Pam Astudio Cadwraeth?
Mae gennym gysylltiadau ymchwil cryf 芒 llawer o sefydliadau cadwraeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Coed Cymru, ffermwyr lleol a diwydiannau bwyd.
- 4ydd yn y Deyrnas Unedig am Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd yn nhablau cynghrair y Guardian 2020
- Yn y 10 uchaf am Amaethyddiaeth a Choedwigaeth yn nhablau cynghrair y Complete University Guide 2020
- 90% am foddhad myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2017
- Gwobr Aur am Ansawdd Addysgu yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF 2017)
- Ymchwil arloesol ac addysgu arobryn.
Caiff llawer o'n graddau eu hachredu gan Sefydliad Gwyddorau'r Amgylchedd.
Cyfleoedd Gyrfa o fewn Cadwraeth
Mae graddedigion cadwraeth yn awr yn gweithio gydag asiantaethau cadwraeth, cyrff anllywodraethol a sefydliadau'r llywodraeth a gyda sefydliadau academaidd yn yr UE a thramor.
Ein Hymchwil o fewn Cadwraeth
Ymchwil yw'r prif gyfraniad a wnawn at warchod bioamrywiaeth y byd. Mae'n darparu atebion i broblemau damcaniaethol a chymhwysol sylfaenol ym maes bioleg cadwraeth ac yn gosod cyfeiriad ar gyfer ein haddysgu.聽
Rydym yn cydweithio 芒 phobl o bob cwr o'r byd, gan gynnwys arbenigwyr academaidd a rheolwyr cadwraeth, i sicrhau bod modd defnyddio ein hymchwil yn y byd go iawn, a sicrhau ein bod yn datblygu agweddau damcaniaethol ar fioleg cadwraeth.聽
Mae ein hymchwil wedi'i rannu'n them芒u:聽tystiolaeth amgylcheddol听补听chadwraeth gymdeithasol, mae gennym ddiddordeb hefyd mewn dulliau i liniaru prosesau bygythiol ac mewn cadwraeth planhigion ac anifeiliaid.聽Mae them芒u ein hymchwil yn tueddu i fod yn amlddisgyblaethol iawn - ac yn manteisio ar arbenigedd ein t卯m amrywiol.
Projectau:
- ''
- hela anifeiliaid gwyllt ym Madagascar
- (Cynllun amaeth-amgylchedd Cymru) monitro a gwerthuso
- Buddsoddi mewn opsiynau amaeth-goedwigaeth ar gyfer adfer coedwigoedd yn Indonesia
- Cyfuno hawliau tir cymunedol gyda dyheadau rhanddeiliaid yn Borneo Indonesia
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.