Alan Crofts
Biocemeg, 1990
Aeth y cyn-fyfyriwr Dr Alan Crofts, a fu鈥檔 fyfyriwr israddedig biocemeg ym Mangor, ymlaen i chwilio am antur ar 么l gadael y Brifysgol yn 1990.
Ag yntau 芒 diddordeb mewn anialdiroedd ers ei blentyndod, trefnodd Alan ei alldaith annibynnol cyntaf yn 1995 a chroesi anialwch Gorllewin y Sahara o'r Gogledd i'r De (trwy Mauritania a Gorllewin y Sahara). Ers hynny, a chan fanteisio ar y sgiliau a ddysgodd fel Swyddog Cudd-wybodaeth yn yr Awyrlu Brenhinol, trefnodd a chymryd rhan mewn nifer o alldeithiau arloesol annibynnol ar draws y byd yn ogystal 芒 chymryd rhan mewn rhaglen 鈥榞oroesi mewn anialwch鈥 yn yr Iorddonen a gynhaliwyd gan y M么r-filwyr Brenhinol. Noddwyd ef gan ddiwydiant i ddod o hyd i lwybrau a ffynonellau d诺r ar draws Dwyrain y Sahara a鈥檙 Kyzl Kum yng Nghanolbarth Asia. Mae Alan yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ac wedi traddodi cyflwyniadau ar sawl achlysur yng ngweithdy'r anialwch cyngres 鈥楨xplore鈥 flynyddol y Gymdeithas.
Ym mis Mai 2024, bydd Alan yn arwain t卯m o chwech i groesi anialwch y Nefud yng Ngogledd Sawdi-Arabia trwy arloesi llwybr newydd ar draws y diriogaeth gras, anghysbell ac eang hon. Mae t卯m 鈥淭aro Einion yr Haul鈥 Nefud 2024 yn bwriadu bod y cyntaf i ddangos y gellir defnyddio p诺er amgen fel opsiwn hyfyw ar gyfer y cerbydau alldaith fydd yn cludo鈥檙 t卯m, y cyflenwadau a鈥檙 offer ar draws y dirwedd arw, heriol hon. Yn ogystal 芒 defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i bweru offer, mae'r t卯m yn bwriadu defnyddio cerbydau wedi鈥檜 pweru gan drydan a biodanwydd i liniaru 么l troed carbon yr alldaith. Hwn fydd y tro cyntaf i ddiffeithwch anghysbell gael ei groesi gan ddefnyddio strategaeth arbed carbon gynhwysfawr.
Disgwylir i鈥檙 t卯m gymryd tair wythnos i gwblhau'r llwybr o Ha'il i Ar'ar, sydd oddeutu 700km drwy anialwch o dywod symudol. Mae 鈥淓inion yr Haul鈥 yn ardal yng ngogledd-orllewin Nefud lle mae'r haul yn curo'n ddi-baid ar wastadedd enfawr o dywod gwyn. Oherwydd y gwres, y llacharedd a鈥檙 diffyg d诺r, mae鈥檙 Bedowiniaid lleol yn ystyried yr Einion yn amhosibl i鈥檞 chroesi 芒 chamel yn ystod golau dydd. Nodweddir yr ardal anghysbell, gyfriniol hon gan ritholygfeydd (鈥榤irages鈥) a'r cythreuliaid tywod sy鈥檔 cael eu codi o'r tir gan awelon.
Mae鈥檙 t卯m yn cefnogi elusen y Deyrnas Unedig, 鈥淎ction for Stammering Children鈥. Mae鈥檙 alldaith wedi鈥檌 chofnodi gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ac mae ganddi gefnogaeth lawn gan Lysgenhadaeth y Deyrnas Unedig yn Riyadh, Sawdi-Arabia a chan ei Uchelder Brenhinol, y Tywysog Khalid, llysgennad Sawdi-Arabia i鈥檙 Deyrnas Unedig.
Gwerthfawrogodd Alan ei gyfnod ym Mangor ac yn arbennig felly鈥檙 adran biocemeg ac aeth ymlaen i ennill PhD yn Efrog cyn dilyn astudiaethau 么l-ddoethurol yn Baltimore UDA.
Ceir rhagor o fanylion am yr alldaith yn:
Neu anfonwch e-bost at Alan yn alancrofts928@icloud.com
听