Yr Athro Robert Akello
PhD Peirianneg Electronig, 1978
鈥淒echreuodd y cyfan yng Ngholeg Polytechnig Kenya lle roeddwn i'n dysgu, gan ddechrau yn 1972. Yma, cyfarf没m 芒 darlithwyr o Brydain a oedd dan gefnogaeth UNESCO. Yn eu plith roedd Mr. John Hunt a ddaeth yn ffrind gorau i mi. Daeth i wybod fy nhrallodion am fy ngradd Sofietaidd ac astudiodd fy ngalluoedd academaidd yn dawel. Fe wnaeth fy annog i fynd am astudiaethau pellach a dilyn gradd PhD yn y Deyrnas Unedig. Ymgeisiais am Ysgoloriaeth y Gymanwlad a thrwy gefnogaeth aruthrol y canolwyr o Brydain, cefais fy rhoi ar y rhestr fer a chael gwahoddiad i gyfweliad gan banel o athrawon a chynrychiolwyr y Weinyddiaeth Addysg yn Gill House, Nairobi.
Mi wnes i lwyddo yn y cyfweliad a chefais ysgoloriaeth i fynd i'r Deyrnas Unedig. Cyrhaeddodd llythyr mynediad i Fangor yn wreiddiol ar gyfer Rhaglen MSc dwy flynedd, hyd nes matriciwleiddio i PhD yn y brifysgol. Es i at y map a dysgu am Ddinas Bangor a'i phrifysgol. Mi wnes i ganfod mai Bangor yw dinas hynaf Cymru, ar arfordir Gogledd Cymru ger Y Fenai, sy'n gwahanu Ynys M么n oddi wrth Wynedd, gyda Phont Menai yn cysylltu'r ynys 芒'r tir mawr ac i'r gogledd o'r ddinas roedd mynyddoedd Eryri.
Pan gyrhaeddodd yr amser gadael, fe wnes i hedfan allan o Kenya gyda British Airways ar 30 Medi 1974 ac ar 么l glanio yn Heathrow, es i orsaf Euston ar y tiwb, mynd ar dr锚n i Fangor ac, yn unol 芒鈥檓 llythyr amserlen teithio, roedd Mrs. Jones, Cynrychiolydd Cyngor Prydeinig Gogledd Cymru, yno i鈥檓 derbyn. Fe yrrodd fi i Neuadd Rathbone am lety dros dro tra'r oeddwn yn chwilio am uned deuluol, gan y byddai fy ngwraig yn ymuno 芒 mi ar 么l mis. Ar 么l setlo am ychydig, canodd ff么n yr ystafell ac ar y llinell roedd gwraig a gyflwynodd ei hun fel Ysgrifennydd yr Ysgol, Ms Gabrielle Barwell. Rhoddodd eiriau o groeso i mi i Fangor a dywedodd fod disgwyl fi drannoeth am 9am ac y byddai'n fy n么l o'r hostel am 8.30am.
Drannoeth, aeth 芒 fi i'r Ysgol Gwyddor Peirianneg Electronig yn Stryd y Deon, lle wnes i gyfarfod 芒'r Athro Ian Stephenson a Mr. Brian Easter a Dr. Anan Gopinath, y T卯m Peirianneg Microdonnau. Dywedasant wrthyf fy mod i'n mynd i gael fy rhoi yn y dosbarth MSc i ddechrau i asesu fy ngalluoedd academaidd ac ar 么l mis, byddai penderfyniad yn cael ei wneud i gael dyrchafiad i PhD, yn dibynnu ar fy mherfformiad. Gweithiais yn galed a llwyddais yn yr holl brofion ac aseiniadau a matriciwleiddio. Cefais fy symud i鈥檙 rhaglen PhD drwy ymchwil a thraethawd ymchwil.
Cyrhaeddodd fy ngwraig, Jane, gyda fy merch Nyna ym maes awyr Heathrow, lle cawsant flas ar oerfel yr hydref. Derbyniais nhw a threuliasom un diwrnod yn nh欧 cefnder ac ymgyfarwyddo 芒 Llundain. Yna aethom ar y tr锚n i Fangor ac aethom i'r t欧 a gafodd y brifysgol i'r teulu yn Llanllechid, ger Bethesda. Yno, cefais wraig gyfeillgar iawn, Mrs. Thomas, a roddodd groeso cynnes i鈥檓 teulu.聽 Cyfarf没m hefyd 芒 Mr. John Roy Porter, sydd bellach yn Athro Emeritws. Rwy'n ei gofio yn rhoi benthyg ei gar i mi, a finna'n ei daro ar waliau'r fferm wrth i mi yrru i lawr yr allt. Roeddwn mor falch o gwrdd ag ef a rhai aelodau o鈥檓 teulu pan ddaeth i Nairobi ar berwyl Newid Hinsawdd Byd-eang ym mis Chwefror 2023.
O Lanllechid, daeth y brifysgol o hyd i fflat agosach at dri llawr a oedd yn eiddo i'r Eglwys Gatholig ar 40 Ffordd y Coleg, Bangor Uchaf.
Rhoddodd hynny fynediad da i mi i far John Bull, lle buom yn cyfarfod bob nos Wener i drafod cynnydd ein hymchwil, wrth i 鈥渄dynion y dref鈥 wrando鈥檔 astud a gwerthfawrogi bod Bangor, yn wir, yn ddinas prifysgol. O鈥檙 trafodaethau, rwy鈥檔 cofio beirniadaethau a barodd i ni neidio i fynd i fyfyrio ar y newidynnau coll, a gafodd eu hysgogi gan 鈥渓eygwyr鈥. Gwnaeth hyn, ynghyd 芒 chyfraniadau gan ein goruchwylwyr, i ni gyhoeddi mewn cyfnodolion ag enw da yn fyd-eang.
Amddiffynnais fy nhraethawd ymchwil, dan y teitl Microwave Field Effect Transistors, a chefais gydnabyddiaeth fy mod wedi llwyddo gan yr Ysgrifennydd Academaidd ar y pryd, R.W.Evans, mewn nodyn dyddiedig 28 Gorffennaf, 1977. Yna deuthum yn 么l adref, lle rwyf wedi dysgu Electroneg a Thelathrebu ym Mhrifysgol Nairobi, lle ymddeolais yn 2004, ac yna helpu i ddechrau Cyfadrannau Peirianneg ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Masinde Muliro (2004-2011), Prifysgol Amlgyfrwng Kenya (2011-2019) ac yn awr ym Mhrifysgol Dechnegol Kenya.
Cefais y fraint unwaith eto i gwrdd 芒 Ms. Louise Morgan, y Dirprwy Gyfarwyddwr Recriwtio a Symudedd Rhyngwladol, a ymwelodd 芒 ni yma yn Nairobi ym mis Ionawr eleni, ac wedi dod o hyd i mi. A gaf i ddiolch i Swyddfa鈥檙 Cyn-fyfyrwyr am ddiweddariadau rheolaidd. Rydw i a fy merch Laurie, a aned tra roeddwn yn fyfyriwr yno, yn gobeithio dychwelyd i ymweld cyn i mi ymddeol yn llwyr. Pob lwc i bawb a chofiwch alw heibio pan fyddwch yn Kenya."