Ysgol Busnes Bangor yn llwyddiannus yn arolwg PTES 2023
Gwelodd Arolwg Profiad 脭l-raddedigion Hyfforddedig (PTES) 2023 diweddar Ysgol Busnes Bangor ganlyniadau rhagorol. Mae gan yr ysgol enw da am addysg 么l-radd gyda channoedd o fyfyrwyr o bob rhan o'r byd yn graddio o'r ysgol bob blwyddyn.
Yr Arolwg Profiad 脭l-raddedigion Hyfforddedig yw鈥檙 unig arolwg ar draws y sector addysg uwch yn y Deyrnas Unedig i gael gwybodaeth oddi wrth fyfyrwyr 么l-radd hyfforddedig am eu profiad yn ymwneud 芒 dysgu ac addysgu. Eleni cafodd yr ysgol ganlyniadau gwych mewn sawl maes o'r arolwg.
Roedd Busnes a Rheolaeth yn 3ydd (allan o 85) ar gyfer y mesur Cyffredinol ac yn 4ydd (allan o 84) ar gyfer y mesur Addysgu. Daeth cefnogaeth i fyfyrwyr hefyd i'r amlwg gyda'r ysgol yn dod yn 4ydd (allan o 71) ar gyfer y mesur cefnogaeth.
Dywedodd yr Athro Owain ap Gwilym, Dirprwy Bennaeth Ysgol Busnes Bangor,
鈥淢ae dod yn 3ydd yn gyffredinol yn yr arolwg profiad 么l-raddedigion hyfforddedig Busnes a Rheolaeth (allan o 85 o sefydliadau) yn ganlyniad rhagorol i'r Ysgol Busnes. Mae鈥檔 adlewyrchu ymdrech aruthrol ein staff i ddarparu profiad dysgu rhagorol i鈥檔 myfyrwyr ac rydym yn falch iawn o鈥檙 llwyddiant hwn. Ochr yn ochr 芒 hyn, mae dod yn 4ydd am y gefnogaeth a ddarperir i fyfyrwyr gan yr Ysgol a'r brifysgol yn dyst i'r flaenoriaeth uchel y mae Bangor yn ei rhoi i hyn. Rydyn ni hefyd yn y 4ydd safle am y categori addysgu, sy'n dangos bod ansawdd y rhaglenni a'r cwricwlwm yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan fyfyrwyr. Byddwn yn ymdrechu i gynnal y rhagoriaeth hon fel y bydd myfyrwyr y dyfodol yn parhau i fwynhau un o'r profiadau gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer busnes a rheolaeth. Mae鈥檙 Ysgol wedi buddsoddi yn ei staff a鈥檌 chyfleusterau i ategu鈥檙 amcan hwn ymhellach.鈥