Elen Simpson - Rheolwr yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
e.w.simpson@bangor.ac.uk
01248 382966
Graddiodd Elen ym Mhrifysgol Bangor gyda gradd ar y cyd mewn Cymraeg a Hanes Cymru. Ar ôl cyfnod fel Archifydd dan Hyfforddiant yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru cwblhaodd ei Diploma mewn Gweinyddu Archifau o dan arweiniad Yr Athro Tony Carr.
Mae hi bellach yn Archifydd Cofrestredig ac yn gyfrifol am yr Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Bangor – swydd sydd â chyfrifoldebau eang o safbwynt darparu gofal a mynediad i’r casgliadau archifol a’r deunydd printiedig prin sy’n rhan annatod a phwysig o Brifysgol Bangor.
Ìý
Ìý
Ìý
Lynette Williams - Archifydd
l.d.williams@bangor.ac.ukÌý
01248 383276Ìý
Graddiodd Lynette o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Hanes Cymru ac Archaeoleg cyn ennill gradd Meistr mewn Rheolaeth Treftadaeth. Treuliodd amser yn gweithio i CADW cyn cychwyn ar yrfa ym maes Archifau ac mae wedi cyflawni MSc mewn Gweinyddu Archifau o Brifysgol Aberystwyth.
Fel Uwch Archifydd Lynette sy’n gyfrifol am fynediad at gasgliadau, eu datblygiad a’u rheolaeth, gyda chyfrifoldeb curadurol penodol am gofnodion y Brifysgol o'r dyddiad sefydlu hyd heddiw.
Mae Lynette yn gweithio'n rhan-amser i'r adran gan ei bod hefyd yn gweithio i Wasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfiaeth y Brifysgol lle mae'n goruchwylio'r gwaith o reoli ymateb y sefydliad i geisiadau deddfwriaeth gwybodaeth (gan gynnwys yr holl ymholiadau Diogelu Data, Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol) yn ogystal ag y Ganolfan Cofnodion corfforaethol.
Ìý
Ìý
Ìý
Shan RobinsonÌýÌý
s.a.robinson@bangor.ac.uk
01248 383276
Mae Shan wedi gweithio yn y Brifysgol ers deugain mlynedd, ugain mlynedd yn y llyfrgell ac ugain mlynedd arall yn yr Archifau. Ei phrif gyfrifoldebau yw'r casgliadau arbennig printiedig a'r llyfrau prin.
Astudiodd am ei gradd mewn Astudiaethau Cymdeithasol trwy’r Adran Dysgu Gydol Oes, ac yna aeth ymlaen i gwblhau ei gradd Meistr mewn Astudiaethau Merched gyda’r un adran yn 2013. Cwblhaodd Gwrs Byr DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) ar lyfrgellyddiaeth llyfrau prin gyda’r adran Astudiaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2016. Yn ystod y cyfnod clo yn 2020, ymgymerodd â chwrs ar-lein gyda choleg prifysgol Dulyn ar hanes y llyfr.
Heddiw mae’n cydweithio’n agos â chasgliadau’r Llyfrgell Gymraeg ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn hanes merched Cymru. Roedd testun ei thraethawd hir M.A. ar hanes addysg merched yng Nghymru. Mae hi’n un o gynrychiolwyr gogledd Cymru ar bwyllgor Archif Menywod Cymru, grŵp sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo astudiaeth, ac achub a chadw ffynonellau, hanes menywod yng Nghymru.
Ìý
Ìý
Gwyn WilliamsÌý
g.williams@bangor.ac.uk
01248 383276
Ymunodd Gwyn â’r Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig yn 2021 ar ôl blynyddoedd lawer yn gweithio i Wasanaethau Llyfrgell Prifysgol Bangor lle bu’n gyfrifol am oruchwylio’r tîm yn Llyfrgell Safle’r Normal a darparu cymorth academaidd i’r Colegau ar Safle’r Normal.
Fel yr Uwch Gynorthwyydd Archifau, mae prif gyfrifoldebau Gwyn yn cynnwys darparu gwasanaeth o ansawdd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, cynnig cyngor ac arweiniad i ymwelwyr, cefnogi anghenion addysgu, dysgu ac ymchwil y Brifysgol a chynorthwyo aelodau’r cyhoedd i wneud y defnydd gorau o gasgliadau’r Archifau.