Cronfa Bangor yn cefnogi cynllun cyfnewid rhyngwladol i fyfyrwyr coedwigaeth a rheoli coetiroedd
Cymerodd gr诺p o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, ynghyd 芒 Dr Ashley Hardaker, Dr Tim Peters a Dr Tim Pagella, ran mewn cynllun cyfnewid rhyngwladol gyda Phrifysgol Freiburg. Gyda chyllid gan Gronfa Bangor, a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, cychwynnodd y gr诺p ar daith wythnos o hyd o amgylch coetiroedd yn ne orllewin Lloegr, gan feithrin dysgu trawsddiwylliannol ym maes coedwigaeth a rheoli coetiroedd.
Deilliodd y cyfnewid o drafodaethau rhwng staff Bangor a Freiburg, gan arwain at daith astudio ar y cyd gyda'r nod o gynyddu鈥檙 wybodaeth a rennir rhwng y ddwy brifysgol. Caniataodd y daith i fyfyrwyr Bangor ymweld 芒 gwahanol safleoedd, gan gynnwys Fforest y Ddena, Coedwig Lady Park, a choetiroedd yn Nyffryn Gwy. Roedd y prif ymweliadau yn cynnwys ymweld 芒 phroject creu coetir yng Nghwm Fagor a thaith o amgylch coedwigoedd derw hynafol Exmoor, dan arweiniad arbenigwyr a rannodd eu gwybodaeth am reoli coetiroedd, cadwraeth, a phrosesau ecolegol.
Trwy gydol yr wythnos, cafodd myfyrwyr gyfle i ddysgu am arferion coedwigaeth, cyfnewid syniadau, gwneud ffrindiau a mwynhau鈥檙 golygfeydd hyfryd. Cafodd y myfyrwyr gyfle i drafod materion fel gwrthdaro buddiannau o ran defnydd tir, strategaethau cadwraeth, a dyfodol coedwigaeth yn y Deyrnas Unedig a鈥檙 Almaen. Daeth y daith i ben gydag ymweliadau 芒 choetiroedd Dugiaeth Cernyw a Landhydrock House yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Meddai Dr Ashley Hardaker, 鈥淩oedd y daith yn brofiad addysgol pwysig i鈥檙 myfyrwyr, ac maen nhw鈥檔 hynod ddiolchgar am hynny.鈥
Meddai Persida Chung, Swyddog Datblygu, 鈥淩ydym yn ddiolchgar iawn i鈥檔 cyn-fyfyrwyr am eu cyfraniadau hael at Gronfa Bangor. Mae eu cefnogaeth yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiadau ystyrlon a chofiadwy yn ystod eu cyfnod ym Mangor.鈥