Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
Stand Together

Stand Together

Cefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol plant mewn ysgolion

Ìý

Mae’r treial Stand Together wedi dangos bod cynnwys yr ysgol gyfan wrth fynd ati i leihau bwlio yn gweithio.

Ar ôl saith mlynedd o dreialu rhaglen gwrth-fwlio ysgolion KiVa o’r Ffindir yn y Deyrnas Unedig, ariannodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd treial hapsamplu clystyrau rheolyddedig mawr ar draws sawl canolfan, gyda’r nod o werthuso effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd KiVa, (rhaglen gwrth-fwlio ysgol gyfan). Roedd y treial yn cynnwys 11,000 o blant ac 118 o ysgolion cynradd.

Ymchwil a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd Barn yr awdur(on) yw'r safbwyntiau a fynegir ac nid o reidrwydd barn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd na'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ìý

Logos Stand Together

Cydweithwyr

Daeth llawer o gydweithwyr ynghyd o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer y Treial Stand Together. Daw aelodau ein tîm o Brifysgol Bangor (noddwr y treial), Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Warwig.

Rheolwyd y treial gan y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd.

Prifysgol BangorÌý (Canolfan Gogledd Cymru)

Prifysgol Rhydychen (Canolfan Swydd Rhydychen)

  • Yr Athro Lucy Bowes: Cyd-brif ymchwilydd ac arweinydd y treial yn Rhydychen
  • Naomi RoseÌýÌý Ìý

Prifysgol Warwig (Canolfan Birmingham)

  • Yr Athro Richard Hastings: Arweinydd y treial
  • Dr Julia Badger: Uwch gymrawd ymchwil

Prifysgol Caerwysg (Canolfan Swydd Dyfnaint)

  • Dr Rachel Hayes: Uwch gymrawd ymchwil

Prifysgol Caerdydd (Canolfan Treialon Ymchwil)

  • Dr Julia TownsonÌýÌý Ìý
  • Dr Elinor CoulmanÌýÌý Ìý
  • Dr Rebecca Cannings-JohnÌýÌý Ìý
  • Dr Jeremy SegrottÌýÌý Ìý
  • Dr Fiona Lugg WidgerÌýÌý Ìý
  • Melanie VarleyÌýÌý Ìý
  • Helin GosaliaÌýÌý Ìý
  • Mackenzie FongÌýÌý Ìý
  • Mia SydenhamÌýÌý Ìý
  • Eleri Owen-JonesÌýÌý Ìý
  • Malavika BabuÌýÌý Ìý

Sefydliad Iechyd Meddwl, Prifysgol Birmingham

  • Sadja ButtÌýÌý Ìý
  • Chris ChiswellÌýÌý Ìý
  • Matthew BroomeÌýÌý Ìý

Adran Seiciatreg, Prifysgol Caergrawnt

  • Yr Athro Tamsin FordÌýÌý Ìý

Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Merched a Phlant Birmingham

  • Dr Paul PattersonÌýÌý Ìý
  • Catlin MurrayÌýÌý Ìý
  • Bryony LongdonÌýÌý Ìý
  • Hayley GainsÌýÌý Ìý
  • Paul PattersonÌýÌý Ìý

Ìý

Cefndir

Bwlio

Mae bwlio’n risg sylweddol i iechyd meddwl y cyhoedd. Mae tua 1 o bob 5 plentyn ysgol gynradd yn dweud eu bod yn cael eu bwlio o leiaf unwaith yr wythnos. Mae plant sy'n cael eu bwlio yn fwy tebygol o deimlo gorbryder ac iselder ysbryd, ac maent mewn mwy o berygl o brofi problemau iechyd meddwl yn ystod llencyndod a phan yn oedolion.

Rhaglen gwrth-fwlio KiVa

Mae KiVa yn rhaglen gwrth-fwlio a ddatblygwyd yn y Ffindir gan yr Athro Christina Samivalli o Brifysgol Turku. Canfu astudiaeth fawr yn y Ffindir, a oedd yn cynnwys 28,000 o ddisgyblion ysgol gynradd, fod KiVa wedi lleihau bwlio yn sylweddol ac yn gwella lles meddwl. Mae defnydd parhaus o KiVa mewn ysgolion yn gysylltiedig â gostyngiadau cynyddol o flwyddyn i flwyddyn mewn bwlio. Yn y Deyrnas Unedig, mae dau dreial bach o KiVa wedi dangos canlyniadau addawol yn ysgolion Cymru.

