Yn y blynyddoedd cyn ymuno 芒 Phrifysgol Bangor, gwnaethom ddechrau rhaglen hybu mentrau cymdeithasol ac arloesi i hyfforddi merched a phobl ifanc i ddechrau mentrau cymdeithasol a sicrhau annibyniaeth economaidd iddynt. Ar 么l darllen yn helaeth am yr MSc mewn Rheolaeth Amgylcheddol a Busnes ym Mhrifysgol Bangor, a gweld sut y byddai'n trosi i'm gwaith gyda merched a phobl ifanc yn creu busnesau cynaliadwy, a lleoliad anhygoel y brifysgol rhwng Eryri, y Fenai a M么r Iwerddon, Prifysgol Bangor oedd y dewis perffaith i mi.
Ar 么l cyrraedd gogledd Cymru, roedd y golygfeydd hardd yr oeddwn wedi eu dychmygu itself in i鈥檞 gweld yn glir. Roedd y brifysgol yn cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol trwy deithiau maes, siaradwyr gwadd, dadansoddi busnes ac ymchwil. Er bod cyfyngiad ar symudiadau'n ddiweddarach oherwydd y coronafirws, roedd gwylio gwahanol rywogaethau o adar yn eistedd ac yn canu ar ganghennau coed wrth ymyl fy ffenest a鈥檙 ffaith bod bwyd Affricanaidd ar gael yn y siopau Asiaidd ar y stryd fawr yn golygu nad oedd hunanynysu yn annioddefol. Ac yn fwy na hynny, daeth fy nghyd-letywyr gwych yn Glyder T ym Mhentref Ffriddoedd, oedd i gyd o wahanol gyfandiroedd, yn ffrindiau annwyl. Mae coginio a blasu gwahanol brydau鈥檔 cynnwys hotpot Tsieineaidd, pasta Eidalaidd, dahl Indiaidd a sipian coffi sbeislyd Twrcaidd yn atgofion fydd yn para am oes i mi.
Bellach fel cyd-sylfaenydd ac arweinydd datblygu busnes a gweithrediadau听, rwy'n defnyddio cronfa o wybodaeth, sgiliau a phrofiad a gefais gan Brifysgol Bangor er mwyn arloesi, rheoli a chynaliadwyedd ein sefydliad.鈥