James Donaldson Cwnsela
(MSc Cwnsela, 2021)
Roedd ehangder y cwrs MSc Cwnsela ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig llawer mwy nag astudio theori seicotherapiwtig. Galluogodd fi i ystyried sut y gallwn gyflwyno fy hun i'r byd y tu allan ac i ddarpar gleientiaid. Roedd yn cynnig hygrededd mewn maes sy鈥檔 parhau i fod yn anodd canfod eich ffordd ynddo o ran safonau proffesiynol a moeseg. Yn bwysicaf oll, bu鈥檔 gymorth i mi ddod o hyd i fy ngwerth fy hun a datblygu ymarfer personol wedi ei ategu gan fynegiant mwy eglur o'm gwerthoedd sylfaenol. Yn bennaf, cefnogi a galluogi eraill, tra'n dod o hyd i gydbwysedd trwy ymrwymiad personol i ymgorffori'r adnoddau, y modelau a'r dulliau yr wyf yn eu harddel.
Fel myfyriwr h欧n ym Mangor, roeddwn yn meddwl bod gennyf hunanymwybyddiaeth dda. Gwnaeth sgyrsiau gyda'r Athro Fay Short a鈥檌 th卯m, fy annog i wynebu fy ngwendidau canfyddedig a symud y tu hwnt iddynt. Roeddwn yn cwestiynu fy ngallu i wneud ymchwil, i weithio mewn cyfryngau ar-lein, i symud y tu hwnt i fy nghefndir unigolyn-ganolog. Fel myfyriwr ar y cwrs MSc Cwnsela, roeddwn yn gallu gwthio trwy'r rhwystrau hyn, a mwy. Roeddwn eisiau bod yn therapydd gwell; ond credaf fod y cwrs Meistr wedi helpu i ffurfio unigolyn llawnach a byddaf yn dragwyddol ddiolchgar am hynny.
Cefais fy nenu鈥檔 naturiol at theori seicotherapiwtig ac ymarfer fel swyddog heddlu milwrol am ddau reswm. Yn gyntaf, gwelais fod y cysyniadau o feithrin perthynas yn effeithiol er mwyn cefnogi dioddefwyr troseddau, yn enwedig wrth gofnodi datganiadau鈥檙 rhai sydd wedi dioddef digwyddiadau trawmatig. Yn ail, galluogodd well dealltwriaeth o effeithiau fy mhrofiadau bywyd cynharach a鈥檓 trawma fy hun. Teimlais bryd hynny fod y cyfuniad o berthnasu a dealltwriaeth trwy brofiad yn agor y drws i adferiad, iach芒d a thwf. Rhywbeth yr wyf yn parhau i鈥檞 gredu.
Cysylltodd y BBC 芒 mi yn uniongyrchol trwy fy mhroffil cwnsela ar-lein, a gofyn a hoffwn gymryd rhan yn y broses ddethol ar gyfer 'Reunion Hotel'. Roeddent yn chwilio am ddyn a oedd yn ymarfer yng ngogledd Cymru, ac 芒 chefndir eang o ddarparu seicotherapi. Yn ystod y cyfarfod Zoom cyntaf, roedd yn amlwg fy mod yn addas i鈥檙 rhaglen. Roedd cymryd rhan yn y ffilmio yn brofiad newydd ac yn un oedd yn cynnig llawer. Roedd cefnogi cyfranwyr i adrodd eu straeon, a oedd yn cynnwys ymosodiad terfysgol, trawsnewid rhywedd a dallineb yn deillio o ddiabetes, yn fraint. Roedd cyd-gerdded 芒 hwy wrth iddynt wynebu'r ansicrwydd o ailgysylltu 芒 rhywun a oedd wedi bod yn bwysig yn eu bywydau wedi gadael atgofion annwyl a chysylltiadau parhaus.
Mae gwylio eich hun ar y teledu yn hollol swreal 芒 dweud y gwir. Fel clywed eich llais eich hun ar recordiad, ond llawer gwaeth. Y tro cyntaf i mi weld y fersiwn wedi ei olygu oedd pan oedd ar y teledu, a鈥檙 cyfan roeddwn yn gobeithio amdano, yn bersonol, oedd fy mod wedi manteisio ar y cyfle i ddangos wyneb therapi i鈥檙 cyhoedd. Mae鈥檙 ymateb rwyf wedi ei gael yn awgrymu bod y rhaglen wedi cael derbyniad da.
Amser yw'r newidyn mwyaf o ran cymharu rhwng cwnsela ar y teledu ac ymarfer preifat. Yn aml, dim ond hanner awr fyddai gennym i gwrdd, i ddeall y stori, ac i drafod profiad emosiynol y cyfrannwr. Roedd yn rhaid i mi ddibynnu'n helaeth ar ddulliau mwy dyneiddiol o adeiladu perthynas trwy ddidwylledd, empathi, a pharch. Mae symlrwydd cysylltiad dynol yn fy synnu bob amser o ran ei b诺er i greu鈥檙 amgylchedd ar gyfer profiad cyffredin, a bod yn agored.
Yn fy ymarfer preifat, mae amser i drafod yn ddyfnach gyda chleientiaid nad oes modd gwneud ar y teledu. Gan weithio mewn cyfrwng ymddygiadol gan ddefnyddio therapi derbyn ac ymrwymo (ACT) fel llinyn canolog yn fy ngwaith integreiddiol, byddwn yn helpu cleientiaid i ddatblygu dulliau a strategaethau i newid y ffordd y maent yn profi eu bywydau er mwyn gallu byw yn unol 芒'u gwerthoedd eu hunain.
Mae cymryd rhan yn y rhaglen wedi cyfrannu at fy sefydlogrwydd sylfaenol wrth ddarparu seicotherapi. Mae cwnsela yn fy nghraidd ac yn rhywbeth y byddaf yn ei wneud am weddill fy mywyd proffesiynol. Rwyf hefyd yn sylweddoli nad cymryd rhan mewn rhaglen deledu, er bod hynny鈥檔 gyffrous ac yn heriol, sy'n fy ysgogi. Byddwn yn hapus i ddychwelyd am gyfres arall; ond mae rhaglenni na allwn gymryd rhan ynddynt. Nid cyfrwng teledu sy'n bachu, ond y cyfle i agor y drws i eraill ar therapi siarad sy'n apelio fwyaf. Bydd fy moddhad proffesiynol mwyaf bob amser yn dod o eistedd gyda rhywun arall wrth iddynt ddadbacio eu stori a'u taith emosiynol.
Fel maes, mae cwnsela a seicotherapi yn cynnig amrywiaeth eang ac mae'n hawdd mynd ar goll yn y gors o gannoedd o wahanol arddulliau. Byddwn yn annog unrhyw fyfyriwr i gofio eu bod yn unigolyn unigryw sy'n bwysicach o lawer na'r theori, y system, neu'r gwasanaeth rydych yn gwirfoddoli / gweithio gyda hwy. Hawdd yw mynd ar goll yn yr olaf wrth esgeuluso'r cyntaf. Dysgwch i dreulio amser gyda phobl eraill yn gwrando ar eu straeon, gwahoddwch eraill i fynd yn ddyfnach gyda chwestiynau, a dysgwch i ddod 芒'ch hunan i gyd i鈥檙 sgwrs. Dyma ble mae therapi yn agor ac yn ffurfio.