Sesiynau adolygu i fyfyrwyr lefel A
Mae'r adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd unwaith eto yn cynnig sesiynau adolygu i fyfyrwyr Lefel A. Mae'r sesiynau wedi ei chreu yn benodol i gefnogi myfyrwyr sy'n astudio tuag at Lefel A mewn Addysg Grefyddol ond hefyd yn ddefnyddiol i rheini sy'n astudio Lefel A mewn Athroniaeth. Rydym yn hynod o falch i allu cynnig y sesiynau yma unwaith eto o'r 2il o Ebrill hyd at yr 11eg o Ebrill.聽
Byddem yn cynnig sesiynau ar Fwdhaeth Lefel A am 11yb yn edrych ar bynciau fel Sutra'r Galon, Bwdhaeth Zen, Bwdhaeth yn y Gorllewin, Bwdhaeth Tibetaidd, Y Bwdha Hanesyddol, Y Tri Lakshanas, Y Llwybr Wythblyg, a Myfyrdod.
Yn dilyn hynny am 12.30yp mi fydd gennym sesiynau ar athroniaeth a chrefydd yn edrych ar bynciau fel, Iaith Grefyddol: Symbolaeth, Freud ar Gred Grefyddol, Iaith Grefyddol: Wittgenstein, Problem Drygioni, Y Ddadl Gynllunio, Y Ddadl Ontolegol, Y Ddadl Gosmolegol, a William James ar Brofiad Crefyddol.
I gau am 2yp fyddem yn cynnal sesiwn yn canolbwyntio ar Lefel A Moeseg. Byddem yn edrych ar bynciau fel Naturiolaeth a Sythwelediaeth, Ewyllys Rhydd a Phenderfyniaeth, Acwinas ar y Gydwybod, Y Ddeddf Naturiol, Moeseg Sefyllfaol, Iwtilitariaeth, ac Ewthanasia.
Mae pob sesiwn wedi ei dylunio gan o staff o'r adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhryfysol Bangor. Mae pob sesiwn hefyd wedi bod trwy 聽adolygiad gan arholwr Lefel A sydd ag arbenigedd yn y meysydd priodol. Rydym yn gyffrous i gynnig y sesiynau hyn yn rhad ac am ddim, a gynhelir ar blatfform Zoom.
I gofrestru dilynwch y聽.