Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offeryn/adnodd hwnnw?
Roeddwn eisiau deall tueddiadau ymgysylltu ymysg myfyrwyr dylunio cynnyrch fel rhan o fy ngham 2 PGCertTHE, yn benodol wrth ddysgu trwy gyfarwyddyd fideo i ennill sgiliau graffeg ddigidol. Roeddwn wedi sylwi bod gostyngiad wedi bod mewn cyrhaeddiad o fewn dosbarthiadau a oedd yn cael eu cyflwyno trwy fideo, ac roeddwn eisiau deall graddau'r gostyngiad hwn a'r hyn y gellir ei wneud i wella ymgysylltiad a chyrhaeddiad.
Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio鈥檙 offeryn/adnodd hwn?
Drwy ddefnyddio Panopto, fy nod oedd defnyddio鈥檙 dadansoddeg dysgu sydd wedi鈥檌 hymgorffori i ennill dealltwriaeth o dueddiadau gwylio/ymgysylltu a chymharu鈥檙 data 芒 chyrhaeddiad academaidd a chanlyniadau arolygon myfyrwyr. Y nod ar 么l casglu a dadansoddi鈥檙 data oedd gwneud gwelliannau i fformat a chyflwyniad cyfarwyddyd fideo o fewn Dylunio Cynnyrch.
I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offeryn/adnodd?
Y prif fetrigau a gasglwyd gan Panopto oedd amser gwylio a chwblhau fideo ar gyfer pob myfyriwr. Gellir allforio'r data hwn o Panopto gyda'r lefel gywir o fynediad, ond yn fy achos i, es ati i fewnbynnu鈥檙 data 芒 llaw yn y diwedd. Yna cymharwyd y data 芒 chanlyniadau academaidd a ddangosodd gydberthynas rhwng amser gwylio a chwblhau fideo a marciau鈥檙 myfyrwyr. Roedd gostyngiad amlwg hefyd mewn amser gwylio a chwblhau fideo dros y 3 blynedd diwethaf, sy'n awgrymu bod arferion gwylio wedi newid. Helpodd y data a gasglwyd i fod yn sail i arolwg myfyrwyr manwl a thrafodaeth bellach cyn creu cyfres beilot o fideos.
Sut effeithiodd yr offeryn/adnodd ar eich addysgu?
Mae defnyddio Panopto i gyflwyno cyfarwyddyd ar sail fideo wedi fy ngalluogi i fonitro ac adolygu ymgysylltiad 芒 chynnwys fideo, ac wedi darparu metrigau allweddol i ddeall sut mae fy myfyrwyr yn defnyddio鈥檙 platfform. Ar 么l cyfuno hyn ag adborth gan y myfyrwyr, rhyddhawyd fformat diwygiedig o fideos i'w hadolygu gan fyfyrwyr.
Roedd y newidiadau鈥檔 cynnwys: 路
- Hyd cyffredinol byrrach 路
- Defnyddio penodau a nodau tudalen o fewn Panopto i segmentu fideo 路
- Canllaw ysgrifenedig i gefnogi pob fideo i fodloni anghenion dysgu amrywiol 路
- Cyflymder cyfarwyddyd cyffredinol cyflymach
Cafodd y newidiadau effaith sylweddol ar foddhad myfyrwyr ac ymgysylltiad myfyrwyr 芒鈥檙 deunydd. Roedd data o'r arolwg yn dilyn y gyfres beilot o fideos yn dangos bod dysgwyr yn ffafrio fideos byrrach yn sylweddol, bod dysgwyr yn ei chael yn haws ymgysylltu 芒鈥檙 fideos byrrach, a bod y fideos byrrach yn ddefnyddiol wrth ddatblygu eu sgiliau. Trwy gymryd amser i ddadansoddi data hanesyddol a deall beth mae myfyrwyr ei eisiau, rwyf wedi gallu mireinio fy llif gwaith. Mae cael canllaw ysgrifenedig i gefnogi fideo, yn ei hanfod, yn gweithredu fel sgript fideo, sy'n golygu llai o doriadau ac ail-recordio.
Pa mor dda y perfformiodd yr offeryn/adnodd. A fyddech chi'n ei argymell?
Mae Panopto yn llwyfan gwych i gyflwyno fideos oherwydd ei fod yn cysylltu 芒'ch modiwlau yn Blackboard. Mae'r llwyfan ei hun yn hawdd i staff a myfyrwyr ei lywio, ac mae'n cynnwys capsiynau aml-iaith. Mae鈥檔 hawdd recordio o fewn y platfform, ond oherwydd ei fod ar sail porwr, mae鈥檙 capasiti golygu鈥檔 gyfyngedig. Mae'r dadansoddeg sydd wedi鈥檌 ymgorffori wedi bod yn hynod werthfawr, er fy mhrif feirniadaeth yw nad yw'r adroddiadau a gynhyrchir yn awtomatig mor ddefnyddiol 芒 hynny, ac roeddwn yn ei chael hi'n haws trawsnodi鈥檙 ffigurau yr oeddwn eu hangen 芒 llaw - byddwch yn ofalus os oes gennych ddosbarthiadau sydd o fwy o faint!
Pa mor dda gafodd yr offeryn/adnodd ei dderbyn gan fyfyrwyr?
Mae dysgwyr wedi cyflwyno adborth hynod gadarnhaol ar y newidiadau a wnaed ac a gyflwynwyd trwy鈥檙 gyfres beilot o fideos. Roeddynt yn mwynhau'r fformat byrrach, y cyflymder cyflymach, y deunydd ategol ysgrifenedig a鈥檙 cymhorthion llywio megis stampiau amser a鈥檙 cynnwys yn Panopto. Mae'n anodd asesu gwir effaith y newidiadau a wnaed mewn perthynas 芒 pherfformiad academaidd myfyrwyr a'r ymgysylltu hirdymor, ond yn seiliedig ar y derbyniad cychwynnol gan fyfyrwyr, maent yn llawer mwy tebygol o ymgysylltu 芒'r cynnwys yn y fformat hwn, ac mae tystiolaeth yn dangos cydberthynas rhwng ymgysylltiad a marciau uwch.
Rhannwch 'Awgrym Da' ar gyfer cydweithiwr sy'n newydd i'r offeryn/adnodd
Fy awgrym da ar gyfer addysgu trwy fideos yw: Adnabod eich cynulleidfa. Peidiwch 芒 bod ofn cael trafodaethau anffurfiol neu ffurfiol gyda myfyrwyr, a darganfod beth maen nhw ei eisiau. Os ydych wedi datgysylltu 芒'r hyn y maen nhw ei eisiau a sut maen nhw'n dysgu, ni fyddant yn ymgysylltu 芒'r deunydd. Parhewch i adolygu ac ail-gyflwyno eich cynnwys gyda newidiadau gwybodus.
Sut byddwn chi'n crynhoi'r profiad mewn 3 gair?
Adnabod eich cynulleidfa.
Deunyddiau darllen a argymhellir:
Fyfield, M., Henderson, M., & Phillips, M. (2019). 25 principles for effective instructional video design. ASCILITE Publications, 418-423.聽
Martin, N. A., & Martin, R. (2015). Would you watch it? Creating effective and engaging video tutorials. Journal of Library & Information Services in Distance Learning, 9(1-2), 40-56.聽
Mayer, R. E. (Ed.). (2014). The Cambridge handbook of multimedia learning (2nd ed.). Cambridge: Cambridge University Press.
Cyswllt am ragor o wybodaeth:
Joshua Williams:聽josh.williams@bangor.ac.uk