Academydd o Fangor yng Ng诺yl Lenyddiaeth Fwyaf Asia
Dychwelodd yr Athro Zo毛 Skoulding (Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau) yn ddiweddar o Kerala. Bu鈥檔 cynnal cyfres o berfformiadau barddoniaeth, sgyrsiau a gweithdai, a hynny yng Ng诺yl Lenyddiaeth Kerala yn gyntaf ac yna fel bardd preswyl gyda Sefydliad D C Kizhakemuri yn Vagamon (DCSMAT). Roedd ei hymweliad yn rhan o Broject Eco-farddoniaeth Y Deyrnas Unedig-India a gydlynwyd gan Llenyddiaeth Dros Ffiniau. Cafodd ei ariannu鈥檔 rhannol gan TAITH, y cynllun newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer symudedd ymchwil mewn Addysg Uwch.
Caiff y project yn ei gyfanrwydd, sy鈥檔 cynnwys y ddeuawd gydweithredol, montenegrofisher o鈥檙 Deyrnas Unedig-Chile, y bardd-gyfieithydd o鈥檙 Alban-Mecsico, Juana Adcock, y bardd o Kerala, Anita Thampi a鈥檙 Cymro, Iestyn Tyne, ei gynnal yn y cnawd ac yn rhithwir hyd at fis Mawrth. Mae'n cynhyrchu barddoniaeth, cyfieithiadau a pherfformiadau cydweithredol newydd yngl欧n 芒 materion amgylcheddol, yn ogystal 芒 pherfformiadau, gweithdai creadigol a sgyrsiau gyda myfyrwyr mewn sefydliadau Addysg Uwch yn India.
Dywed Zo毛, 鈥淩oedd yn gyfle gwych i gysylltu 芒 diwylliant unigryw Kerala, ac i gwrdd 芒 beirdd sy鈥檔 ysgrifennu ym Malayalameg. KLF yw g诺yl lenyddol fwyaf Asia ac mae鈥檔 ddigwyddiad pwysig i amrywiaeth ddiwylliannol yn India, ac felly roedd yn anrhydedd cael cyfrannu ati. Wrth i鈥檙 project fynd rhagddo, edrychwn ymlaen at ddatblygu deialogau hirdymor gydag awduron, academyddion, artistiaid a myfyrwyr sydd 芒 diddordeb mewn sut y gall barddoniaeth ymateb i heriau ecolegol. Mae digwyddiadau pellach ar y gweill fel rhan o Gymru yn India 2024.鈥