Graddiodd y cyn-fyfyriwr Jonny Wright o Brifysgol Bangor ym 1999, ond cafodd syndod i ddysgu ei fod yn llawer mwy dyledus i Fangor nag y tybiodd.
Roedd ei hen nain, Mabel Evans o Langollen yn wreiddiol, wedi dod i Fangor i astudio yn 1907. Daeth yn ffrindiau gydag Ida Humphreys yn ystod eu hastudiaethau ac yn y diwedd, priododd Mabel 芒 brawd Ida (sef hen daid Jonny).
Mae gan Jonny nifer o luniau a chardiau post ei hen nain yn cynnwys ei lluniau graddio a lluniau'r dosbarth. Mae ganddo gerdyn post a ysgrifennwyd gan Mabel ac a anfonwyd i'w hen daid, Howard Humphreys, cyn iddynt briodi. Ar y cerdyn post mae hi'n dweud wrtho sut y bu'n rhaid iddi newid i astudio Hanes yn hytrach na Mathemateg oherwydd roedd y darlithoedd Mathemateg ac Athroniaeth yn cael eu cynnal ar yr un pryd ac roedd Athroniaeth yn ofynnol. Dywed nad yw hi'n gwybod dim am Hanes ac nad yw wedi dod 芒 llyfrau hanes perthnasol gyda hi i Fangor ac yn gofyn iddo anfon rhai. Mae'n dweud wrtho fod "Bangor yn lle braf iawn" ac yn nodi ar y llun o neuadd y brifysgol pa un yw ei hystafell hi.
Cafodd Mabel Evans BA Saesneg yn 1910 ac 89 o flynyddoedd yn ddiweddarach, graddiodd Jonny o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Polisi Cymdeithasol a Throseddeg. Mae bellach yn gyfarwyddwr rheoli byd-eang gyda Dow Jones, wedi ei leoli yn Hong Kong ac yn gyfrifol am ddiffinio a gweithredu strategaethau twf ar gyfer y Wall Street Journal a Dow Jones tu allan i'r Unol Daleithiau. Ymunodd 芒 Dow Jones yn gyntaf yn 2010 fel Cyfarwyddwr Gwerthiant Hysbysebu ar gyfer Newyddion Ariannol Dow Jones a chyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cyhoeddi a Gwerthiant Gr诺p gydag Euromoney Institutional Investor yn Efrog Newydd.
Yn ddiweddar, ymunodd Jonny 芒 Bwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor fel Cyswllt a Chynghorydd Rhyngwladol.
听