Lansiwyd ap cod agored newydd a fydd yn hwyluso鈥檙 ffordd y mae ymchwilwyr yn casglu data am boblogaethau dwyieithog sy鈥檔 siarad iaith leiafrifol/lleiafrifedig neu ranbarthol yn ogystal ag iaith fwyafrifol.
Datblygwyd yr ap gan d卯m ymchwil Agweddau at Iaith sydd o fewn Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau Prifysgol Bangor, ac mae鈥檔 cynnig siop un stop ar gyfer pedwar math gwahanol o ddulliau casglu data a ddefnyddir yn gyffredin mewn ymchwil dwyieithog.
Cr毛wyd yr ap fel rhan o broject ymchwil mawr parhaus a ariennir gan y , sy鈥檔 ymchwilio i ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yng Nghymru, Lombardi yng ngogledd yr Eidal, a鈥檙 gymuned Almaeneg ei hiaith yn Nwyrain Gwlad Belg.
Darganfu'r t卯m fod dulliau ar gyfer casglu data ar ddwyieithrwydd yn parhau i fod ar bapur yn bennaf, a bod yr ychydig iawn o ddulliau digidol oedd ar gael yn cyfyngu'n fawr ar eu gallu.
Er mwyn mynd i'r afael 芒 hyn, mae'r t卯m wedi datblygu'r , sy鈥檔 cynnwys pedwar dull gwahanol o gasglu data a ddefnyddir yn eang ym maes ymchwil dwyieithog:
- Proses gydsyniad gwybodus digidol, gan gynnwys taflenni gwybodaeth i gyfranogwyr a ffurflenni cydsynio.
- Holiadur Iaith a Chefndir Cymdeithasol Holiadur cynhwysfawr sy'n casglu gwybodaeth am ddefnydd iaith, hyfedredd, a chefndir cymdeithasol unigolion.
- Holiadur Agweddau tuag at Ieithoedd
- Dull digidol i fesur agweddau at iaith trwy'r patrwm gwerthuso siaradwyr.
Wrth siarad am y Cynorthwyydd Ymchwil L'ART, dywedodd y cyd-ddatblygwr Dr Marco Tamburelli o Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor,
听
听
Ein nod oedd creu dull a fyddai鈥檔 gwneud ymchwil mewn ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn hawdd i鈥檞 efelychu, yn fwy hygyrch ac yn fwy effeithlon. Gyda鈥檙 Cynorthwyydd Ymchwil L'ART, rydym yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni hyn. Rydw i, datblygwr arweiniol yr ap Florian Breit ac Ianto Gruffydd a arweiniodd y profion maes yn gyffrous i rannu鈥檙 dull newydd cyffrous hwn gydag ymchwilwyr ledled y byd drwy ei wneud yn god agored ac am ddim, a gobeithiwn y bydd yn cyfrannu at hyrwyddo ymchwil ym maes ieithyddiaeth.
听
Dyluniwyd yr ap i fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn hygyrch i ymchwilwyr sydd ag ychydig neu ddim profiad o raglennu. Mae鈥檔 ap bwrdd gwaith y gellir ei lawrlwytho a鈥檌 ddefnyddio all-lein, ac mae ar gael ar hyn o bryd yn Gymraeg, Saesneg, Almaeneg, Groeg ac Eidaleg.
Yn 么l datblygwyr yr ap, mae potensial mawr hefyd iddo gael ei ddefnyddio fel dull addysgu, yn enwedig mewn perthynas ag ymchwil traethawd hir.
听鈥淵n aml mae angen i fyfyrwyr ieithyddiaeth sy'n gweithio gyda phoblogaethau dwyieithog greu eu holiaduron cefndir eu hunain, sy'n gallu cymryd llawer o amser ac yn dueddol o gynnwys gwallau. Gyda'r ap hwn, gall myfyrwyr ddefnyddio holiadur sy'n bodoli eisoes sydd wedi'i ddilysu gan ymchwilwyr yn y maes,鈥 eglura Marco.
Mae'r ap eisoes wedi derbyn adborth cadarnhaol gan ymchwilwyr yn cynnwys Dr Cynog Prys, Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ac Is-gadeirydd y gweithgor Hawliau Iaith o fewn y rhwydwaith pwysig LITHME (Language in the Human-Machine Era) a ariennir drwy鈥檙 Cydweithredu Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ewropeaidd:
听
Mae deall agweddau at iaith cymunedau ieithoedd lleiafrifol yn hollbwysig er mwyn cadw a hyrwyddo鈥檙 ieithoedd hyn ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.
鈥淢ae cael pecyn cymorth digidol sy鈥檔 hwyluso casglu, storio a throsglwyddo data ymchwil yn ddatblygiad hynod gyffrous. Rwy鈥檔 hyderus y bydd cymunedau iaith ledled y byd yn defnyddio鈥檙 adnoddau gwych hyn gan gynnwys myfyrwyr ac ymchwilwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd.
Mae'r t卯m a wnaeth yr ap yn bwriadu parhau i'w ddatblygu, gyda'r gobaith o wella ei alluoedd ac ychwanegu rhagor o ieithoedd a nodweddion yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen y project: L'ART | Prifysgol Bangor
听