麻豆传媒高清版

Fy ngwlad:
Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Elly Baker

Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi i fod yn fwy na dim ond myfyriwr.

Elly Baker

Elly Baker

Pennaeth Datblygu Prosiectau yn YipiYap
Astudiodd: BA Almaeneg gyda Sbaeneg, 2018聽

Dewisais astudio ym Mangor ar 么l bod mewn diwrnod agored a theimlo鈥檔 gartrefol. Roedd rhywbeth am yr adran ieithoedd fach, y golygfeydd hyfryd a'r wynebau cyfeillgar a wnaeth i Fangor ymddangos mor groesawgar.

Elly Baker

鈥淥nd yr hyn a wnaeth i mi benderfynu ar Fangor, oedd y staff yn yr adran Ieithoedd Tramor Modern, a wnaeth fy helpu i ymroi i fywyd yn y brifysgol. O fy annog i siarad yng Nghaergrawnt yn ystod fy mlwyddyn olaf, i'm henwebu ar gyfer y Wobr Dewis Staff am fy ngwaith fel Cynrychiolydd Cwrs, roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi i fod yn fwy na dim ond myfyriwr.

鈥淭reuliais y ddwy flynedd a hanner gyntaf ar 么l聽y brifysgol naill ai鈥檔 gweithio yn yr Almaen, neu鈥檔 gweithio gyda chleientiaid sy鈥檔 siarad Almaeneg. Does dim angen dweud bod fy ngradd wedi fy mharatoi ar gyfer hynny, ond un fantais llai amlwg oedd yr effaith fawr a gafodd ar fy ngallu i siarad聽yn gyhoeddus, fy ngwytnwch, a fy ngallu i gymryd un risg ar 么l y llall!聽

鈥淩wyf bellach 聽yn gweithio yn Yipiyap, prif ddarparwr cefnogaeth tiwtora mewn ysgolion聽ym maes Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth. Mae fy swydd bresennol wedi'i rhannu'n ddwy: Datblygu Busnes, a Rheoli Projectau. Rwy'n sefydlu ac yn cynnal partneriaethau gyda sefydliadau addysgol, yn datblygu modelau neu wasanaethau busnes newydd, ac yn rheoli projectau gyda'n partneriaid! Ar 么l blwyddyn yn y swydd hon, rwyf wedi symud ymlaen yn ddiweddar i fod yn rheolwr llinell.

鈥淢ae Bangor yn dref wych ac yn brifysgol gwell fyth. Roedd fy athrawon a鈥檓 darlithwyr gyda鈥檙 gorau yn y byd ac roedd wir yn bwysig iddynt ein bod yn cael y radd orau bosibl. Roeddwn yn dysgu dosbarth yn ystod fy mlwyddyn dramor yn Berlin, ac ar fy niwrnod cyntaf, rhoddodd yr athro Almaeneg lyfr i mi a oedd wedi ei ysgrifennu gan fy nhiwtor personol ym Mangor. S么n am fyd bach! Os nad yw hynny'n eich argyhoeddi, wn i ddim beth fydd!鈥澛