Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Ein Graddedigion

Jamie Thomas

Bu'r sgiliau y gwnes i eu meithrin yn help imi wneud gyrfa o’r pethau rwy’n frwd drostynt.

Jamie Thomas

Jamie Thomas

Cyfryngau (MA), 2016
Swyddog Cyfryngau a Chrëwr Cynnwys hunangyflogedig yn: Ffederasiwn Pêl-fasged Prydain
Cynghrair Pêl-fasged Prydain
Gemau’r Gymanwlad, Birmingham 2022

Rwy'n helpu i arwain cyfnod cyffrous o dwf i brif gynghrair pêl-fasged y wlad, wrth i fuddsoddiad newydd geisio symud y gynghrair ymlaen a datblygu enw da fel un o'r cynghreiriau pêl-fasged gorau yn Ewrop.

Jamie Thomas

Pam wnaethoch chi ddewis astudio ym Mangor?
Rwy'n byw 20 munud o'r ddinas felly efallai y byddai sinigiaid yn dweud bod cyfleustra yn ffactor enfawr. Fodd bynnag, yn anad dim rwy'n credu, fe’m denwyd gan yr enw da sydd gan Fangor yn yr ardal am feithrin myfyrwyr a rhoi'r hyder sydd ei angen arnynt i fynd ymlaen a gwneud beth bynnag yr hoffent ei wneud ar ôl astudio. Roeddwn i’n adnabod nifer o bobl oedd wedi graddio o Fangor mewn sawl disgyblaeth, ac roedd ganddyn nhw i gyd bethau gwych i’w dweud am ochr addysgol bywyd, yn ogystal â’r ochr gymdeithasol. Roedd gan Ysgol y Cyfryngau ym Mangor enw da iawn, felly fel rhywun a oedd yn ysu am ddod o hyd i'w ffordd i'r rhan honno o'r byd gwaith, roedd Bangor yn ymddangos yn ddewis perffaith.

Pam ddewisoch chi eich cwrs penodol?
I dorri stori hir yn fyr, bu gen i ysfa erioed am ddilyn gyrfa mewn chwaraeon gan mai dyna yw fy angerdd mwyaf. Roeddwn i'n gwybod yn eithaf cynnar yn fy mywyd nad oedd gyrfa yn chwarae - a dweud y gwir - unrhyw chwaraeon ar lefel broffesiynol yn mynd i fod yn ddewis, ond dywedwyd wrthyf erioed fy mod yn dda am adrodd straeon, felly trois fy angerdd at ysgrifennu am chwaraeon. Roeddwn yn rhedeg fy mlogiau fy hun yn ymdrin â digwyddiadau chwaraeon mawr ac yn cael fy ffrindiau i feirniadu fy ngwaith, gan ein bod i gyd yn gwirioni ar bêl-droed yn ein harddegau. Roedd llawer o ffactorau wedi fy argyhoeddi mai Bangor fyddai’r lle iawn i ddysgu a meithrin y sgiliau a’r cymwyseddau y byddai eu hangen arnaf i wneud gyrfa o’m hangerdd, ac rwyf wedi gwneud fy ngorau glas i ddatblygu’r hyn a ddysgais ers graddio.

Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich amser ym Mangor? 
Y prif ffactor i mi oedd cymaint y gwnaeth y darlithwyr a fy nhiwtoriaid helpu i feithrin fy hyder. Dechreuais ar y cwrs - gan astudio yn y lle cyntaf gwrs tair blynedd israddedig Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau, cyn trosglwyddo i gwrs Meistr pedair blynedd yn fy nhrydedd flwyddyn - heb unrhyw brofiad academaidd o newyddiaduraeth na'r cyfryngau, gan nad oedd fy ysgol uwchradd yn dysgu’r pynciau hynny. Roedd llawer o'm cyfoedion yn dod o’r sefyllfa wrthwyneb yn llwyr, ac wedi astudio naill ai newyddiaduraeth neu'r cyfryngau yn helaeth yn y coleg. Roeddwn i’n teimlo bod angen i mi ddal i fyny yn eithaf cyflym ac roedd y staff yn wych yn fy helpu i wneud hynny ac yn magu fy hyder, nes, cyn pen fawr o dro, roeddwn i’n teimlo fy mod ar ben ffordd i allu cyflawni’r hyn roeddwn i eisiau o’r cwrs.

