Mae gan y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ddiddordeb arbennig mewn edrych ar effeithiolrwydd gwahanol ymyriadau gan gynnwys rhaglenni magu plant a rhaglenni yn yr ysgol. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau yn dibynnu ar lefel y dystiolaeth ar gyfer y rhaglen. Defnyddir astudiaethau dichonoldeb i weld pa mor dderbyniol yw鈥檙 ymyriad i gyfranogwyr ac ymarferwyr, dichonoldeb darparu鈥檙 ymyriad mewn lleoliadau go iawn, ac archwiliad cychwynnol o ganlyniadau. Yna cynhelir astudiaethau peilot i edrych ar y canlyniadau ymhellach cyn cynnal hap-dreialon rheoledig i brofi effeithiolrwydd yr ymyriad yn llawn. Mae ein projectau wedi ymchwilio i raglenni magu plant a ddarparwyd i rieni plant 芒 phroblemau ymddygiad, anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, anawsterau diffyg canolbwyntio, oediad iaith, gofalwyr maeth; rhaglenni yn yr ysgol i blant gydag anawsterau cymdeithasol-emosiynol, rheolaeth dosbarth i athrawon ac atal bwlio.
Ein prif nod yw ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar ymyrraeth gynnar i blant a theuluoedd. Rydym yn gwneud hyn drwy weithio'n agos gyda darparwyr gwasanaeth i asesu a oes unrhyw fylchau yn y gefnogaeth i blant a/neu deuluoedd, edrych ar rwystrau i ddarparu ymyriadau, ac edrych ar y defnydd o ymyriadau gyda phoblogaethau gwahanol. Rydym yn gweithio gyda lleoliadau fel ysgolion, meithrinfeydd, gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau niwroddatblygiadol, gwasanaethau iechyd meddwl i blant a鈥檙 glasoed, ac ymwelwyr iechyd.
听
听
Uchafbwyntiau ymchwil
Ymyrraeth magu plant mewn gwasanaethau Cychwyn Cadarn i blant sydd mewn perygl o ddatblygu anhwylder ymddygiad
Atal problemau iechyd meddwl ymhlith plant yn ne-ddwyrain Ewrop
Cyflwyno rhaglen wrth-fwlio KiVa mewn ysgolion yn y Deyrnas Unedig
Rhaglen wella sgiliau magu plant
Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol i rieni plant ar y sbectrwm awtistiaeth a chydag oediad iaith
Meithrin hyfedredd cymdeithasol ac emosiynol mewn plant ysgol
Hap-dreial rheoledig o effaith rhaglen rheoli dosbarth i athrawon ar ymddygiad plant sydd 芒 phroblemau ymddygiad a phlant sydd heb broblemau ymddygiad yn y dosbarth
Ymyriadau ymddygiadol/gwybyddol-ymddygiadol magu plant mewn gr诺p i blant