Gwobr flynyddol yw Llyfr y Flwyddyn sy鈥檔 cael ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru i ddathlu gwaith llenorion Cymreig talentog sy鈥檔 rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a鈥檙 Saesneg.
Cyhoeddwyd y gwobrau nos Iau 13 Gorffennaf, gyda Pridd gan Ll欧r Titus (Gwasg y Bwthyn) yn ennill Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn a hynny wedi i鈥檙 gyfrol hefyd ddod yn fuddugol yn y Wobr Ffuglen.听
Gwobrwywyd llyfrau mewn pedwar categori yn y ddwy iaith 鈥 Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol听a听Phlant a Phobl Ifanc.听Cyhoeddwyd hefyd pa lyfrau oedd ffefrynnau鈥檙 cyhoedd yng ngwobrau Barn y Bobl Golwg360 a鈥檙 Wales Arts Review.
听
Yr Enillydd Cymraeg - Pridd gan Ll欧r Titus (Gwasg y Bwthyn)
Yn ei nofel fer, Pridd, mae Ll欧r Titus yn creu darlun cignoeth ond cyfareddol o fywyd Hen 糯r yng nghefn gwlad Ll欧n. Drwy bedwar tymor y flwyddyn mae ddoe a heddiw, tristwch a llawenydd a holl flerwch byw yn llifo i鈥檞 gilydd. Draw yn y caeau mae鈥檙 hen gerrig mawr yn llefaru eu doethineb. Ac mae鈥檙 Llwynog yn llercian.
Graddiodd Ll欧r Titus o Fangor mewn Cymraeg, ac aros i wneud MA mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ac yna PhD mewn Cymraeg. Mae wedi gwneud enw iddo鈥檌 hun ym maes llenyddiaeth gan ennill coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 a鈥檙 Fedal Ddrama'r flwyddyn wedyn. Mae wedi cyhoeddi tair nofel erbyn hyn, sef Pridd, Anfadwaith a Gwalia, a enillodd wobr Tir na n-Og yn 2016. Mae Ll欧r hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan Fr芒n Wen, tra oedd yn fyfyriwr yn y Brifysgol.
听
听
Enillydd Gwobr Ffeithiol Greadigol- Cylchu Cymru gan Gareth Evans Jones (Y Lolfa)
Gareth Evans Jones yw enillydd y wobr Ffeithiol Greadigol eleni, am ei lyfr Cylchu Cymru, (Y Lolfa). Disgrifir y llyfr fel cyfrol o bigion llenyddol micro sy鈥檔 rhoi cipolwg cryno ar wahanol leoliadau yng Nghymru - eu straeon, eu hanes, eu chwedlau a'u swyn.
Ac yntau hefyd wedi graddio o Brifysgol Bangor mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol, cyn gwneud MA mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol, ac yna PhD ar y cyd rhwng yr adran Athroniaeth a Chrefydd a鈥檙 adran Gymraeg, mae Gareth hefyd wedi gwneud cryn enw iddo ei hun fel awdur. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, ac eto yn Eisteddfod AmGen 2021. Mae wedi cyhoeddi dwy nofel, sef Eira Llwyd ac Y Cylch, a bu ei ddrama Ynys Alys ar daith o amgylch Cymru.
Meddai Ruth Mcelroy, Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau,
鈥淩ydym yn falch iawn o weld dau o'n cyn-fyfyrwyr yn ennill y gwobrau mawreddog hyn. Maent yn tystio i ymrwymiad dwfn yr Ysgol i lenyddiaeth Gymraeg dros flynyddoedd lawer. Dyma lyfrau y bydd darllenwyr yng Nghymru yn eu mwynhau鈥檔 arw, os nad ydyn nhw wedi鈥檜 darllen nhw eisoes.
Llongyfarchiadau gwresog i Ll欧r a Gareth - rydym yn falch iawn ohonoch chi'ch dau!鈥
Meddai Dr Aled Llion Jones, pennaeth Adran y Gymraeg,
"Testun cryn falchder inni yn Adran y Gymraeg oedd gweld pump o'n cyn-fyfyrwyr yn cyrraedd y rhestr fer eleni, a gwych nawr yw cael dathlu llwyddiannau arbennig Ll欧r a Gareth, a'u gweisg. Llongyfarchiadau gwresog iawn iddynt. Dyma gyfle i ymfalch茂o yn y diwylliant cyhoeddi sydd gennym yng Nghymru, a chofio cystal myfyrwyr sydd gennym ym Mangor.'