Tony Vickers-Byrne
Saesneg a Drama, 1981 a TAR, 1982
"...gadael Bangor a symud i Lundain oedd y penderfyniad anoddaf i mi orfod ei wneud erioed ac rwy'n dal i feddwl am fy nghyfnod yn y brifysgol ac am fyw yn Eryri bob dydd."
鈥淎r ddiwrnod olaf wythnos yn Nolgellau ym mis Hydref 2020, ychydig cyn y 'cyfnod atal byr' i geisio rheoli ymlediad COVID-19, euthum am dro bach ar fy mhen fy hun. Roedd fy ngwraig yn 'gweithio gartref' yn ein bwthyn gwyliau ac fe adewais Ddolgellau ar fore hyfryd, clir i gerdded ar hyd y ffordd i faes parcio T欧 Nant. Roeddwn eisoes wedi cerdded ar hyd llethrau Cader Idris o D欧 Nant yn gynt yn yr wythnos.
Yn fuan ar fy nhaith cyfarf没m 芒 Phil, oedd yn wreiddiol o Essex, yn mynd 芒鈥檌 gi defaid y Goror hardd am dro, ac fel minnau鈥檔 mwynhau'r tywydd a'r golygfeydd godidog.
Gwnaethon rannu hanesion am ein cariad at Eryri a ch诺n defaid y Goror. Ymron i 40 mlynedd ynghynt, roedd fy nghi defaid i, Tess, a hanai o fferm ar gyrion Bethesda, yn ffefryn mawr ymhlith fy nghyd myfyrwyr a ffrindiau lleol yn ystod fy mlwyddyn hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Bangor a鈥檓 blwyddyn gyntaf o waith yn Awdurdod Iechyd Gwynedd.
Byth ers iddo symud i Eryri rai blynyddoedd yn 么l, dywedodd Phil ei fod yn profi teimlad o golled gorfforol pob tro y byddai鈥檔 gadael yr ardal, hyd yn oed am ychydig ddyddiau.
Rwyf innau鈥檔 teimlo'r un fath, bob amser yn syllu鈥檔 么l trwy鈥檙 drych cefn i gael un cipolwg terfynol ar y mynyddoedd wrth droi am y de ar 么l un o鈥檓 hymweliadau rheolaidd.
Roeddwn yn ddiweddar wedi ail-ganfod fy nau ffrind gorau o ddyddiau coleg, Helen a Simon, trwy Facebook. Bellach roeddynt yn byw ym Majorca a Melbourne. Cawsom aduniad yn Swydd Efrog yn 2019 a rhannu llu o atgofion am ein dyddiau fel myfyrwyr.
Er bod ein dewisiadau bywyd wedi ein gwahanu o filoedd o filltiroedd, roeddem i gyd yn dal i rannu ein hatgofion cariadus o鈥檔 bywyd fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor ac o fyw yn Eryri.
A minnau wedi fy magu ar yst芒d cyngor enfawr ym Manceinion, rydw i bob amser wedi gwerthfawrogi pa mor lwcus oeddwn i ddewis Bangor a symud i fyw i gymuned fach, falch mewn ardal mor brydferth. Roedd y cyfeillgarwch, y gefnogaeth gan staff academaidd ac ymddiddan cyfeillgar a thynnu coes y bobl leol yn rhywbeth na allwn fod wedi'i brofi mewn prifysgol mewn dinas fawr.
Ym mis Mawrth 2020, fel rhan o鈥檓 'taith ffarwel' fel cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac ymgynghorydd, ychydig cyn i mi ymddeol o waith amser llawn, rhoddais gyflwyniad i gr诺p bach o fyfyrwyr ym Mangor ar ba mor bwysig yw hi i gyflogwyr drin eu gweithwyr 芒 charedigrwydd a thosturi, a'r budd a ddaw i sefydliadau o鈥檙 arddull honno o reoli. Rwy'n deall mai fi oedd yr ymwelydd allanol olaf 芒'r campws cyn y cyfnod clo a ddechreuodd ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.
