Gwneud cais am Astudiaeth Ôl-radd
Cyrsiau trwy Ddysgu
Sut i wneud Cais
Gallwch nawr wneud cais ar-lein ar gyfer holl raglenni ôl-raddedig trwy ddysgu a rhaglenni ymchwil ôl-raddedig y Brifysgol (gan eithrio TAR, Diploma mewn Therapi Galwedigaethol a DClinPsy).
Cam 1 – Paratoi i wneud cais
Myfyrwyr Cartref/UE
- Gallwch wneud cais eich hunain gyda cymorth ein Nodiadau Canllaw ar ymgeisio ar-lein. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen rhain cyn i chi wneud cais ar-lein.
Myfyrwyr Rhyngwladol
- Gallwch eich hunain neu cysylltu ac Asiant yn eich gwlad am gymorth.
Cam 2 – Gwneud cais ar-lein
Ar ôl i chi ddarllen y Nodiadau Canllaw, dylech wneud cais gan ddefnyddio ein
Er mwyn ichi weld a chwblhau’r ffurflen gais yn Gymraeg bydd angen i chi sicrhau bod y gosodiad iaith ar eich porwr dewisol wedi ei osod ar Gymraeg. I gael canllawiau ynglŷn â sut i wneud hyn cliciwch yma (cyswllt â chwestiynau a ofynnir yn aml ynglŷn â sut i wneud hyn yn Firefox, IE a Google Chrome)
Wedi i chi gwblhau y ffurflen gais ar-lein bydd rhaid i chi ddarparu copiau o nifer o ddogfennau (wedi eu tystio os nad oes gennych y dogfennau gwreiddiol), megis trawsgrifiadau academaidd, tystysgrifon gradd, cadarnhad o gymorth ariannol.
Angen Cymorth?
Am wybodaeth bellach neu gyngor am wneud cais, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyniadau Ôl-raddedig.
E-bost: postgraduate@bangor.ac.uk
Ffôn: +44 (0)1248 383717
Pryd i wneud cais
Bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ond byddwn yn gyffredinol yn eich annog i anfon eich cais cyn diwedd mis Mehefin. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi wneud trefniadau ariannol a/neu lety ac i chi fedru cael gafael ar drawsgrifiadau a geirda os nad ydych wedi eu hanfon gyda’r cais gwreiddiol.
Rhaglenni Ymchwil
Cyngor ar wneud cais
Mae ceisiadau ar gyfer graddau ymchwil yn wahanol i geisiadau am gyrsiau ôl-radd trwy ddysgu fel gradd Feistr. Er bod y ffurflen gais yr un ffurflen, mae’r ffordd y dylech fynd ati i wneud cais yn gwneud gwahaniaeth.
Gwneud cais ar gyfer PhD/Mphil wedi ei ariannu’n allanol neu gennych chi eich hun
Fel gydag ein holl gyrsiau, gallwch ariannu cwrs PhD/Mphil ym Mangor eich hun, neu efallai fod gennych gymorth ariannol allanol (er enghraifft gan eich cyflogwr neu gan y cynulliad), ac rydym yn croesawu pob cais am wneud hynny. Er hynny, yn hytrach na chwblhau ffurflen gais yn unig, gallwch gymryd camau syml er mwyn gwneud yn siŵr fod eich cais yn sefyll allan ac yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus.
Mae pob myfyriwr PhD/Mphil angen goruchwyliaeth gan o leiaf un aelod o staff y Brifysgol, ac os ydych yn ystyried PhD/Mphil mae gennych eisoes syniad o’r pwnc neu’r maes yr ydym am astudio ynddo. I wneud yn siŵr fod gan y Brifysgol arbenigedd yn y maes er mwyn darparu goruchwyliaeth, edrychwch yn gyntaf ar ein tudalennau staff.