Mae KiVa yn cynnwys tair prif gydran:
1.ÌýÌý ÌýCwricwlwm craidd a gyflwynir dros ddwy flynedd ac a addysgir i flynyddoedd 3-6 mewn gwersi 45 munud, bob pythefnos, gan yr athro dosbarth.
2.ÌýÌý ÌýTîm KiVa o staff ysgol, sy'n mynd i'r afael ag unrhyw achosion o fwlio a nodwyd, gyda'r sawl sy’n cael ei fwlio a’r sawl sy’n gwneud y bwlio, gan ddefnyddio prosesau, ffurflenni a sgriptiau KiVa.
3.ÌýÌý ÌýYmagwedd ymwybyddiaeth ysgol gyfan, sy’n cynnwys gwasanaethau ysgol, gwybodaeth i rieni, posteri a festiau/tabardiau KiVa, a wisgir gan staff yn ystod egwyliau.
Mae o leiaf ddau aelod o staff sydd â swyddogaethau KiVa ym mhob ysgol:

Cydlynydd KiVa

•ÌýÌý ÌýMynychu'r cwrs hyfforddi deuddydd
•ÌýÌý ÌýHyfforddi aelodau eraill o staff yn yr ysgol i gyflwyno'r cwricwlwm craidd
•ÌýÌý ÌýCydlynu cyflwyniad holl elfennau KiVa o fewn yr ysgol
•ÌýÌý ÌýDarparu goruchwyliaeth a chefnogaeth gyffredinol i'r rhaglen

Arweinydd Tîm KiVa

•ÌýÌý ÌýMynychu'r cwrs hyfforddi deuddydd
•ÌýÌý ÌýAsesu atgyfeiriadau i'r Tîm KiVa
•ÌýÌý ÌýCydlynu'r Tîm KiVa sy'n ymdrin ag achosion o fwlio a gadarnhawyd gan ddefnyddio prosesau a ffurflenni wedi'u sgriptio

Ìý

Ìý

Gwybodaeth am y Treial Stand Together

Roeddem eisiau gweld a oedd rhaglen gwrth-fwlio KiVa yn fwy effeithiol o ran lleihau bwlio a gwella lles disgyblion ym Mlynyddoedd 3-6, o gymharu ag arferion gwrth-fwlio arferol.

Rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Chwefror 2021, cafodd 118 o ysgolion cynradd eu recriwtio ar draws y pedwar safle prawf. Cafodd ysgolion eu dyrannu ar hap i’r ymyriad KiVa neu i gangen rheoli ymarfer arferol. Ar y gwaelodlin, cwblhaodd 11,111 o ddisgyblion holiaduron, a chasglwyd data dilynol gan 5,321 o fyfyrwyr mewn ysgolion ymyrraeth KiVa, a 4,660 o fyfyrwyr mewn ysgolion rheoli.

Ìý

Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu?

Prif ganlyniad yr astudiaeth oedd erledigaeth o fwlio a hunan-adroddwyd, a fesurwyd gan ymatebion i Holiadur Bwlio/Dioddefwyr Olweus (OBVQ) (Olweus, 1996). Mae’r OBVQ yn mesur gwahanol fathau o fwlio, gan gynnwys bwlio geiriol, corfforol, perthynol a seiberfwlio.Ìý Casglwyd gwybodaeth ychwanegol hefyd gan ddisgyblion ac athrawon, yn ogystal â gwybodaeth am yr ysgolion:

Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu?

