Bygythiadau i fywyd gwyllt yn y gaeaf
Mae Dr Alex Sutton, Darlithydd S诺oleg, wedi cyhoeddi gwaith newydd ar fygythiadau i fywyd gwyllt yn y gaeaf, fel rhan o weithgor parhaus sy鈥檔 ymwneud ag ecoleg y gaeaf sy鈥檔 rhychwantu 11 o Brifysgolion ac adrannau llywodraeth o dair gwlad.
Mae'r gaeaf yn aml yn creu delweddau oerllyd, tywyll, eira a rhew, yn enwedig ar ledredau uchel. Mae鈥檙 tywydd garw鈥檔 gosod amrywiaeth o heriau i unigolion ac ecosystemau, ond ychydig iawn o waith fu鈥檔 canolbwyntio ar oblygiadau鈥檙 gaeaf i gadwraeth a sut y gallai hynny ryngweithio 芒鈥檙 bygythiadau i fywyd gwyllt.
Defnyddiodd gwaith Alex, fel rhan o weithgor parhaus ar ecoleg y gaeaf, y tacsonomegau sy鈥檔 ymwneud 芒 bygythiad a鈥檙 gweithredu a gynhyrchwyd gan Bartneriaeth Mesurau Cadwraeth Natur Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur i nodweddu鈥檙 bygythiadau sy'n codi yn ystod y gaeaf neu'n deillio ohono.
Buont yn trafod sut y gall nodi鈥檙 bygythiadau hynny arwain at ddulliau rheoli pwrpasol i fentrau cadwraeth sy鈥檔 digwydd drwy gydol y gaeaf.
Nid yw'n syndod bod yna lu o fygythiadau i organebau yn y gaeaf. Gall cynefinoedd creaduriaid sy鈥檔 gaeafu gael eu dinistrio neu eu colli, gall gweithgareddau dynol amharu ar aeafgysgu, neu gall y bywyd gwyllt wrthdaro 芒 gweithgareddau hamdden gaeaf-benodol pobl. Mae'r bygythiadau hynny鈥檔 arwyddocaol iawn i fywyd gwyllt oherwydd gallent ryngweithio 芒'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig 芒'r gaeaf ar fwyd a chysgod, a鈥檙 newid yn yr hinsawdd, yn cymhlethu datblygiad neu weithrediad yr arferion rheoli.
Mae cydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd tymor y gaeaf, a rheolaeth bwrpasol ar fywyd gwyllt trwy gydol y gaeaf. Mae nifer cynyddol o fentrau newydd yn awgrymu y gallem fod yn agos谩u at drobwynt ar gyfer bioleg gymhwysol y gaeaf. Mae鈥檔 hollbwysig ystyried bygythiadau i fywyd gwyllt drwy gydol y gaeaf, a datblygu strategaethau cadwraeth a rheolaeth sy鈥檔 ymgorffori strategaethau penodol i鈥檙 gaeaf er mwyn sicrhau bod digwyddiadau yn ystod y tymor pwysig hwnnw, a anwybyddir yn aml, yn cael eu hymgorffori mewn penderfyniadau ynghylch cynlluniau rheolaeth.
Os hoffech ddysgu mwy am yr ymchwil, mae'r papur llawn yma: .