Graham Newman
Mathemateg, 1976
Roeddwn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru fel yr oedd ar y pryd) rhwng mis Hydref 1973 a mis Mehefin 1976, ac enillais BSc Cyd-anrhydedd mewn Mathemateg Pur a Chymhwysol.
Pam Bangor? Roedd hi'n edrych fel prifysgol ddeniadol iawn ac roeddwn eisiau dianc o Fanceinion am 3 blynedd i astudio ac roedd parch mawr tuag ar gwrs mathemateg Bangor. Gwnaeth y 3 blynedd a dreuliais yno fy ngwneud yr hyn yr ydw i heddiw. Ar 么l gadael Bangor, rwyf wedi cael gyrfa ym maes addysg gyda thair elfen amlwg.
Yn gyntaf, b没m yn athro Mathemateg mewn tair ysgol uwchradd, a threuliais 30 mlynedd fel dirprwy bennaeth mewn ysgol ym Manceinion. Wnes i erioed golli鈥檙 mwynhad o wneud mathemateg a ddysgais ar y cwrs ym Mangor. Bu i mi ymddeol o ddysgu yn 2016. Yn ail, cefais yrfa lwyddiannus fel arholwr. Treuliais flynyddoedd lawer fel prif farciwr asesiadau Mathemateg CA3 yn Lloegr, ond fy swydd bwysicaf oedd fel Prif Arholwr TGAU Mathemateg ac Ystadegau yn Edexcel/Pearson ers 1988, y bwrdd arholi sy'n ymdrin 芒 bron i 2/3 o holl ymgeiswyr ysgolion Lloegr. Byddaf yn ymddeol o'r swydd honno yn 2021. Yn drydydd, gyrfa fel awdur (yn unigol ac ar y cyd) gyda dros 100 o gyhoeddiadau mathemateg ar gyfer addysg. Arweiniodd fy amser ym Mangor at yrfa broffesiynol ar y lefel uchaf, a chyfle i roi'r hyn roeddwn wedi ei ddysgu ar waith.
Treuliais y 3 blynedd b没m ym Mangor yn byw yn Neuadd Reichel. Rwy'n cofio'r prydau bwyd dirifedi roedd y staff yn eu coginio i ni (brecwast a chinio gyda'r nos). Roedd y ras i gyrraedd yr ystafell gyffredin iau ar nos Iau i gael bod yn y rhes gyntaf o seddi i wyliau Pans People ar Top of the Pops hefyd wedi aros yn fy nghof. Rwy'n cofio hefyd treulio llawer o amser yn yr haf ar y lawnt yn chwarae croquet ac yna, wrth gwrs, seremoni Benedicimus bob blwyddyn ar 5 Tachwedd. I'r rhai nad ydynt efallai'n cofio, yr amcan oedd cludo arch o'r neuadd i lawr i'r traeth ger y Fenai; roedd yr holl neuaddau eraill yn ceisio ein rhwystro ac achosodd yr holl beth anhrefn. Bryd hynny, roedd gennym ganolfan chwaraeon gyferbyn 芒'r neuadd, a oedd yn cael ei defnyddio'n rheolaidd fel hofrenfa i'r RAF gludo pobl i'r ysbyty cyn i'r ysbyty gael ei hofrenfa ei hun.
Roedd y cwrs mathemateg yn ysbrydoliaeth i mi gyda darlithwyr rhagorol a oedd bob amser yn barod i'ch helpu.
Ymunais 芒 chlwb deifio tanddwr y brifysgol. Dechreuwr oeddwn pan ymunais ond erbyn y diwedd, roeddwn wedi llwyddo i ennill cymhwyster dysgu sgwba (flwyddyn cyn ennill fy nghymhwyster i ddysgu mathemateg!). Myfyrwyr bioleg y m么r yn bennaf oedd y gr诺p o fyfyrwyr, ac wrth gwrs, fi oedd Swyddog Cyllid y clwb deifio tanddwr ac Undeb y Myfyrwyr. Myfyriwr mathemateg nodweddiadol!
Rwyf wedi bod yn briod ers 40 mlynedd, mae gen i 4 o blant (pob un wedi tyfu erbyn hyn ac wedi gadael cartref) a 2 o wyrion. 5 mlynedd yn 么l, gwnaethom benderfynu dychwelyd i'r ardal ac mae gennym d欧 haf yn Ynys M么n erbyn hyn, ac rwy'n dychwelyd yn aml i'r mannau niferus ym Mangor a'r cyffiniau y b没m yn treulio amser ynddynt yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol.
Nid wyf mewn cysylltiad 芒 llawer iawn o'm cyd-fyfyrwyr yn brifysgol a buaswn yn falch o glywed gan gyn-fyfyrwyr eraill, yn ddelfrydol unrhyw un oedd ar y cwrs mathemateg neu oedd yn aelod o glwb deifio tanddwr y brifysgol ar yr un adeg 芒 fi.