Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
Logo 1884 ar gefndir gwyn

Arweinwyr Niwclear Byd-eang

Cydweithio â diwydiant

Ynni di-garbon  

Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn datblygu gallu sydd gyda'r gorau yn y byd mewn gwyddoniaeth a pheirianneg niwclear. Canolbwynt hyn fydd Sefydliad Dyfodol Niwclear y Brifysgol.  

Gyda phrojectau dadgomisiynu ac adeiladu gorsafoedd ynni niwclear newydd ger llaw, a nifer cynyddol o fusnesau o'r gadwyn cyflenwi niwclear yn ymsefydlu yn yr ardal, mae'r brifysgol yn canolbwyntio ar dechnolegau cynhyrchu ynni niwclear presennol a newydd.  

Mae gwaith yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear hefyd yn galluogi'r Brifysgol i ehangu ein gallu yn y maes niwclear i faes meddygaeth, gan ddefnyddio cemegau ymbelydrol i ddiagnosio a thrin clefyd y galon a llawer math gwahanol o ganser. Mae’n fodd hefyd symud i faes deunyddiau strwythurol gan wireddu potensial adweithyddion niwclear tymor agos, a hyd yn oed ynni o ymasiad niwclear.  

Mae'r ymchwil yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear yn darparu cyfleoedd rhyngwladol, gyda phartneriaid diwydiant byd-eang gan gynnwys Jacobs, Westinghouse, y Labordy Niwclear Cenedlaethol, UKAEA, Tokamak Energy a Vessco Engineering.    

Mae ymchwilwyr doethurol hefyd yn cael eu hariannu yma ym Mhrifysgol Bangor trwy'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol Dyfodol Ynni Niwclear a arweinir gan Imperial College London a chyda'r Labordy Niwclear Cenedlaethol (NNL), sy'n arwain y byd ym maes arloesi niwclear, sy’n buddsoddi mewn addysgu, ymchwil a datblygu, ac sy’n cefnogi datblygiad pob math o ynni carbon isel ar gyfer Gogledd Cymru. 

Mae Gogledd Cymru yn un o ganolfannau ynni di-garbon y Deyrnas Unedig, ac mae Prifysgol Bangor wrth galon ymchwil effaith byd-eang mewn ynni glân.

Yr Athro Bill Lee ,  Cyfarwyddwr y Sefydliad Dyfodol Niwclear 

Credwn y gall ac y dylai Cymru fod yn rhanbarth blaenllaw ar gyfer technolegau ynni glân – o ran ynni niwclear ond hefyd ynni gwynt, solar a ffynonellau carbon isel eraill.

Paul Howarth,  Prif Swyddog Gweithredol, Labordy Niwclear Cenedlaethol