Sut wnaeth Bangor eich helpu i ddechrau ar eich gyrfa?
Rhoddodd Bangor yr hyder i mi roi cynnig ar bethau, bod yn fodlon a heb ofn methu, dysgu a thyfu, yna codi a dechrau eto. Mae’n debyg fy mod yn dipyn o boendod i fy narlithwyr a thiwtoriaid oherwydd roedd gen i gwestiynau bob amser ac anaml iawn roeddwn i’n fodlon â mi fy hun na’r hyn roeddwn i wedi’i wneud, ond roedden nhw’n wych wrth fy ngalluogi i ddod o hyd i’m traed, gan ddangos i mi beth oedd fy nghryfderau a’m gwendidau gan ganiatáu i mi dyfu'n aruthrol o ganlyniad.

Beth ydy’ch gwaith yn eich swydd bresennol?
Ers graddio, rwyf wedi bod mewn amryw o swyddi hunangyflogedig a chyflogedig parhaol. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio’n barhaol fel contractwr hunangyflogedig, ac yn y chwe mis diwethaf rwyf wedi gweithio i:
•    Gemau Cymanwlad Birmingham 2022 fel Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol a Lluniwr Cynnwys.
•    Ffederasiwn Pêl-fasged Prydain fel Swyddog Cyfryngau ar gyfer Timau Cenedlaethol Prydain, gan deithio i Milan yn ddiweddar gyda thîm y dynion ar gyfer EuroBasket (Pencampwriaethau Ewropeaidd), gan greu ystod eang o gynnwys ffotograffig, fideo, ysgrifenedig a chymdeithasol i hyrwyddo cyfranogiad y tîm yn y Pencampwriaethau.
•    Cynghrair Pêl-fasged Prydain (BBL) fel Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol (swydd rwy’n dal i’w chyflawni ar hyn o bryd), gan helpu i arwain cyfnod cyffrous o dwf i brif gynghrair pêl-fasged y wlad, wrth i fuddsoddiad newydd geisio symud y gynghrair ymlaen a datblygu enw da fel un o'r cynghreiriau pêl-fasged gorau yn Ewrop.
Tra bod llawer o'r swyddi hyn yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol, mae'r sgiliau rydw i wedi'u datblygu ym Mangor, ac ers hynny, wedi bod yn hanfodol i'm galluogi i ddatblygu medrau mewn sawl maes a gwneud fy hun yn ased i'm cyflogwyr. Rwy'n gallu cynllunio, cynhyrchu, golygu a chyhoeddi cynnwys mewn sawl diwyg a chyfrwng ac mae'r hyder, y  sgiliau a'r foeseg waith a ddatblygais ym Mangor wedi bod yn sylfaenol i'r cyfleoedd hyn.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried astudio ym Mangor?
Does gen i ddim byd ond pethau da i'w dweud am fy amser ym Mangor. O'r ffrindiau a wnes i, i'r sgiliau a ddysgais, i'r bobl a helpodd fi i ddatblygu a thyfu i fod y person proffesiynol yr ydw i heddiw - roedd yn brofiad di-fai yn ei gyfanrwydd. Fy nghyngor pwysicaf i fyddai gwneud eich ymchwil a dod o hyd i'r brifysgol sy'n addas i chi. I mi, dewisais brifysgol ag enw blaenllaw yn y pwnc roeddwn arnaf i eisiau ei astudio, a oedd yn digwydd bod reit ar garreg fy nrws; pe bai angen i mi symud i ochr arall y wlad i wneud y dewis cywir, yna byddwn wedi gwneud hynny. Diolch byth, cynigiodd Bangor i mi a llawer o rai eraill ar fy nghwrs - a ddaeth yma o bob rhan o'r DU a thu hwnt - yn union yr hyn yr oedd ei angen arnom, ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i wneud yr un peth i lawer mwy yn y dyfodol.