Charlie Small
Roedd y lleoliadau lu gyda diwydiant yn gyflwyniad gwych i'r 鈥渂yd go iawn鈥.
Charlie Small
Dylunio Cynnyrch BSc (Anrh)
Peiriannydd Strwythurau a Hydroleg gyda JCB
Mae fy swydd bresennol yn ymwneud 芒 dylunio a phrofi systemau hydrolig, yn ogystal 芒 chydrannau strwythurol a bracedwaith, ar gyfer amrywiaeth o gloddwyr a pheiriannau eraill.
Pam wnaethoch chi ddewis astudio ym Mangor?
Dewisais Fangor yn bennaf oherwydd bod lleoliad anhygoel y Brifysgol wedi fy ngalluogi i ddod o hyd i'm hangerdd dros ddylunio gan barhau i wneud yr holl weithgareddau awyr agored rwyf wrth fy modd yn eu gwneud.
Pam ddewisoch chi eich cwrs penodol?
O'r diwrnod cyntaf, rhoddodd y staff addysgu ym Mangor deimlad mor gadarnhaol i mi; hyd yn oed ar ddiwrnodau cyfweld a diwrnodau agored, roeddent mor groesawgar a brwdfrydig ac roedd ganddynt ddiddordeb ym mhob unigolyn.
Un arall o'r prif resymau i mi ddewis Bangor oedd y gallu i wneud lleoliadau gwaith. Caniataodd y tri phrofiad diwydiannol i mi deilwra'r cwrs i'm diddordebau fy hun.
Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich amser ym Mangor?聽
Mwynheais her y cwrs ei hun a hefyd dyfnder ac ehangder y profiadau sydd ar gael i fyfyrwyr, yn academaidd ar y cwrs ac yn gymdeithasol, y tu allan iddo.
Sut wnaeth Bangor eich helpu i gael y swydd/gyrfa sydd gennych chi nawr?
Roedd gallu mynd ar dri lleoliad diwydiannol yn gyflwyniad gwych i ddiwydiant i mi a beth i鈥檞 ddisgwyl yn 鈥測 byd go iawn鈥 鈥 fe wnaeth hyn fy helpu i fagu hyder yn fy ngallu a hefyd fy sgiliau cyfweliad a chyfathrebu.
Beth ydy鈥檆h gwaith yn eich swydd bresennol?
Mae fy swydd bresennol yn ymwneud 芒 dylunio a phrofi systemau hydrolig, yn ogystal 芒 chydrannau strwythurol a bracedwaith, ar gyfer amrywiaeth o gloddwyr a pheiriannau eraill.
Mae hefyd yn cynnwys llai o dasgau dylunio-benodol yn ogystal, megis asesiadau risg, dadansoddi methiannau ac ymarferion datrys problemau.
Rwy鈥檔 aml yn cyflwyno cysyniadau ac atebion i d卯m bach o 10-15 o bobl, ac weithiau鈥檔 trafod y gwaith rwy鈥檔 ei wneud i鈥檙 t卯m ehangach o tua 60 neu 70 o bobl.
Sut wnaeth eich profiadau ym Mangor (yn academaidd a chymdeithasol) helpu i'ch siapio chi fel person?
Helpodd Bangor yn fawr i amlygu fy moeseg waith a fy angerdd am ddylunio da a hefyd y syniad o welliant personol parhaus - ceisio bod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun bob dydd.
Yn gymdeithasol, roeddwn yn gallu cymysgu ag amrywiaeth enfawr o bobl o wahanol gefndiroedd ac o bob lliw a llun.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried astudio ym Mangor?
Ewch amdani! Mae Bangor yn lle arbennig lle gallwch ragori yn eich angerdd academaidd a hefyd darganfod gweithgareddau allgyrsiol newydd a chyffrous, rhai efallai nad oeddech chi hyd yn oed yn gwybod eu bod yn bodoli! Mae'n amgylchedd 'teuluol' anhygoel lle gallwch chi lunio鈥檆h llwyddiant eich hun.