Diwedd ‘Groundhog Day’ - beth ddylai busnesau ei wneud nesaf?
Mae’r comedi ‘Groundhog Day’ 1993, gyda’r actor Bill Murray, yn adrodd hanes dyn sydd wedi ei ddal mewn dolen amser. Mae wedi ei dynghedu i ailadrodd yr un diwrnod drosodd a throsodd nes iddo ei wneud yn iawn. Diolch byth, nid ydym ni mewn dolen amser gyfriniol - ond mae'r pandemig Covid-19 wedi cael yr effaith o wneud iddo deimlo fel petai amser wedi aros yn ei unfan.
Felly, beth sydd wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf? Mae pedair thema yn sefyll allan - y newid o bandemig i endemig, y gweithle “hybrid”, trafferth gyda theithio, a newid yn yr hinsawdd.
Os mai 2021 oedd y flwyddyn pan wnaeth y byd droi’r llanw yn erbyn y pandemig, bydd 2022 yn cael ei llywio gan yr angen i addasu i realiti newydd, mewn meysydd a ail-ffurfiwyd gan yr argyfwng (e.e. byd gwaith newydd, dyfodol teithio) ac wrth i dueddiadau dyfnhau (e.e. newid yn yr hinsawdd yn cyflymu).
Pandemig i endemig.
Wrth edrych yn ôl ar y Nadolig diwethaf, mae llawer o'r hyn a oedd yn digwydd bryd hynny yn edrych yn debyg o ddigwydd eto yn ystod Nadolig 2021. Yn y cyfnod cyn Nadolig 2020, roeddem yn gweld amrywiolyn Covid newydd (Delta) yn datblygu. Nid ydym yn gwybod eto beth fydd effaith Omicron, ond mae'r data cychwynnol yn awgrymu ei fod yn datblygu’n gyflym. Er bod Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dweud bod Omicron yn amrywiant “risg uchel”, rydym yn gwybod sut i'w ymladd. Mae tabledi gwrthfirol newydd, gwell triniaethau gwrthgyrff a mwy o frechlynnau ar y ffordd. I bobl sydd wedi eu brechu, ni ddylai'r firws beryglu bywyd mwyach. Mae ffatri CP Pharmaceuticals yn Wrecsam yn parhau i chwarae rhan hollbwysig ym mrwydr y DU yn erbyn Covid-19. Mae'r ffatri'n gyfrifol am roi'r brechlyn mewn ffiolau a'i becynnu i'w anfon at reoleiddiwr y DU i'w archwilio.
Dyfodol gwaith.
Mae consensws eang bod dyfodol gwaith yn “hybrid”, ac y bydd rhagor o bobl yn treulio mwy o ddiwrnodau yn gweithio gartref. Ond gellir anghytuno i raddau helaeth ar y manylion. Sawl diwrnod, a pha rai? A fydd yn deg? Mae gweithio yn y swyddfa yn hyrwyddo strwythur a thryloywder, a all gynyddu ymddiriedaeth rhwng rheolwyr a gweithwyr. Mewn gweithio yn y swyddfa yn datblygu diwylliant sefydliadol sy’n digwydd yn naturiol. Gall sgyrsiau anffurfiol yn y swyddfa - gweithiwr yn cerdded lawr coridor yn cael sgwrs gyflym heb ei threfnu gyda chydweithiwr, er enghraifft - arwain at rannu gwybodaeth a datrys problemau ar y cyd. Mae’n anodd ei ail-greu mewn amgylchedd rhithiol, sy'n aml yn dibynnu ar drefnu cyfarfodydd ar-lein ymlaen llaw - er bod hynny'n dal yn bosibl gyda digon o gynllunio a chyfathrebu. Bydd pwysau sylweddol ar reolwyr yn 2022, a thu hwnt, i sicrhau amgylchedd gwaith “hybrid” llwyddiannus.
Trafferth teithio.
Mae cymaint â hanner o deithio ar fusnes wedi mynd am byth oherwydd Covid-19, sy'n newyddion da i'r blaned. Tra bod teithio a gweithgareddau twristiaeth yn cynyddu wrth i’r economïau ailagor, mae'r diwydiant twristiaeth yn wynebu'r dasg anodd o reoli'r trawsnewid mewn byd lle mae'r firws yn endemig. Er gwaethaf yr heriau sy'n gysylltiedig â Covid-19, mae sector twristiaeth gogledd Cymru wedi elwa o'r duedd gynyddol o gael gwyliau gartref. Mae'r tri lleoliad mwyaf poblogaidd yng Nghymru yn cynnwys dau yn y gogledd - Ynys Môn a Llandudno. Er bod gwyliau gartref wedi rhoi hwb i'r sector, mewn rhai ardaloedd mae wedi rhoi pwysau enfawr ar wasanaethau ac amwynderau lleol, lle mae poblogaethau lleol bron wedi dyblu oherwydd ymwelwyr.
Argyfwng yr hinsawdd.
