Tim Hunt
Roedd cael nifer o leoliadau mewn diwydiant yn uchafbwynt.
Tim Hunt
Prif Ddylunydd yn Welcome Furniture
Astudiodd: BSc Dylunio Cynnyrch, 2018 聽
Dewisais Fangor oherwydd bod y lleoliad yn caniat谩u i mi gyfuno fy nghariad at chwaraeon awyr agored gydag astudio. Hefyd, roedd gan y cwrs gymhareb staff/myfyrwyr ragorol.
"Roedd dylunio cynnyrch yn rhywbeth roeddwn i'n awyddus iawn i'w astudio, ond wnes i ddim sylweddoli ei fod yn ddisgyblaeth benodol. Pan ddes i o hyd i'r cwrs ac i Fangor, roedd yn fy siwtio i鈥檔 berffaith.聽
"Yr hyn a wnaeth fy nghyfnod ym Mangor yn un arbennig oedd y staff agos-atoch; sefyllfaoedd a oedd yn adlewyrchu heriau bywyd go iawn; roedd y cyfle i gael nifer o leoliadau mewn diwydiant yn uchafbwynt, ynghyd 芒鈥檙 criw gwych ar y cwrs. Cynigiodd Bangor amrywiaeth eang o gefnogaeth ar gyfer pob agwedd ar y cwrs gradd. Roedd hyn wedi ei gyfuno 芒 llawer o聽聽gyfleoedd i gymryd rhan mewn rhaglenni, cyrsiau a dosbarthiadau a ddatblygodd sgiliau ychwanegol, personol a phroffesiynol.
"Rwy鈥檔 gweithio ar hyn o bryd yn Welcome Furniture fel Prif Ddylunydd, sy'n cynnwys derbyn briff dylunio a chreu cynnyrch sy'n darparu'r gwerth uchaf i'r cleient a'r sefydliad; ynghyd 芒 chynhyrchu ffotograffiaeth, cyfryngau ysgrifenedig a fideo ar gyfer cynigion a phamffledi. Mae yna hefyd elfen o聽ddatrys problemau gyda materion cynhyrchu a welir mewn dyluniadau newydd.聽
"Gwnaeth fy amser ym Mangor roi'r gallu i mi reoli amserlenni tyn a llawer iawn o waith, ynghyd 芒'r hyder a'r gallu i drafod amrywiaeth o bynciau gyda phobl newydd a hen gydnabod."