Cronfa Bangor yn cefnogi ymweliad i Archifau Stanley Kubrick
Diolch i Gronfa Bangor sy鈥檔 cael ei weinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, cafodd gr诺p o ddeg o selogion Kubrick o鈥檙 Adran Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol, Ffilm, y Cyfryngau a Newyddiaduraeth yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau gyfle i archwilio Archifau Stanley Kubrick ym Mhrifysgol Celfyddydau Llundain. Roedd y myfyrwyr israddedig yn dilyn y modiwl Stanley Kubrick: Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr, sy鈥檔 cael ei addysgu gan yr Athro Nathan Abrams.
Cawsant eu tywys o amgylch y Ganolfan Archifau a Chasgliadau Arbennig, lle gwelsant femorabilia anhygoel sy鈥檔 gysylltiedig 芒 Kubrick, megis esgidiau Converse coch Danny Torrance o The Shining. Cawsant hefyd drin deunyddiau gwreiddiol o ffilmiau Kubrick ac edrych ar yr ystafell ddiogel lle c芒nt eu storio.
Yr Athro Nathan Abrams o'r Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau: 鈥淒w i wedi bod yn ymweld ag Archifau Stanley Kubrick ers 2012 ac yr oedd yn wych i gael rhannu鈥檙 profiad yma gyda fy myfyrwyr. Dw i鈥檔 ddiolchgar iawn i Gronfa Bangor am y cyfle.鈥
Dywedodd Madalin Matthewson, myfyrwraig Astudiaethau Ffilm a Chynhyrchu yn ei hail flwyddyn, 鈥淩oedd archifau Stanley Kubrick yn ardderchog ac roedd y staff yn gyfeillgar a chymwynasgar iawn. Roedd yn brofiad gwych i unrhyw un sy'n caru Kubrick a'i ffilmiau.鈥
Ychwanegodd Persida Chung, Swyddog Datblygu, "Rydym bob amser yn hapus i gefnogi prosiectau fel y rhain ac rydym yn ddiolchgar iawn i'n rhoddwyr hael am eu cefnogaeth barhaus fel y gallwn ddarparu profiad gwerth chweil i fyfyrwyr."