Enw: Dr Leila Griffiths
Swydd: Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ Advisor
Adran:ÌýTeaching & Learning Support Team, Digital Services
Offer a ddefnyddir:Ìý±Ê²¹»å±ô±ð³Ù
Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offer/adnodd hwn?Ìý
Rwyf wedi gwneud defnydd helaeth o Padlet ers i weithgareddau addysgu a dysgu fynd fwyfwy ar-lein oherwydd y pandemig. Wrth gyflwyno sesiynau ar-lein i gynulleidfa o gamerâu wedi eu diffodd ar MS Teams a Blackboard Collaborate yn bennaf, sylwais yn gyflym y diffyg cysylltiad rhwng y myfyrwyr. Hefyd, deuthum i sylweddoli, mewn amgylchedd addysgu ar-lein, pa mor gyfyngedig oedd fy ymwybyddiaeth o ddealltwriaeth myfyrwyr o gynnwys y sesiwn ac o'u dysgu eu hunain. Dyna pryd cysylltais â’r gymuned ymarfer gefnogol ac ysbrydoledig yr wyf yn perthyn iddi, sef y rhwydwaith datblygu dysgu ym maes addysg uwch. Daeth yn amlwg i mi fod hyrwyddwyr addysgu a dysgu eraill ledled y byd yn cael problemau tebyg ac yn arbrofi gyda llwyfannau digidol amrywiol i wella eu dulliau dysgu. Dyma pryd y dysgais am Padlet.Ìý
Un rheswm pam y cefais fy nenu at Padlet, o gymharu â llwyfannau tebyg eraill, yw bod myfyrwyr yn gallu gwneud sylwadau yn ddienw. O brofiad, anaml y bydd myfyrwyr yn dymuno rhannu eu cwestiynau a’u syniadau yng nghwmni eu cyfoedion, yn enwedig pan ofynnir iddynt fyfyrio ar eu hadborth neu eu dewisiadau dysgu, sydd yn agweddau personol iawn ar ddysgu mewn prifysgol. Er enghraifft, byddai'n well gan fyfyrwyr ddefnyddio Padlet yn lle postio yn yr adran sgwrsio ar MS Teams yn ystod sesiynau ar-lein, lle mae'r holl gyfranogwyr yn gallu gweld eu henwau. Mae hyn hefyd yn wir am fyrddau trafod ar Blackboard. Rheswm arall, sy'n ddatblygiad diweddar, yw'r nodwedd pleidleisio newydd. Er mai dim ond pedwar cwestiwn y gall hwyluswyr eu hychwanegu ar gyfer pob arolwg barn ar hyn o bryd, mae'n ychwanegiad gwych at lwyfan cyfarwydd, ac yn arbed hwyluswyr rhag gorfod defnyddio mwy nag un llwyfan yn ystod yr un sesiwn. Yn olaf, dim ond un clic sydd angen ar fyfyrwyr i agor a defnyddio Padlet, gan nad oes rhaid iddynt fewngofnodi. Gall hwyluswyr ddefnyddio dolen we fyrrach neu god QR, sydd bob amser yn ddefnyddiol wrth rannu ar sleid PowerPoint.Ìý
Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio’r offer/adnodd hwn?ÌýÌý
Trwy ddefnyddio Padlet, fy nod oedd hwyluso dysgu myfyrwyr trwy gynnwys myfyrwyr ar y dechrau, er mwyn codi eu hyder i leisio eu barn. Gall agor sgwrs ddienw ar-lein fod yn sbardun gwych ar gyfer trafodaethau yn y cnawd, gwaith pâr a gwaith grŵp. Er enghraifft, tra bod myfyrwyr yn postio eu sylwadau dienw mewn ymateb i gwestiwn neu sbardun rwyf wedi ei bostio o'r blaen, rwy'n dangos y Padlet ar y sgrin er mwyn i bawb ei weld. Rwy’n darllen rhai sylwadau yn uchel, yn dibynnu ar faint y garfan, ac adeiladu ar y sylwadau hynny a nodi themâu cyffredin. Yna gellir trafod y rhain ymhellach yn y cnawd. Mae myfyrwyr eisiau adborth ar eu syniadau a'u sgiliau, ac mae arnynt angen hynny hefyd; felly, trwy hwyluso dysgu cyfoedion mewn Ìýamgylchedd dysgu heb ormod o bwysau, mae myfyrwyr yn teimlo'n ddiogel ac wedi eu grymuso i rannu, cwestiynu a dehongli.Ìý
I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offer/adnodd?Ìý
Rwyf wedi defnyddio Padlet yn bennaf i gasglu syniadau myfyrwyr ar rai agweddau ar eu hastudiaethau, megis 'sut ydych chi wedi mynd ati i wneud eich aseiniadau hyd yn hyn?', 'pa bryderon sydd gennych am eich astudiaethau academaidd?', a 'sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn?', ac ati. Yna trwy ganiatáu i fyfyrwyr wneud sylwadau ar bostiadau ei gilydd, gallaf hwyluso trafodaeth lle gall myfyrwyr gynnig atebion i sylwadau eu cyfoedion (e.e. pa bryderon sydd ganddynt am eu hastudiaethau academaidd).Ìý
