Dim ond un allan o nifer o gasgliadau ystadau yn y Brifysgol ym Mangor yw casgliad Castell Penrhyn. Fodd bynnag, mae鈥檔 un o鈥檔 casgliadau mwyaf, sy鈥檔 denu ymchwilwyr o bell ac agos gan mai un o鈥檙 elfennau mwyaf hynod ohono yw鈥檙 papurau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 planhigfeydd siwgr yn Jamaica. Mae鈥檙 casgliad yn ymestyn dros gyfnod o 700 mlynedd gyda鈥檙 potensial ar gyfer ymchwil yn eang.
Erbyn diwedd y 19ed ganrif, stad y Penrhyn oedd y trydydd mwyaf yng Nghymru. Roedd ei pherchenogion, y teulu Pennant, wedi gwneud eu ffortiwn drwy鈥檙 diwydiant siwgr yn Jamaica ac fe fuddsoddwyd yr enillion a wnaethpwyd yn Jamaica ym Mhrydain. Prynodd y teulu Pennant ystad Gymreig sylweddol a daethant yn arloeswyr a sefydlu鈥檙 diwydiant llechi yng Nghymru. Chwarel y Penrhyn oedd y mwyaf yn 听y byd, a daeth yn enwog am yr aflonyddwch cynyddol ymysg y gweithlu a ddaeth i binacl gyda鈥檙 Streic Fawr ym 1900-1903.
Trosglwyddwyd papurau Castell Penrhyn i鈥檙 Bryfysgol ar wahanol adegau ac o ganlyniad mae nifer o gatalogau wedi ymddangos dros y blynyddoedd.
Mae catalogau papur ar gael yn yr adran ond mae rhai ohonynt hefyd ar gael ar ein catalog ar-lein.
听
Rhif cyfeiriad | Enw鈥檙 casgliad |
Catalog papur ar gael yn yr Archifau |
Catalog ar gael听: |
---|---|---|---|
PENR |
Penrhyn Castle Papers |
Oes |
Oes |
PENRA |
Penrhyn Castle Additional Manuscripts |
Oes |
Oes |
PBRA |
Penrhyn B.R.A. |
Oes |
Oes |
PBIS |
Penrhyn Correspondence : Bethesda Intermediate School |
Oes |
Oes |
PQS |
Penrhyn Correspondence : Quarry Strike |
Oes |
Oes |
PFA |
Penrhyn Castle Further Additional |
Oes |
Oes |