Tasmin Lofthouse
Seicoleg, 2014
鈥淗elpodd Prifysgol Bangor i feithrin fy ysbryd entrepreneuraidd鈥
鈥淢ae fy mywyd ym Mhrifysgol Bangor yn teimlo fel bywyd arall ond eto mae鈥檙 effaith y mae wedi ei gael ar fy mywyd yn fythgofiadwy.
Yn ddwy ar bymtheg oed ac yn ysu am annibyniaeth, dewisais Brifysgol Bangor am ddau reswm:
1.听听 听Roedd yn bell oddi cartref (131 milltir i fod yn fanwl gywir) ac mewn gwlad arall
2.听听 听Roedd yn un o'r prifysgolion gorau i astudio seicoleg
Dair blynedd yn ddiweddarach, yn 2014, ffarweliais 芒 bywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn barod i gamu i鈥檙 鈥渂yd go iawn鈥濃 beth bynnag yw hynny.
Ychydig a wyddwn y byddai Bangor yn hawlio rhan o鈥檓 calon ac nid y diwrnod olaf hwnnw fel myfyriwr mewn dinas fechan yng Nghymru fyddai鈥檙 tro olaf imi fod yng nghanol tirwedd garw Eryri. Ond, y dyddiau hyn, byddaf yn ymweld 芒 Gwynedd a鈥檌 bywyd gwyllt fel ffordd o ymlacio a gorffwys fy meddwl ar 么l prysurdeb bywyd bob dydd. Nid oes unrhyw beth tebyg i awyr iach y mynyddoedd i ailgynnau'r synapsau creadigol!
Gan fod gennyf ddiddordeb mawr yn sut mae'r meddwl yn gweithio, dewisais astudio seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Nid oeddwn yn gwybod ble鈥檙 oeddwn am fynd nesaf tan fy nhrydedd flwyddyn, fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol.
Astudiais Seicoleg Defnyddwyr fel un o'm modiwlau trydedd flwyddyn a chefais fy niddori ar unwaith. Roedd dysgu am yr holl bethau sy鈥檔 gyrru pobl, y gweithredoedd sy'n dylanwadu ar benderfyniadau prynu, a chymhlethdod ymddygiad defnyddwyr o ddiddordeb mawr imi. Roedd dysgu popeth am seicoleg defnyddwyr fel gweld y 鈥榖utterfly effect鈥 ar waith. Gall pob penderfyniad bach ym maes seicoleg defnyddwyr gael effaith aruthrol ar brofiad y cwsmer. Chwalodd hynny fy mhen.
Dyna ni. O'r eiliad honno, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau gyrfa ym myd marchnata. Felly, penderfynais wneud fy ngorau glas i wneud hynny. Mae'n debyg bod fy niddordeb mewn seicoleg defnyddwyr yn amlwg yn y ffaith mai fi oedd y myfyriwr mwyaf llwyddiannus yn fy mlwyddyn (ddim yn ddiymhongar iawn, dw i'n gwybod). Fel rhywun nad oedd erioed wedi teimlo fel un o鈥檙 goreuon mewn unrhyw beth, roedd y gydnabyddiaeth honno'n arwydd o fy awydd i gael gyrfa ym myd marchnata.
Ochr yn ochr 芒鈥檓 hastudiaethau, ymunais hefyd 芒鈥檙 rhaglen Byddwch Fentrus, b没m yn arweinydd cyfoed i鈥檙 glasfyfyrwyr, a b没m yn gwerthu jariau bisgedi ym marchnad Nadolig y myfyrwyr. Hyd yn oed bryd hynny, yn ddiarwybod imi, roedd Prifysgol Bangor yn helpu i feithrin fy ysbryd entrepreneuraidd.
Ar 么l y brifysgol, es yn 么l i鈥檓 tref enedigol, fel y mae llawer o fyfyrwyr yn ei wneud. Cefais swydd fel cynorthwyydd marchnata gyda chwmni lleol. Dros nifer o flynyddoedd a chyda chwmn茂au gwahanol, gweithiais fy ffordd i fyny'r ysgol farchnata.
Ar 么l colli fy swydd yn annisgwyl, cymerais y saib sydyn yn fy ngyrfa fel cyfle i ddilyn fy mreuddwyd - gan ddechrau fy menter lawrydd fy hun.
Camais i鈥檙 byd llawrydd ym mis Ionawr 2020. Ar 么l blwyddyn lwyddiannus o weithio'n llawrydd, dechreuais asiantaeth farchnata fy hun, o鈥檙 enw听听ym mis Mehefin 2021.
Mae Fika Digital yn defnyddio grym y cysylltiad rhwng pobl, yn seiliedig ar fy niddordeb mewn seicoleg defnyddwyr, i helpu arweinwyr busnes i greu cynnwys marchnata sy'n cysylltu 芒鈥檜 cynulleidfa ddelfrydol (ac yn ei throsi).
Rwyf bellach yn gweithio gyda brandiau anhygoel ledled y byd, ac rwyf wedi cael effaith fawr ar eu hamcanion marchnata a busnes ehangach, ac rwy鈥檔 cael defnyddio seicoleg defnyddwyr yn fy ngwaith pob dydd.
Cymerodd fy ngyrfa dro annisgwyl ond anhygoel a chredaf yn ddiffuant fod fy amser ym Mhrifysgol Bangor wedi helpu i鈥檓 rhoi ar y llwybr o fod yn fyfyriwr ifanc, annibynnol ond penderfynol i fod yn entrepreneur, ychydig yn h欧n a doethach.
Efallai na fydd pethau bob amser yn gweithio yn 么l y disgwyl - weithiau, maent yn gweithio er gwell. Manteisiwch ar bob cyfle a ddaw a pheidiwch 芒 bod ofn mentro.鈥
听
听