Peter Curle
Cemeg, Biocemeg a Gwyddor Pridd, 1968
鈥淎rweiniais y t卯m i ennill y llwy bren ym Mhencampwriaeth Prifysgolion Cymru!鈥
鈥淕wnaeth gweld y deyrnged i Syr John Thomas FRS fy atgoffa am ba mor falch yr oeddem yng nghanol y 1960au i gael darlithoedd gan rywun a oedd wedi ennill DSc. a statws Darllenydd pan oedd mor ifanc. O'm rhan i, cefais gradd lwyddo (y cyfeirir ati heddiw fel Gradd Sylfaen, rwy'n credu) ar 么l 4 blynedd ac fel ymgeisydd allanol! Ar 么l ymuno 芒 Shell Research heb radd ac ar gontract dros dro, graddiais o'r Sefydliad Cemeg Brenhinol trwy gael fy rhyddhau i wneud astudiaethau un-dydd. Trosglwyddodd y cymhwyster hwn yn ddiweddarach i MRSC, Cemegydd Siartredig. 听
Ar 么l symud ymlaen i Dow Chemical yn King鈥檚 Lynn, roeddwn yn rhan o gydweithrediad aml-gwmni a enillodd Seren Arian am arloesi mewn pecynnu gan y Sefydliad Pecynnu ac ennill Seren y Byd gan Sefydliad Pecynnu鈥檙 Byd.听 Mae'r tlws gen i o hyd.听 Yn ddiweddarach fi oedd prif awdur y bennod ar becynnu yn y gwerslyfr 鈥淐hemistry and Technology of Agrochemical Formulations".听 Roedd hwn hefyd o ganlyniad i gydweithredu rhwng diwydiant ac mae ar gael fel e-lyfr. Erbyn hyn roeddwn yn Rheolwr Datblygu Pecynnu yn Ewrop ar raddfa Uwch Wyddonydd Ymchwil yn gweithio ar blaleiddiaid a ddosberthir yn fyd-eang - neu feddyginiaethau ar gyfer cnydau os hoffech ei alw鈥檔 hynny.
Ynr ystod fy nghyfnod ym Mangor, ym maes chwaraeon, datblygais o fod yr 20fed wrth gefn ar gyfer y 3ydd t卯m, i fod yn Ysgrifennydd Cymdeithasol ac yna i fod yn gapten ar y t卯m 1af yn fy mlwyddyn olaf. Enghraifft arall o ddyfal donc a dyr y garreg ....听 Yn anffodus, arweiniais y t卯m i'r safle olaf ym Mhencampwriaeth Prifysgolion Cymru a chyflwynwyd y llwy bren i mi yn Ysgol Feddygol Caerdydd. Doedd o ddim yn ddiwrnod da. Serch hynny, roedd ennill Saith Bob Ochr Gogledd Cymru yn gysur. Aeth nifer o aelodau鈥檙 t卯m llwy bren ymlaen i gyrraedd rownd derfynol yr UAU yng Nghymry Llundain yn erbyn Loughborough y flwyddyn ganlynol. Roedd ffrind ysgol yn y t卯m oedd yn ein gwrthwynebu.
Yr uchafbwynt fel Ysgrifennydd Cymdeithasol oedd dod allan o Westy'r Castell tua 5am ar 么l Dawns Haf y clwb, ar 么l rhannu swper hwyr neu o bosib brecwast gyda'r perchennog.听 Roeddwn wedi herio ei waharddiad ar logi gr诺p pop!
听
Un o fy hoff atgofion yw rhoi pas sgorio i Geoff Evans a bownsiodd yn yr eira yn Sheffield cyn iddi groesi'r linell wen go iawn. Atgof arall yw pan wnes i fynd 芒 Geoff yn fy fan Ford Thames ryw ddydd Sul i Wilmslow pan roedd yn chwarae i Brifysgolion Prydain yn erbyn Swydd Gaer. Roedd chwaraewr rhyngwladol yr Alban, Peter Stagg, 6 troedfedd 10 modfedd, yn nh卯m Swydd Gaer. Rwy'n crybwyll dydd Sul oherwydd yn y dyddiau hynny roedd pob chwaraeon gan gynnwys hyfforddi wedi eu gwahardd yng Nghymru. Gan fod y tafarndai ar gau hefyd, nid oedd unrhyw esgus dros beidio 芒 chael pen mawr fore Sul! Aeth Geoff ymlaen i chwarae i Gymry Llundain, Cymru a mynd ar daith i Seland Newydd gyda th卯m epig y Llewod yn 1971.
Cyn mynd i Fangor roeddwn wedi rhoi pas sgorio arall a bownsiodd i John Atkinson wrth chwarae rygbi'r gynghrair ar ddydd Sul. Chwaraeodd John ran amlwg iawn yn Rownd Derfynol y Cwpan Her yn Wembley yn 1968. Sgoriodd ddau gais hefyd ym mhrawf olaf y Llewod yn Awstralia yn 1970. Hwn oedd y tro olaf i Awstralia golli cyfres brawf i'r Llewod.听 Roedd John yn yr un flwyddyn ysgol ac yn yr un ysgol uwchradd ger fy nghartref ag Ian McGeechan - Syr Ian yn ddiweddarach! Gan barhau 芒鈥檙 thema rygbi鈥檙 gynghrair, yn 2004 ysgrifennais fywgraffiad fy llys-dad-yng-nghyfraith, a oedd yn cynnwys ei brofiadau yn ystod y rhyfel o Dunkirk i Normandi, a'i yrfa rygbi a arweiniodd at ennill Rownd Derfynol y Cwpan Her yn 1952.
Er bod fy ngwraig yn honni nad yw hi'n cofio, wnes i gyfarfod 芒 hi gyntaf yn nawns y glas. Gwelais bedair merch yn dawnsio gydag un bachgen felly dyma fagu digon o ddewrder i ymuno 芒 nhw.听 Dyna sioc o glywed eu bod yng Ngholeg y Santes Fair a鈥檜 bod i fod yn 么l cyn 11pm! Yn unol 芒鈥檙 rheolau gwnaethom eu cerdded i fyny'r bryn i Bryn Kynalt (wrth lwc nid Barlows) a bu rhaid i mi gerdded trwy'r glaw i'm llety ym Mhorthaethwy. Y nos Sadwrn ganlynol cefais fy hun yn cerdded merch yn 么l i'r Coleg Normal. Roedd hynny'n iawn gan ei fod ar y ffordd i Borthaethwy ac nid oedd hi'n bwrw glaw. Aeth dros dwy flynedd heibio cyn i mi gwrdd 芒 fy narpar wraig eto. Roedd yr ail waith yn y sied prefab a alwyd yn Tanrallt. Roedd Jen yn dawnsio (eto) ond gyda dim ond un ferch y tro hwn. Gwnaeth Mary briodi John Tovey (M.Sc. Electroneg), chwaraewr rygbi a oedd hefyd yn gwneud y naid bolyn i鈥檙 coleg. Fo oedd fy ngwas priodas. 听
Rwy'n cofio fy amser ym Mangor gyda hoffter ac ychydig o dristwch. Ond yn fwy na dim, daeth 芒 Jen a fi at ein gilydd.鈥