Unwaith yr ydych wedi dod o hyd i aelod o staff sydd yn gwneud gwaith ymchwil yn y maes, gallwch gysylltu â hwy yn uniongyrchol gyda chrynodeb o’ch ymchwil sy’n amlinellu eich cais a gofynnwch a ydynt yn fodlon i oruchwylio eich project. Os yw’r aelod o staff academaidd yn dangos diddordeb, gallwch drafod ymhellach i ddatblygu cynnig ymchwil PhD/Mphil llawn.
Ar yr adeg yma, dylech wneud cais am y rhaglen PhD/Mphil gan ddefnyddio'r ffurflen sydd ar gael yma. Dylech gwblhau’r ffurflen yn llawn gan gynnwys cyfeirnodau academaidd, eich cais ymchwil ac enw’r aelod o staff academaidd sydd am eich goruchwylio.
Ymgeisio am ysgoloriaethau PhD a hysbysebir gan Brifysgol Bangor
Eich cynnig ymchwil
Mae cynnig ymchwil da yn hanfodol os ydych yn ymgeisio am PhD neu MPhil. Dylai’r cynnig gynnwys:
(i) Trosolwg - rhowch fraslun o'r maes pwnc yr ydych am ymchwilio iddo, a rhoddwch wybodaeth am y dadleuon damcaniaethol, polisi ac empirig y byddwch yn ymdrin â hwy.
(ii) Cynllunio – rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o amserlenni ymchwil, a bod gennych gynllun i reoli'ch gwaith. Rhaid i chi ddangos ei bod yn bosib cyflawni'r ymchwil yn yr amser sydd ar gael.
(iii) Cyfeiriadau llenyddol – rhaid i chi ddangos nad yw'ch maes ymchwil arfaethedig wedi'i astudio o'r blaen. Rhowch gyfeiriadau at erthyglau a thestunau llenyddol sy'n berthnasol i'ch maes astudio chi.
(iv) Methodoleg – rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o'r offer methodolegol sydd ar gael, a nodi pa rai fyddai'n addas i'ch ymchwil chi.
Ymgeisio am ysgoloriaethau PhD a hysbysebir gan Brifysgol Bangor
Mae cyfleoedd i ennill ysgoloriaethau PhD wedi eu hariannu yn codi yn aml drwy gydol y flwyddyn, ac yn cael ei hysbysebu fel cyfleoedd penodol sydd yn gofyn i chi wneud cais ffurfiol. Mae’r broses gwneud cais ar gyfer ysgoloriaethau PhD wedi eu hariannu yn amrywio o ysgol i ysgol felly mae gofyn i chi edrych ar wefan yr ysgol academaidd briodol a dilyn y cyfarwyddiadau sydd ar gael yno. Os ydych yn ansicr o unrhyw ran o’r broses gneud cais, gallwch gysylltu â’r ysgol academaidd briodol yn uniongyrchol am gyngor neu gallwch e-bostio postgraduatestudy@bangor.ac.uk
Gallwch nawr wneud cais ar-lein ar gyfer holl raglenni ôl-raddedig trwy ddysgu a rhaglenni ymchwil ôl-raddedig y Brifysgol (gan eithrio TAR, Diploma mewn Therapi Galwedigaethol a DClinPsy).
Myfyrwyr Cartref/UE
Gwneud cais ar-lein
- Gallwch wneud cais eich hunain gyda cymorth ein Nodiadau Canllaw ar ymgeisio ar-lein. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen rhain cyn i chi wneud cais ar-lein.
Gyda phwy yr wyf angen cysylltu?
Am wybodaeth bellach neu gyngor am wneud cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyniadau Ôl-raddedig
E-bost: postgraduate@bangor.ac.uk
Ffôn: (01248) 383717
Myfyrwyr Rhyngwladol
-
Gallwch eich hunain neu cysylltu ac Asiant yn eich gwlad am gymorth.
Pryd i wneud cais
Bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ond byddwn yn gyffredinol yn eich annog i anfon eich cais cyn diwedd mis Mehefin. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi wneud trefniadau ariannol a/neu lety ac i chi fedru cael gafael ar drawsgrifiadau a geirda os nad ydych wedi eu hanfon gyda’r cais gwreiddiol.