麻豆传媒高清版

Fy ngwlad:
Meddygaeth

Meddygaeth

Byddwn yn eich hyfforddi i fod yn feddyg rhagorol i Gymru a thu hwnt trwy ddarparu addysg o ansawdd uchel a phrofiad dysgu ysbrydoledig yn seiliedig ar fwy o gyswllt clinigol ac addysgu clinigol o fri ym Mwrdd Iechyd y Brifysgol.

Ar y dudalen hon:

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Meddygaeth

5 rheswm dros astudio Meddygaeth ym Mangor

Rydym yn gwerthfawrogi bod dechrau rhaglen Meddygaeth yn gam mawr i bob un o鈥檔 myfyrwyr newydd, ac yn cydnabod mai dyma鈥檙 rhaglen academaidd hiraf sydd ac un o鈥檙 mwyaf heriol. O鈥檙 herwydd, gwnawn yn si诺r fod cefnogaeth fugeiliol ac academaidd ar gael i fyfyrwyr drwy gyfrwng tiwtor personol dynodedig.

  • Mae ein dull, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, yn cynnwys addysgu a dysgu mewn grwpiau bach felly byddwch yn elwa o gael mwy o amser cyswllt gyda'ch darlithwyr.
  • Mae cwricwlwm blwyddyn 1 yn seiliedig ar addysgu mewn grwpiau bach, gan gynnwys Dysgu ar sail Achosion sy鈥檔 ffordd o gysylltu eich dysgu gwyddonol gyda straeon go iawn o fywydau cleifion. Mae hefyd yn gosod y claf wrth wraidd eich astudiaethau.

Mae astudio meddygaeth yng Nghymru, sy鈥檔 wlad ddwyieithog, yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr. Bydd gallu teimlo鈥檔 hyderus wrth drin cleifion sydd 芒 mamiaith wahanol i chi yn eich galluogi i weithio yn unrhyw le yn y byd, a byddwch yn ymgynghori鈥檔 aml 芒 chyfieithwyr ar y pryd o bob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig.

  • Mae鈥檙 ystafell rhithrealiti yn darparu hyfforddiant enghreifftiol trochol sy'n galluogi myfyrwyr i ddod yn gymwys ag ymdrin 芒 phroblemau clinigol sydd bron byth yn digwydd ond y mae angen gallu eu hadnabod a gweithredu yn eu cylch ar unwaith.
  • Caiff anatomi ei addysgu trwy fanteisio ar dechnoleg fodern, gan gynnwys bwrdd dyrannu electronig 'Anatomage', sgriniau Fideo 3D di-wydr ac apiau symudol.

  • Mae llawer o gyfleoedd yn ystod y modiwl Clerciaeth Integredig Hydredol ym mlwyddyn 2 ac yn y lleoliadau ym mlynyddoedd 3 a 4 i gael profiad o feddygaeth yn ardal anghysbell, wledig, fynyddig, hardd gogledd Cymru.
  • Mae鈥檙 Rhaglen yn cynnwys diwrnod unigryw i efelychu Iechyd Gwledig 'yn y maes' a ddarperir mewn partneriaeth 芒 gwasanaethau gwirfoddol, gan gynnwys y Gwasanaeth Achub Mynydd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru, Sefydliad Brenhinol y Badau Achub, a staff arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a鈥檙 Brifysgol.

Rydym ni鈥檔 ffodus bod gennym ni gwrs bach sy鈥檔 gwneud i ni deimlo鈥檔 debycach i deulu na chwrs gradd safonol. Fy hoff ran o'r cwrs hyd yma yw cael amser personol gyda fy nhiwtor meddygaeth deuluol i deimlo'n hyderus yn fy sgiliau a fy ngallu fel myfyriwr meddygol.
Y peth rydw i'n edrych ymlaen ato fwyaf yw gallu ymroi鈥檔 llwyr i fy hyfforddiant a llwyddo i fod y meddyg rwy'n anelu at fod, gobeithio.

