwyddorau naturiol.鈥澛
Os hoffech weld clipiau o sgwrs Steve Backshall dilynwch Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor ar y cyfryngau cymdeithasol.