Hyd yn oed wrth i danau gwyllt, tywydd poeth a llifogydd ddigwydd yn amlach, mae diffyg ymateb ar fyrder ymysg llunwyr polisi o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd (er y cynhaliwyd cynhadledd COP26 yng Nghaeredin ym mis Tachwedd). Fodd bynnag, gwnaed cynnydd sylweddol ledled gogledd Cymru gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Ym mis Mehefin 2021, cynhaliodd Cyngor Busnes gogledd Cymru, Merswy a Dyfrdwy eu cynhadledd ar-lein Net Sero gyntaf yn 2021, gyda’r bwriad o annog y sector preifat a sefydliadau nid-er-elw ledled Cilgwri, Swydd Gaer a gogledd Cymru i leihau eu hôl troed carbon. Enillodd Sw Môr Môn y categori busnes bach yn y gynhadledd am eu dull ecogyfeillgar a’u hathroniaeth o sicrhau bod cadwraeth a chynaliadwyedd wrth wraidd eu holl weithgareddau. Roedd gogledd Cymru hefyd yn arwain y newid gyda thechnoleg arloesol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Yn 2021 rhoddodd Llywodraeth Cymru gymeradwyaeth lawn i’r cynllun ynni llanw Morlais gwerth £35m a fydd yn caniatáu i'r gwaith adeiladu ar y project ynni llanw ddechrau yn 2022 oddi ar arfordir Ynys Môn.
Beth nesaf i fusnesau?
Mae cwestiynau am gyfeiriad cyfalafiaeth at dwf diddiwedd gydag elw fel yr unig fetrig wedi symud o weiddi ar y strydoedd i sgyrsiau yn yr ystafell gyfarfod. Mae pryderon am blastig wedi datblygu i fod yn brif fudiad argyfwng hinsawdd, sydd bellach ymhlith prif flaenoriaeth pleidleiswyr mewn llawer o wledydd. Mae Covid-19 wedi cyflymu'r duedd hon.
Mae pobl yn rhoi pwysau ar gwmnïau i ddiffinio eu llwyddiannau mewn ffyrdd sy'n rhoi mwy o bwyslais ar gyfoethogi bywyd yn hytrach na thwf ariannol. Wrth i gwmnïau ddechrau ail-werthuso eu swyddogaeth yn y byd, byddant wrth drawsnewid yn newid o ganolbwyntio ar elw i bwrpas.
Mae busnesau'n teimlo pwysau cynyddol gan bobl i ail-asesu sut maent yn gweld y byd o'u cwmpas a'u lle ynddo. Mae elw yn dal i fod yn hanfodol er mwyn parhau, ond mae ffactorau eraill yn dod yn bwysig ar gyfer mesur llwyddiant. Bydd diffiniadau newydd o dwf yn arwain yn naturiol at feddwl newydd o ran ystyr a metrigau. Gall mesurau perfformiad newydd gynnwys twf personol (dysgu, hapusrwydd neu hirhoedledd cymunedol), iechyd da, neu lai o wastraff sef metrig.
Felly, yn 2022 mae angen i fusnesau ledled Gogledd Cymru wneud y canlynol:
Meddwl - Sut y byddwch yn diffinio mathau newydd o werth y gallwch eu darparu wrth wneud yr elw sydd ei angen i ffynnu? A sut bydd Profiad Cwsmeriaid a Phrofiad Gweithwyr yn gweithio gyda'i gilydd i greu'r gwerth hwnnw adeg creu a chyflawni?
Dweud - Gofynnwch i'ch gweithwyr pa fath o dwf yr hoffent ei weld yn y sefydliad. Dechreuwch y drafodaeth!
Gwneud - Dechreuwch ymgorffori metrigau newydd (ochr yn ochr â thwf ariannol) i ysgogi ymddygiadau. Mae'r hyn rydych chi'n ei fesur yn cyfrif. Cydweithiwch â'r rhai sy'n barod i roi newid ar waith ar lefel ddiwydiannol gan ei bod hi'n haws ymrwymo i newid effeithiol os bydd llawer yn ymuno â’r dasg. Beth yw eich trefniadau i wobrwyo gwahanol gwerthoedd? Sut ydych chi'n ysgogi pobl?
Mae’r tueddiadau a gyflymodd yn ystod y pandemig, ac a fydd yn parhau yn ystod yr endemig, yn ddim llai nag ad-drefnu’r pethau sylfaenol. Mae'n demtasiwn i gamddehongli hyn fel sefyllfa dra anobeithiol - ond yn hytrach, mae'n gyfle unwaith mewn oes i arloesi mewn modelau busnes, gwasanaethau a chynhyrchion o amgylch diffiniadau newydd o werth. I gwmnïau sydd â'r dewrder i gydnabod y duedd hon, mae llawer o gyfleoedd - a bydd llawer o heriau hefyd. Er enghraifft, mae'n cwestiynu'r diffiniad sydd gennym ers degawdau o lwyddiant busnes, sy'n seiliedig ar athroniaeth elw fel yr unig gyfarwyddeb. Ond mae Covid-19, y twf mewn cyfalaf cymdeithasol, y gweithredoedd bach o garedigrwydd gan gymdogion, wedi dangos nad datblygu elw (neu werth ariannol) yw’r unig ffordd i fesur llwyddiant busnes a llwyddiant economaidd.