Jack Hamerton,  Blwyddyn 3

Fframwaith y cwrs

Y flaenoriaeth ym Mlwyddyn 1 yw rhoi sylfaen gref i chi yn y gwyddorau sylfaenol, sgiliau clinigol, cyfathrebu a phroffesiynoldeb. Byddwch yn dysgu am sylfeini gwyddorau meddygol ac yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i ddod yn feddygon cymwys. Mae'r rhaglen hefyd yn pwysleisio鈥檙 angen am gysylltiad cynnar 芒 chleifion i wella鈥檙 dysgu a dealltwriaeth o senarios meddygol y byd go iawn.听听

Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau dysgu amrywiol, gan gynnwys Dysgu yn y Gymuned a Chydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr. Un uchafbwynt nodedig ym mlwyddyn dau yw'r Efelychiad Iechyd Gwledig, lle cyflwynir chi i heriau darparu gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig o鈥檜 cymharu ag ardaloedd trefol. Byddwch yn ymarfer sgiliau clinigol a chyfathrebu wrth ymateb i argyfwng enghreifftiol ochr yn ochr 芒 meddygon a pharafeddygon.听

Ym Mlwyddyn 3 eich cwrs byddwch yn ymgymryd 芒 Chlerciaeth Integredig Hydredol (LIC). Yn ystod y lleoliad clinigol hwn byddwch yn gweithio yn y gymuned ac mewn practis Meddyg Teulu am flwyddyn gyfan. Bydd hynny鈥檔 eich galluogi i ddilyn taith lawn y claf ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd, a sylwi ar effaith cyflyrau meddygol a鈥檜 triniaeth ar gleifion.听

Ym Mlwyddyn 4 y rhaglen, byddwch yn canolbwyntio ar achosion cynyddol arbenigol ac yn cymhwyso鈥檙 sgiliau craidd a ddysgoch ym Mlwyddyn 3 mewn gwahanol sefyllfaoedd clinigol. Rhennir y flwyddyn yn gyfleoedd dysgu lluosog, gan gynnwys lleoliadau clinigol arbenigol a鈥檙 Gydran a Ddewisir gan Fyfyrwyr.

Cynlluniwyd Blwyddyn 5 i integreiddio a pharatoi myfyrwyr meddygol ar gyfer y Rhaglen Sylfaen a'ch gyrfaoedd at y dyfodol fel meddygon yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) neu astudiaethau 么l-radd pellach.

Y broses achredu

Mae dyddiad dechrau rhaglen feddygaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn 2024 wedi鈥檌 gytuno gyda鈥檙 Cyngor Meddygol Cyffredinol.听 Mae cwricwlwm Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi'i ddilysu'n academaidd gan uned Ansawdd a Dilysu Prifysgol Bangor trwy broses sy'n cynnwys arbenigedd addysg feddygol allanol.

Mae holl ysgolion meddygol y Deyrnas Unedig yn cael eu hadolygu鈥檔 rheolaidd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Dyma鈥檙 corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer Meddygaeth sy鈥檔 gyfrifol am sicrhau safonau uchel ar gyfer addysg feddygol fel y disgrifir yn eu dogfen 鈥淗yrwyddo rhagoriaeth: safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol鈥. Yn ogystal, bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn craffu鈥檔 drwyadl ar bob ysgol feddygol newydd.

Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn symud ymlaen drwy broses gymeradwyo'r Cyngor Meddygol Cyffredinol i ddyfarnu Cymhwyster Meddygol Sylfaenol. Bydd achrediad y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi ei gwblhau unwaith bydd y myfyrwyr cyntaf yn graddio.

Er mwyn amddiffyn myfyrwyr, rhaid i ysgolion meddygol newydd weithio gyda phartner 鈥榳rth gefn鈥, sef ysgol feddygol sefydledig sy鈥檔 gallu darparu cefnogaeth ac sy鈥檔 fodlon, os nad yw safonau ansawdd y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi eu cyrraedd am unrhyw reswm, i fyfyrwyr drosglwyddo a graddio o鈥檙 ysgol wrth gefn. Yr ysgol bartner wrth gefn ar gyfer Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yw Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.