Heddiw, mae wyth myfyriwr ac un cyn-fyfyriwr sydd bellach yn athrawes wedi ennill Gwobrau Heddychwyr Ifanc yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Ers mis Mawrth eleni, mae saith myfyriwr israddedig mewn Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ac un myfyriwr PhD Athroniaeth a Chrefydd, ynghyd 芒 chyn-fyfyriwr Athroniaeth a Chrefydd, Emilia Johnson, sydd bellach yn athrawes, wedi creu adnoddau dysgu newydd sbon i athrawon er mwyn i ddysgyblion ddysgu rhagor am Heddwch yng Nghyfnod Allweddol 3.
Wedi鈥檌 drefnu ar y cyd gan (WCIA), ac , mae鈥檙 Gwobrau Heddwchwyr Ifanc blynyddol yn dathlu plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi cyfrannu at heddwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb yn eu hysgol, gr诺p ieuenctid, eu cymuned leol neu yn y byd ehangach. Enwebwyd myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn y categori Treftadaeth Heddwch Ifanc, a feirniadwyd gan .
Datblygwyd yr adnoddau gan gr诺p Prifysgol Bangor ar gyfer yr elusen a ym Mhrifysgol Bangor, Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, sy鈥檔 cefnogi athrawon a myfyrwyr wrth iddynt ymwneud ag Addysg Grefyddol, Gwerthoedd a Moeseg a鈥檙 Dyniaethau ar draws Cyfnodau Allweddol 3, 4. a 5.
Mae鈥檙 adnoddau鈥檔 cynnwys gwersi am ryfel a heddwch, bwlio, crefydd a gwrthdaro, jihad, symbolau heddwch, Deiseb Heddwch Merched, a Henry Richard: Apostol Tangnefedd, ymhlith pynciau eraill.
Dywedodd Rebecca Wilson o WCIA, "Bydd yr adnoddau hyn yn helpu myfyrwyr i archwilio heddwch yn fanwl a datblygu sgiliau fel meddwl beirniadol, ymholiad gwerthfawrogol, a'r gallu i gyfathrebu ar bynciau'n ymwneud 芒 heddwch. Dangosodd y gr诺p ddealltwriaeth gyffredinol o gymhlethdodau a phwysigrwydd heddwch. Mae eu cydweithrediad i gyflawni鈥檙 nod hwn yn dangos eu hymrwymiad i鈥檙 gwaith ac mae eu gallu i greu cysylltiadau ar gyfer treftadaeth heddwch ledled Cymru i鈥檞 ganmol. Llongyfarchiadau!鈥
Meddai鈥檙 darlithydd Dr Gareth Evans-Jones, a weithiodd gyda鈥檙 gr诺p a鈥檜 henwebu ar gyfer y Wobr Heddychwyr Ifanc,
鈥淢i wnes i enwebu'r criw oherwydd pa mor wirioneddol eiddgar oedden nhw am y pwnc a hefyd am greu adnoddau arbennig o'r fath. Roedd pob un wedi cyfrannu'n enfawr at y prosiect ac roedd y sawl sydd yn ystyried mynd yn athrawon wedi cael profiad buddiol yn cydweithio efo Emilia, a hyd yn oed y rhai nad ydyn nhw am fynd yn athrawon, wedi cael budd o greu adnoddau o'r fath.Llongyfarchiadau i bob un ohonynt ar y wobr haeddianol yma. Y nod ydi y bydd y pecyn addysg cyfan ar gael ddiwedd y flwyddyn yma, ond bydd blas ohono'n cael ei rannu ar 21 Medi - Diwrnod Heddwch y Cenhedloedd Unedig.鈥