Ydy, mae Padlet yn reddfol i'w ddefnyddio, o safbwynt yr hwylusydd a'r myfyriwr, gan nad oes rhaid mewngofnodi, ac mae cyfrannu sylw yn debyg i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r dewis i 'hoffi' sylwadau pobl eraill ac ymateb i sylwadau unigol hefyd yn debyg i’r cyfryngau cymdeithasol.Ìý
Sut effeithiodd yr offer/adnodd ar eich addysgu?Ìý
Un effaith amlwg ar fy addysgu oedd pa mor hawdd y gallwn gasglu syniadau myfyrwyr ar bwnc penodol; o ganlyniad, roeddwn yn gallu casglu dealltwriaeth amser real o anghenion a gwybodaeth myfyrwyr. Roedd yn ymddangos bod ymgysylltiad myfyrwyr yn ystod sesiwn yn aros yn gyson uchel ac roedd eu rhyngweithio yn y cnawd yn gyfoethocach oherwydd eu bod yn fwy hyderus i rannu eu syniadau ag eraill, ar ôl postio ar Padlet yn flaenorol.Ìý
Pa mor dda y perfformiodd yr offer/adnodd? A fyddech chi'n ei argymell?Ìý
Oherwydd ei fod yn syml ac yn ddienw, gellir defnyddio Padlet i dorri'r garw, fel ffordd o gynnwys myfyrwyr yn eu dysgu eu hunain, fel ffordd o gynyddu hyder myfyrwyr, ac fel ffordd o roi hwb i drafodaeth ar-lein a all barhau fel trafodaeth yn y cnawd. Byddwn yn argymell Padlet i hwyluswyr sydd am gynyddu ymgysylltiad myfyrwyr a dysgu cyfoedion.Ìý
Hyd yn oed gyda'i gyfyngiadau, sef dim ond pedwar Padlet gweithredol ar y tro a phedwar cwestiwn yn unig fesul arolwg barn, prin yw'r rhesymau dros beidio â defnyddio Padlet. Yr unig reswm sy’n dod i’r meddwl yw bod rhaid i hwyluswyr fod yn ofalus i beidio â’i orddefnyddio. Pan fydd cyfle i gael trafodaethau yn y cnawd rhwng myfyrwyr, gall Padlet fod yn ddefnyddiol fel man cychwyn, ond yna mae'n bwysig rhoi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn mwy o ryngweithio llafar.Ìý
Sut groeso gafodd yr offer /adnodd gan y myfyrwyr?ÌýÌý
Ymatebodd myfyrwyr yn dda iddo oherwydd ei symlrwydd ac mae llawer wedi nodi eu bod yn ei hoffi ac na fyddent wedi rhannu'r hyn a bostiwyd yn ddienw ar Padlet pe bai rhywun yn gofyn iddynt wneud hynny yn y cnawd. Roeddent hefyd yn mwynhau postio eu sylwadau a'u syniadau o fewn diogelwch eu dyfais symudol eu hunain.Ìý
Rhannwch 'Awgrym Da' i gydweithiwr sy'n newydd i'r offer/adnoddÌý
Archif Padlets anweithredol I roi rhywfaint o gyd-destun, ar hyn o bryd mae gennyf 42 Padlet yn fy ffolder 'archif' sy'n dyddio'n ôl 4 blynedd, a gallaf eu dadarchifo pryd bynnag sy’n rhaid i mi eu defnyddio eto, ac rwy'n gwneud hynny'n rheolaidd. Mae hyn yn dangos ei hyblygrwydd, gan nad wyf wedi talu ceiniog am ei ddefnyddio, a thrwy archifo Padlet gorffenedig mae hyn yn gwneud lle i rai newydd. Mae gwneud hynny yn fy ngalluogi i weithio o amgylch cyfyngiadau'r fersiwn am ddim, sydd ar hyn o bryd yn uchafswm o bedwar Padlet. Er enghraifft, unwaith y bydd Padlet yn llawn, a'r gyfres o sesiynau cymorth wedi eu cyflwyno, rwy'n allforio'r cynnwys llawn ac yn rhannu'r ddogfen hon gyda chydlynydd y modiwl, neu'n ei huwchlwytho i Blackboard, neu'n ei phostio'n uniongyrchol yn yr adran sgwrsio ar MS Teams. Yna, mae'r Padlet gwreiddiol yn barod i'w archifo, sy'n golygu na fydd myfyrwyr yn gallu gweld na golygu'r cynnwys. Trwy archifo'r Padlet, caiff ei dynnu o'r ffolder 'hafan' sydd yn ei dro yn gwneud lle i greadigaethau newydd.Ìý
Sut byddwn chi'n crynhoi'r profiad mewn 3 gair?Ìý
Llais myfyrwyr, wedi ei rymuso.Ìý
Deunyddiau darllen a argymhellir:Ìý
Gwefan 'Using Padlet for Teaching' University of Reading::
‘A guide to Padlet for online learning’ pdf gan Imperial College London:
Gwefan 'Technology Enhanced Learning and Design' University of Manchester:
°ä²â´Ú±ð¾±°ù¾±²¹»å²¹³Ü:Ìý
Gwefan ALDinHE: ÌýÌýÌý
Cyswllt am ragor o wybodaeth:Ìý
Dr Leila Griffiths: l.griffiths@bangor.ac.ukÌý