Prif ganlyniad yr astudiaeth oedd erledigaeth o fwlio a hunan-adroddwyd, a fesurwyd gan ymatebion i Holiadur Bwlio/Dioddefwyr Olweus (OBVQ) (Olweus, 1996). Mae’r OBVQ yn mesur gwahanol fathau o fwlio, gan gynnwys bwlio geiriol, corfforol, perthynol a seiberfwlio.Ìý Casglwyd gwybodaeth ychwanegol hefyd gan ddisgyblion ac athrawon, yn ogystal â gwybodaeth am yr ysgolion:

Grwp o blant Ysgol Gynradd yn gwenu

Disgyblion

•ÌýÌý ÌýProfiad o fwlio yn yr ysgol
•ÌýÌý ÌýHapusrwydd yn yr ysgol
•ÌýÌý ÌýEmpathi
•ÌýÌý ÌýLles cyffredinol
•ÌýÌý ÌýCysylltiadau gyda'r ysgol o ran bwlio
•ÌýÌý ÌýAbsenoliaeth disgyblion

Ìý

Ìý

Three kids with a teaching reading a book

Athrawon

•ÌýÌý ÌýYmddygiad a lles disgyblion ym Mlynyddoedd 3-6
•ÌýÌý ÌýHyder wrth fynd i’r afael â bwlio
•ÌýÌý ÌýLles meddyliol
•ÌýÌý Ìýa chwythu plwc

Ìý

Ìý

Gweithiwr swyddfa wedi'i amgylchynu gan siartiau ariannol

Gweinyddwr a (dirprwy) Bennaeth

•ÌýÌý ÌýGwybodaeth ddemograffig yr ysgol
•ÌýÌý ÌýPolisi gwrth-fwlio arferol

Ìý

Ìý

Papurau a gyhoeddwyd

  • Bowes. L., Babu, M., Badger, J. R., Broome, M, R., Cannings-John, R., Clarkson, S., Coulman E., Edwards, R. T., Ford, T., .Hastings R. P., Hayes, R., Lugg-Widger, F., Owen-Jones, E., Patterson, P., Segrott, J., Sydenham, M., Townson, J., Watkins, R.C., .Whiteley, H., Williams, M.E., the Stand Together Team and Hutchings, J., (2024) The effects and costs of an anti-bullying programme (KiVa) in UK primary schools: a multicentre cluster randomised controlled trial. Psychological Medicine. Published online on 8th November 2024 .


Bwlio yn yr ysgol: Sut mae anfantais gymdeithasol yn dylanwadu ar y cysylltiad rhwng bwlio ac iechyd meddwl
Canfu gwerthusiad o ddata gwaelodlin fod plant sy’n mynychu ysgolion lle’r oedd cyfran uwch o blant yn derbyn prydau ysgol am ddim yn fwy tebygol o adrodd eu bod naill ai’n gyflawnwyr neu’n ddioddefwyr bwlio, ac yn llai tebygol o ymddwyn yn amddiffynnol yn ystod digwyddiad o fwlio. Yn ogystal, roedd plant a oedd yn mynychu ysgolion a ddosbarthwyd fel rhai mwy difreintiedig yn fwy tebygol, ar y cyfan, o arddangos symptomau emosiynol (a fesurwyd gan ddefnyddio holiadur Cryfderau ac Anawsterau Athrawon), tra bod plant a oedd yn hunan-adrodd am ymddygiad bwlio yn dangos llai o symptomau emosiynol na phlant o ysgolion llai difreintiedig. Dywedwyd bod gan blant sy'n adrodd am fwy o ymddygiadau bwlio lefelau uwch o ymddygiadau allanoli. Yn gyffredinol, roedd plant o ysgolion mwy difreintiedig yn sylweddol fwy tebygol o fod ag iechyd meddwl gwaeth na phlant o ysgolion llai difreintiedig, waeth beth fo’u rhan mewn bwlio.

  • Mae ymchwilwyr yn awgrymu bod angen canolbwyntio ar annog ymddygiadau amddiffyn yn yr ysgolion mwyaf difreintiedig, a lleihau safle cymdeithasol a statws bwlis.
    Badger, J.R., Zaneva, M., Hastings, R.P., Broome, M.R., Hayes, R., Patterson, P., Rose, N., Clarkson, S., Hutchings, J. a Bowes, L. (2023) Associations between School-Level Disadvantage, Bullying Involvement and Children’s Mental Health. Children, 10, 1852.
    Ìý
  • Cyhoeddwyd papur protocol y treial, ac mae ar gael yma.
    Clarkson, S., Bowes, L., Coulman, E. et al. The UK stand together trial: protocol for a multicentre cluster randomised controlled trial to evaluate the effectiveness and cost-effectiveness of KiVa to reduce bullying in primary schools. BMC Public Health 22, 608 (2022).