Dr Aaron Jackson
Mae Cyfrifiadureg yn gysylltiedig 芒 chymaint o'r byd modern.
Dr Aaron Jackson聽
Uwch Arbenigwr Isadeiledd yng Nghanolfan Gwybodeg Iechyd, Prifysgol Dundee
Astudiodd: BSc Cyfrifiadureg, 2015
Mae Bangor yn lle braf iawn i fod gyda pharc cenedlaethol y gellir mynd iddo鈥檔 rhwydd ar daith fer ar fws. Hefyd, gwnaeth Bangor gynnig lle i mi astudio ar 么l cael cyfweliad, gan roi blaenoriaeth i fy niddordeb a brwdfrydedd am Gyfrifiadureg yn hytrach na鈥檙 ffaith nad oedd gen i Lefel A ddigon da mewn pynciau anghysylltiedig.
"Mae Cyfrifiadureg yn bwnc anhygoel i'w astudio oherwydd ei fod mor gysylltiedig 芒'r byd modern. Bydd cael dealltwriaeth dda o hanfodion cyfrifiadureg yn ddefnyddiol, waeth beth fyddwch chi'n ei wneud yn ddiweddarach mewn bywyd.聽
"Arweiniodd fy niddordeb mewn adnabod patrymau a dysgu peirianyddol i mi gydweithio ar brojectau gydag un o fy Athrawon. Arweiniodd y gwaith hwn at ddau gyhoeddiad a gefnogodd fy nghais聽i wneud PhD ym Mhrifysgol Nottingham.
"Yn fy swydd bresennol yn y Ganolfan Gwybodeg Iechyd, rydym yn darparu amgylcheddau cyfrifiadureg ymchwil diogel i fiowybodegwyr ddadansoddi data na fyddent fel rheol yn gallu cael mynediad atynt oherwydd natur sensitif data meddygol. Mae'r rhan fwyaf o fy ngwaith聽yn cynnwys ceisio gwella'r amgylchedd ymchwil hwn mewn ffyrdd sy'n atgynyrchadwy ac yn hawdd eu defnyddio, tra鈥檔 sicrhau diogelwch a phrofiad da i ddefnyddiwr.
"Roedd y cyfleoedd academaidd ym Mangor yn wych; rwy鈥檔 gweithio gyda phobl wych heddiw oherwydd y llwybr y dechreuais ei ddilyn ym Mangor. Mae'n ddinas fach, ond mae hyn yn arwain at gyfeillgarwch agos, i鈥檙 fath raddau fel fy mod yn dal i fyw gyda fy nghydletywr a ffrind o fy ail flwyddyn.聽
"Rwy'n credu bod Bangor yn cynnig popeth y byddech ei eisiau o fywyd prifysgol - cyfleoedd聽i gael rhagoriaeth academaidd, y rhyddid i fwynhau natur, ac efallai gormod o dafarndai!聽Ewch yno gyda meddwl agored, gweithiwch yn galed, a mwynhewch eich hun. Byddwch聽yn gadael gydag atgofion gwych a gradd o聽ansawdd."聽