Harneisio ynni’r llanw
Disgwylir y ceir sêl bendith i gynlluniau ar gyfer safle ynni llanw mwyaf y byd oddi ar arfordir Gogledd Cymru, a fydd yn cynhyrchu digon o ynni glân i bweru 180,000 o aelwydydd. Bu cydweithio ag Ysgol Busnes Bangor yn allweddol wrth ddatblygu’r project hwn.Â
Asesodd yr Ysgol Busnes effaith y cynllun ar ddiwydiant lleol, a thrwy sefydlu strategaeth i sicrhau bod buddion economaidd lleol yn cael eu huchafu, sicrhaodd y prosiect sy’n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol Ynys Môn, Menter Môn, gefnogaeth y cymunedau a’r rhanddeiliaid.
The £35m Morlais scheme will benefit local communities, the economy, and help tackle climate change - using renewable energy to generate clean, low carbon electricity.   Â
Bydd y cynllun Morlais gwerth £35m o fudd i gymunedau lleol, yr economi, ac yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd - gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy i gynhyrchu trydan glân, carbon isel.Â
Oherwydd ei daearyddiaeth, mae gogledd Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ddod yn ganolbwynt ynni ar gyfer arloesi a datblygu technolegau amgylcheddol. Trwy brojectau fel Morlais, bydd gennym ni’r technolegau i helpu’r byd i gyflawni ei ddyhead sero net.Â
Trwy’r cydweithio hwn, llwyddais i ddod ag astudiaeth achos o’r byd go iawn i’r ystafell ddosbarth i edrych ar sut y gall projectau sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd hefyd gael effaith economaidd gadarnhaol.
Trwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol fel Prifysgol Bangor, ein nod yw datblygu’r sgiliau a’r cyfleoedd hyfforddi a chefnogi’r gadwyn gyflenwi leol i ddatblygu ac arallgyfeirio i ddiwallu anghenion y diwydiant llif llanw. Trwy’r project Morlais mae gennym y cyfle i greu clwstwr arloesi yn y diwydiant ynni llif llanw sy’n ymegino gan sicrhau bod gogledd Cymru ar flaen y gad o ran datblygu diwydiant yn y tymor hir.Â