Ceir cyfoeth o ymchwil sy鈥檔 dangos bod rhaglenni magu plant sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn gweithio ond mae llawer llai yn gofyn sut a pham maent yn gweithio. Mae鈥檔 aml yn heriol i ddarparwyr gwasanaethau nodi ymyriadau effeithiol o ystyried y cannoedd o raglenni sydd ar gael, ond yr un mor bwysig, canfod pa adnoddau a lefelau arbenigedd sydd eu hangen i weithredu鈥檙 ymyriad dan sylw mewn modd effeithiol yn eu gwasanaeth. Mae darparu ymyriadau fel y bwriadwyd yn wreiddiol gan y datblygwr, a elwir yn gywirdeb gweithredu, yn bwysig gan ei fod yn sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael mynediad at gymorth effeithiol. Mae deall yr heriau a wynebir gan ddarparwyr gwasanaethau wrth roi ymyriad ar waith yn rhan hanfodol o sicrhau cywirdeb gweithredu.
Un o'n nodau yw rhoi ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith ar raddfa fawr. I wneud hyn mae鈥檙 Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth yn gweithio'n agos gyda darparwyr gwasanaethau i nodi a mynd i'r afael 芒 heriau i weithredu effeithiol. Mae ein hymchwil yn nodi'r ffactorau sy'n gysylltiedig 芒 gweithredu llwyddiannus ac yn lledaenu'r wybodaeth hon i ddarparwyr
Uchafbwyntiau ymchwil
Gweithredu rhaglenni magu plant a chyn-ysgol
Atal anhwylder ymddygiad yn gynnar
Gweithredu鈥檙 rhaglenni Blynyddoedd Rhyfeddol i blant ac athrawon ar raddfa fawr yng Nghymru
Meddwl cydgysylltiedig, gwasanaethau cydgysylltiedig, archwilio鈥檙 heriau o sicrhau bod y gwasanaethau鈥檔 gweithio i deuluoedd ag anghenion cymhleth