Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offeryn/adnodd hwnnw?
Mae ein defnydd o dechnoleg rhithrealiti i gefnogi dysgu yn deillio o ddatblygiadau arloesol a oedd yn angenrheidiol yn sgil pandemig Covid-19, a鈥檙 cyfyngiadau dilynol a roddwyd ar deithio, lle defnyddiwyd y dechnoleg i archwilio cyrchfannau rhyngwladol. Dyna pryd y datblygwyd yr arfer dda yma, a datblygwyd llwyddiant y ffordd yma o weithio maes o law yn gais am gyllid mewnol gan Gronfa Datblygu Menter Prifysgol Bangor er mwyn caniat谩u ymchwilio parhaus i ffyrdd o ddefnyddio rhithrealiti i hwyluso cyfleoedd gwaith maes mwy cynhwysol. Fe wnaethom ni archwilio gwahanol feddalwedd i鈥檔 helpu i ddarparu teithiau rhithwir a chanfod mai ThingLink oedd y mwyaf cost-effeithiol a hawdd ei ddefnyddio.聽
Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio鈥檙 offeryn/adnodd hwn?
Mae rithrealiti yn fodd o ategu鈥檙 broses o baratoi at waith maes (Bos et al., 2021) lle gall y dechnoleg gynorthwyo i ddatblygu sgiliau dadansoddol beirniadol drwy gynrychioli pobl, lleoedd a thirweddau. At hyn, gall gynnig hefyd gyfleoedd pwysig i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ymarferol unigryw y gellir eu cymhwyso i geoddelweddu data ac amgylcheddau gan wella rhagolygon gyrfa graddedigion.聽
Ein nodau wrth ddatblygu鈥檙 fenter hon oedd:
- Darparu cyfle i ddatblygu amgylcheddau newydd gan ddefnyddio adnoddau a ddatblygwyd gan eraill.聽
- Digideiddio gweithgareddau gwaith maes i greu cronfa adnoddau ar gyfer myfyrwyr y presennol a'r dyfodol.
- Archwilio sut y gellir defnyddio rhithrealiti hefyd i ddatblygu sgiliau a chymwyseddau myfyrwyr ymhellach.
Sut effeithiodd yr offeryn/adnodd ar eich addysgu?
Mae鈥檙 fenter wedi ein galluogi i archwilio鈥檙 llu o ffyrdd creadigol y mae rhithrealiti yn galluogi myfyrwyr daearyddiaeth a鈥檙 amgylchedd i ddatblygu eu cymwyseddau, megis:聽
- Adnabod Cyfleoedd聽聽鈥 trwy brofi gwahanol amgylcheddau a chydnabod heriau rhanbarthol a chyfleoedd i greu gwerth. Enghraifft: Gweld fideos rhithrealiti ar YouTube a luniwyd gan wahanol grewyr cynnwys yn seiliedig ar ranbarthau penodol er mwyn dadansoddi鈥檙 ffyrdd y portreadir mannau a lleoedd.
- Creadigrwydd聽鈥 trwy archwilio ffyrdd amrywiol o ddysgu a datblygu adnoddau. Enghraifft: Anogir myfyrwyr i fod yn flaengar ac eangfrydig o ran eu ffordd o weithio, sut y gellir defnyddio鈥檙 dechnoleg yn y maes, ac o ran gyrfa bosibl wedi graddio. Gellir trafod swyddogaeth technoleg ddigidol e.e., arloesi aflonyddgar fel rhithrealiti, sydd wedi newid y ffordd y gallwn gyflawni gwaith maes.聽
- Meddwl cynaliadwy聽聽鈥 rhithrealiti fel dewis arall sy鈥檔 fwy sensitif i garbon yn lle gwaith maes (gweler Schott, 2017). Enghraifft: Mae defnyddio clustffonau rhithrealiti yn creu trafodaeth ynghylch defnyddio carbon wrth deithio, gwerthoedd moesegol, gwrthbwyso carbon, ac ati.聽
- Ymdopi ag Ansicrwydd, Amwyster a Risg聽聽鈥 defnyddir y feddalwedd cyn teithiau maes i helpu paratoi myfyrwyr ar gyfer profiadau newydd, ond yn benodol i reoli risgiau wrth ymweld 芒 meysydd newydd/peryglus.聽
Enghraifft: Mae'n helpu myfyrwyr i ddeall rhai o'r lleoliadau anghysbell yr ymwelir 芒 nhw. Gall myfyrwyr baratoi asesiadau risg yn seiliedig ar eu harsylwadau, a fydd yn rhoi cipolwg ar strategaethau rheoli risg.聽 - Cymhwysedd: dysgu trwy brofiad聽聽鈥 Dylid annog myfyrwyr i fyfyrio ar y deunydd; cynhyrchu cynnwys, a goblygiadau dosbarthu. Mae hyn yn meithrin trafodaeth feirniadol ar werth cynnwys rhithrealiti i roi sylw i ddigwyddiadau (e.e. llifogydd) a'r strategaethau rheoli posibl dilynol.
