Cronfa Bangor yn cefnogi Cronfa Fuddsoddi yn Ysgol Busnes Bangor
Yn ddiweddar mae Ysgol Busnes Bangor wedi elwa o grant gan Gronfa Bangor, a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, i sefydlu Cronfa Fuddsoddi a reolir gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae rhoddion i Gronfa Bangor gan ein cyn-fyfyrwyr hael yn galluogi鈥檙 Brifysgol i ariannu projectau megis hwn, sy鈥檔 helpu i roi hwb i brofiad ein myfyrwyr a rhoi cyfleoedd iddynt gynyddu eu cyflogadwyedd.
Mae cronfeydd a reolir gan fyfyrwyr yn rhoi theori academaidd sy鈥檔 cael ei addysgu yn y ddarlithfa ar waith yn y marchnadoedd ariannol go iawn, gan ganiat谩u i fyfyrwyr fasnachu ag arian go iawn a rhoi profiad ymarferol iddynt o reoli buddsoddiadau. Mae ysgolion busnes yn defnyddio lloriau masnachu ar-lein i ddatblygu sgiliau eu myfyrwyr ac, er bod cefndir damcaniaethol cryf mewn marchnadoedd ariannol byd-eang yn hollbwysig, mae cael cyfle ymarferol i ddefnyddio鈥檙 sgiliau hynny鈥檔 aml yn rhoi mantais i fyfyrwyr o ran gwneud cais am swyddi. Bydd y Gronfa Fuddsoddi yn Ysgol Busnes Bangor yn arf addysgol diriaethol ac ymarferol, wedi鈥檌 chynllunio i ategu鈥檙 hyn a ddysgir mewn darlithoedd.
Bydd y swm a ddyfarnwyd o 拢12,500 yn cael ei fuddsoddi gan fyfyrwyr yn ecwiti cwmn茂au a restrir ar y farchnad stoc neu mewn cronfa indecs gyswllt (e.e. FTSE 100 ETF). Bydd unrhyw elw o'r Gronfa Fuddsoddi鈥檔 cael ei roi tuag at brojectau cynaliadwyedd yn y Brifysgol.
Bydd y gronfa鈥檔 cael ei goruchwylio gan fwrdd ymgynghorol, a fydd yn gosod y paramedrau risg, ond y myfyrwyr fydd yn gyfrifol am y penderfyniadau rheoli a buddsoddi o ddydd i ddydd. Bydd gofyn i fyfyrwyr adnabod tueddiadau macro-economaidd, cwblhau gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar gwmn茂au a chyflwyno syniadau a strategaethau cyn buddsoddi. Bydd y broses hon yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau beirniadol a dadansoddol y tu allan i'w cwrs a rhoi'r cyfrifoldeb iddynt dyfu'r Gronfa Fuddsoddi. Gall myfyrwyr gyflwyno syniadau buddsoddi sy鈥檔 ymestyn yn hwy na鈥檜 cwrs ym Mhrifysgol Bangor, a fydd yn rhoi cyfle i wahodd myfyrwyr yn 么l i drafod sut mae eu buddsoddiad wedi dod yn ei flaen ar 么l graddio, a thrwy hynny wella鈥檙 berthynas 芒鈥檔 rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr.
Bydd effaith y grant hwn i鈥檞 weld drwy gydol 2023/24 a鈥檙 blynyddoedd academaidd dilynol gan y myfyrwyr sy鈥檔 ymwneud yn uniongyrchol 芒鈥檙 gronfa, a hefyd gan y Brifysgol ehangach, wrth i elw o鈥檙 buddsoddiadau gael ei roi tuag at brojectau cynaliadwyedd.听
Dywedodd Dr Ed Jones o Ysgol Busnes Bangor, 鈥淣i fyddai鈥檙 gweithgareddau hyn wedi bod yn bosibl heb haelioni Cronfa Bangor.听 Rydym yn ddiolchgar am y cyfle a roddir gan y wobr hon ac yn cydnabod yr effaith a gaiff ar fyfyrwyr ar draws y Brifysgol, gan gynnwys gwella eu dealltwriaeth o鈥檙 deunydd a addysgir, eu hymgysylltiad, a鈥檜 cyflogadwyedd.鈥
Meddai Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr: 鈥淢ae rhoddion i Gronfa Bangor gan ein cyn-fyfyrwyr hael yn galluogi鈥檙 Brifysgol i ariannu projectau megis hwn, sy鈥檔 helpu i roi hwb i brofiad ein myfyrwyr a rhoi cyfleoedd ychwanegol iddynt gynyddu eu cyflogadwyedd!鈥
听
Am ragor o wybodaeth am Gronfa Bangor, cysylltwch 芒 Persida Chung, Swyddog Datblygu, drwy e-bostio听p.v.chung@bangor.ac.uk