Dros y misoedd canlynol gwyliais wrth i rai o'm cyn-gydweithwyr yn Public Health England ddod yn wynebau cyfarwydd ar y cyfryngau ac yn 'ffrindiau rhithiol', gan ein helpu trwy'r ychydig fisoedd ofnadwy cyntaf hynny. Tynnwyd sylw yn y wasg a'r cyfryngau cenedlaethol ac ar gyfryngau cymdeithasol at y sefydliadau hynny nad oedd yn trin eu gweithwyr 芒 charedigrwydd a thosturi. Wrth i mi ymddeol, roedd gweithio hyblyg, iechyd meddwl gweithwyr ac amrywiaeth a chynhwysiant yn troi鈥檔 elfennau allweddol o strategaeth fusnes pob sefydliad. Mae byd gwaith wedi newid er gwell.
Helpodd fy nghyfnod yn astudio ac yn gweithio ym Mangor imi ddeall pwysigrwydd gofalu am ein gilydd a'r amgylchedd. Chwaraeodd ran bwysig yn fy mharatoi at 25 mlynedd fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Gwasanaeth Sifil.
Ar fy niwrnod olaf yn chwarae criced i Fiwmares yn 1982, cerddais gyda Les, ein ceidwad wiced, o amgylch ffiniau maes criced Porthmadog i fwynhau鈥檙 olygfa o aber yr afon a'r mynyddoedd o鈥檌 chylch. Dyma Les, oedd yn bostmon ym Mangor, yn dweud wrthyf y byddwn bob amser yn difaru gadael Eryri a symud i Lundain. "Rwyt ti'n fachgen gwirion. Sut elli di adael hyn?"
Dydw i ddim yn difaru fy ngyrfa yn Llundain a de Lloegr - cyfarf没m 芒鈥檓 gwraig, gweithio 芒 chydweithwyr arbennig iawn a daeth Tess y ci gyda mi! Ond gadael Bangor a symud i Lundain oedd y penderfyniad anoddaf i mi orfod ei wneud erioed ac rwy'n dal i feddwl am fy nghyfnod yn y brifysgol ac am fyw yn Eryri bob dydd.
Mae'r cyffro a gaf o weld y Fenai a鈥檙 mynyddoedd yn y pellter, a'm teimlad o dawelwch a bodlonrwydd pan fyddaf yn 么l yn cerdded ar Bier Bangor, yn anrhegion rhyfeddol y byddaf yn eu trysori am byth.鈥
Gyrfa
Ar hyn o bryd rwy鈥檔 Brif Gynghorydd i Fwrdd Armstrong Craven, sefydliad rheoli a chyfeirio talent sy鈥檔 chwilio am ymgeiswyr ar lefel rheolwyr gweithredol.
Rwyf hefyd yn Ymddiriedolwr y Gymdeithas Frenhinol dros Iechyd y Cyhoedd.
Cymrawd Siartredig y Sefydliad Siartredig Person茅l a Datblygu (CIPD), gyda thros 25 mlynedd o brofiad ar lefel cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol cyntaf Public Health England yn 2013.
Yn ystod fy nghyfnod yn PHE sefydlais fudiad cymdeithasol dros ddulliau rheoli tosturiol a datblygwyd y gwaith hwnnw gan y Fforwm Cenedlaethol Iechyd a Lles yn y Gwaith dan arweiniad yr Athro Syr Cary Cooper. Mae'r Fforwm Cenedlaethol yn cynnwys oddeutu 40 o gyfarwyddwyr meddygaeth, adnoddau dynol a lles o rai o'r sefydliadau mwyaf ar draws y Deyrnas Unedig.
Hyd nes imi ymddeol o gyflogaeth amser llawn ym mis Mawrth 2020, roeddwn yn Brif Gynghorydd Ymarfer Adnoddau Dynol y CIPD, ac yn teithio ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop i sicrhau bod y 150,000 a mwy o aelodau鈥檙 CIPD yn deall pwysigrwydd 'gwaith da' a'u r么l allweddol yn sicrhau trefniadau rheoli moesegol o fewn eu sefydliadau.
听
听