Ddydd Sadwrn 2 Ragfyr bu aelodau鈥檙 Gerddorfa genedlaethol yn chwarae ochr yn ochr gydag ag aelodau o Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor ac aelodau o Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a M么n.
Dan ofal yr arweinydd, Ben Draper, roedd yn gyfle unigryw a chyffrous i aelodau cerddorfa鈥檙 Brifysgol ac aelodau鈥檙 gwasanaeth cerdd lleol gael profiad o berfformio gyda cherddorfa ryngwladol flaenllaw.
Bu鈥檙 cerddorion ifanc yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gan chwarae gweithiau gan Tchaikovsky, Gershwin, Beethoven a Dvo艡谩k, a gorffen trwy roi cyngerdd anffurfiol. Mae'r digwyddiad yn rhan o gydweithrediad parhaus rhwng yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Rydym yn teimlo鈥檔 hynod gyffrous o gael gweithio eto eleni gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i ddarparu profiad ymarferol i fwy na 30 aelod o Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor. Mae cydweithio proffesiynol o'r math hwn yn hwb enfawr i brofiad myfyrwyr ac yn sicrhau bod cyfleoedd celfyddydol o鈥檙 fath yn ymestyn y tu hwnt i'r brifddinas.
Mae mor bwysig bod cerddorion ifanc dawnus yn cael cyfarfod a gweithio gyda cherddorion cerddorfaol proffesiynol mewn achlysuron fel hyn, ac mae ein lleoliad yn golygu nad yw鈥檙 cyfleoedd hyn yn dod mor aml 芒 hynny. Byddai鈥檙 sain hyfryd yn Neuadd PJ fore Sadwrn wedi bod yn rhywbeth hollol newydd i鈥檔 disgyblion a gwn y byddant wedi gadael wedi鈥檜 hysbrydoli ac yn llawn dyhead. Llwyddodd yr arweinydd i gynnig sesiwn a oedd yn hygyrch i bawb heb or-symleiddio鈥檙 cynnwys. Rwyf mor ddiolchgar i鈥檙 Brifysgol am wneud hyn yn bosibl ac fel gwasanaeth cerdd, rydym wrth ein bodd gyda鈥檙 berthynas. Rwy鈥檔 mawr obeithio y bydd llawer mwy o gyfleoedd ar gyfer digwyddiadau a chydweithio tebyg yn y dyfodol.
Profiad bythgofiadwy
Dyma ddywedodd Martha a Leah, dwy o ddisgyblion Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a M么n,
鈥淩oedd cael chwarae heddiw鈥檔 brofiad gwych, a dwi鈥檔 meddwl ein bod wedi chwarae鈥檔 dda iawn, roedd yn foment i鈥檞 wynhau. Roedd yn dda gweld sut oedd y gerddorfa鈥檔 cyd-weithio, a chael gweld y math o gerddoriaeth maen nhw鈥檔 ei chwarae a sut 聽mae pawb yn dod ynghyd i greu cerddoriaeth wych.鈥
Meddai Will Bradley, myfyriwr BMus yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor,
鈥淩oedd cael y cyfle i chwarae ochr yn ochr 芒 cherddorion gwych yn brofiad hollol ysbrydoledig a bythgofiadwy!鈥