Pa mor dda oedd yr offeryn/adnodd. A fyddech chi'n ei argymell?
Yn gyffredinol, fe gawsom ni adborth cadarnhaol iawn gan staff a myfyrwyr, ond mae rhai pethau pwysig i鈥檞 cofio:聽
- Nid yw at ddant pawb! Mae'n bwysig mynd ati鈥檔 ara deg i weld a oes archwaeth a bod diddordeb yn yr adran i鈥檞 ddefnyddio.聽
- Dylai'r mentrau ategu'r ffordd rydych chi鈥檔 dysgu, yn hytrach na chreu gwrthdaro neu amharu ar yr hyn a gynigir ar hyn o bryd.聽
- Does dim rhaid i chi ailddyfeisio'r olwyn 鈥 mae yna ffynonellau a deunydd eisoes ar gael yn enwedig ym maes daearyddiaeth.聽
- Nid oes rhaid i fuddsoddiad fod yn gostus nac yn feichus o ran amser, yn enwedig yn y lle cyntaf, pan fyddwch chi'n cloriannu dewisiadau ac yn gweld faint o ddiddordeb sydd yna - dylech estyn allan a chydweithio!聽
Pa mor dda gafodd yr offeryn/adnodd ei dderbyn gan fyfyrwyr?
Roedd cefnogaeth dda i鈥檙 fenter yn yr Ysgol ac yn Adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol; roedd myfyrwyr hefyd yn cefnogi datblygiad y project a daethant i fwynhau鈥檙 profiad wrth iddyn nhw fagu hyder yn eu galluoedd. Anogwyd myfyrwyr i archwilio a dod o hyd i'w hadnoddau eu hunain i'w gweld gan ddefnyddio rhithrealiti (gydag arweiniad a goruchwyliaeth), a rannwyd wedyn gydag eraill yn y gr诺p, i gynnull llyfrgell o adnoddau i鈥檞 rhannu.聽
鈥淢ae rhithrealiti yn ffordd newydd o ddysgu ac mae'n gwneud y daith rithwir yn rhyngweithiol ac yn ddifyr. Mae'n llawer o hwyl!鈥 (Myfyriwr BSc Daearyddiaeth trydedd flwyddyn)聽
Rhannwch 'Awgrym Da' ar gyfer cydweithiwr sy'n newydd i'r offeryn/adnodd
- Mae grwpiau bach yn gweithio'n dda, o ran logisteg a rheoli'r gr诺p.聽
- Mae'n bwysig cyfleu'r manteision i'r myfyrwyr a chaniat谩u amser ar gyfer myfyrio strwythuredig.聽
Sut fyddech chi'n crynhoi'r profiad mewn 3 gair?
Cyfleoedd dysgu gwerthfawr
Deunydd darllen a argymhellir:
EDI and fieldwork 鈥 Cultivate project and More Inclusive Fieldwork 鈥 Dr Lynda Yorke聽
Cynhwysiant a hygyrchedd ym maes gwyddorau鈥檙 amgylchedd, a defnyddio technoleg rithwir i wella鈥檙 dysgu.聽
Cyfeiriadau:
Bos, D., Miller, S. & Bull, E. 2022. Using virtual reality (VR) for teaching and learning in geography: Fieldwork, analytical skills, and employability.聽Journal of Geography in Higher Education,听46, pp. 479-488. DOI: 10.1080/03098265.2021.1901867.聽
Schott, C. 2017. Virtual fieldtrips and climate change education for tourism students.聽Journal of Hospitality, Leisure, Sport & Tourism Education,听21, pp. 13-22. DOI: https://doi.org/10.1016/j.jhlste.2017.05.002.
Cysylltwch 芒 ni am fwy o wybodaeth:
Rebecca Jones: rebecca.jones@bangor.ac.uk
Richard Dallison: r.dallison@bangor.ac.uk