Cyfrifeg a Chyllid, 2010
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gael partneriaeth gadarn gyda'r Bahrain Institute of Banking and Finance (BIBF).
Dechreuodd y bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a BIBF yn 2004 gyda'r garfan gyntaf o fyfyrwyr yn graddio yn 2007. Ers hynny mae dros 500 o fyfyrwyr wedi graddio o'r rhaglen hon sy'n galluogi myfyrwyr i astudio'r flwyddyn sylfaen a dwy flynedd gyntaf eu gradd ym Mahrain a chwblhau'r flwyddyn olaf i ennill eu gradd ym Mangor.
Roeddem yn falch iawn eleni o lansio Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF. Mae'r anrhydedd hon yn cydnabod myfyriwr graddedig o'r rhaglen Bangor/BIBF sydd wedi cyflawni rhagoriaeth broffesiynol, ac ar yr un pryd wedi cael amser i wneud gweithgareddau gwirfoddoli a rhoi rhywbeth yn 么l i'w cymuned.
Ganwyd Amina Al-Alaiwi ym Mahrain, a Bangor oedd ei phrofiad cyntaf o astudio dramor. Ar 么l ennill Diploma mewn Bancio a Chyllid ac Uwch Ddiploma mewn Cyllid Islamaidd yn BIBF, daeth Amina i Brifysgol Bangor i gael ei gradd BA mewn Cyfrifeg a Chyllid yn 2010. Dyfarnwyd y wobr am y perfformiad gorau mewn Cyfrifeg a Chyllid yn nosbarth 2010 iddi.
Wrth s么n am ei chyfnod ym Mangor, meddai Amina, "Y peth gorau am Fangor yw'r heddwch, ni ellwch ei gael bron o gwbl wrth fyw mewn dinasoedd mawr. Roeddwn wrth fy modd 芒 byd natur yr ardal a'r ffaith bod y bobl leol mor gyfeillgar". Mae hi'n dal mewn cysylltiad 芒 nifer o ffrindiau a wnaeth ym Mangor.
Ar 么l graddio, cofrestrodd Amina ar y rhaglen Dadansoddwr Ariannol Siartredig. Mae wedi llwyddo yn ei harholiad Lefel II yn ddiweddar ac mae ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer yr arholiad Lefel III ym Mehefin 2017.
Mae Amina erbyn yn hyn yn uwch-arolygydd yn y Gyfarwyddiaeth Arolygu ym Manc Canolog Bahrain聽 Dechreuodd mewn swydd iau fel myfyriwr newydd raddio ac erbyn hyn mae'n goruchwylio ei th卯m ei hun.聽
Cyn ymuno 芒 Banc Canolog Bahrain, gweithiodd Amina i Fanc Bahrain a Kuwait am dros 5 mlynedd yn dal swyddi Cyfrifydd Rheolaeth, Cyfrifydd Ariannol a Chyllid Masnach.聽
Mewn perthynas 芒'r effaith a gafodd Bangor ar ei gyrfa, meddai Amina, "Mae gan Brifysgol Bangor enw da ym Mahrain fel un o'r prifysgolion gorau ac roedd hynny'n fy ngalluogi i gael cyfweliadau mewn nifer o leoedd neu ennill swydd yn erbyn ymgeiswyr eraill. Rwyf hefyd wedi cael llawer o fuddion anniriaethol oherwydd fy nghyfnod ym Mhrifysgol Bangor, yn cynnwys ehangu fy ngolwg ar y byd ac adeiladu cyfeillgarwch gydol oes."
Cyflwynwyd y wobr i Amina gan Is-ganghellor Bangor, yr Athro Phil Molyneux, Deon y Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas, yn ystod trydydd aduniad blynyddol alumni Bangor yn Nheyrnas Bahrain ym Medi 2016.