Newyddlenni
Ysgol yn cynnal ‘ras wib’ ddi-garbon
Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig wedi cynnal “ras wib” ddi-garbon i ddathlu This is Engineering Day’ 2021, ymgyrch a noddir gan yr Academi Beirianneg Frenhinol. Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Mercher 3 Tachwedd 2021, yn ystod wythnos ddarllen yr ysgol, ac yn ystod y gynhadledd .
Mae'r ymgyrch 'This is Engineering' yn herio'r camsyniadau a'r hen safbwyntiau ynglÅ·n â beth yw peirianneg, a beth mae peirianwyr yn ei wneud, trwy gyflwyno delwedd gadarnhaol o beirianneg fodern.
Trefnwyd y diwrnod gan Chris Walker, hwylusydd a darlithydd sy'n gweithio ym myd busnes a'r byd academaidd. Mae'r ras wib ddi-garbon yn her ddylunio-wib arloesi, lle mae cyfranogwyr yn trafod ac yn llunio atebion posib newydd i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Cyflwynwyd eu hatebion ar ddiwedd y cyfnod a roddwyd iddynt wneud y gwaith, gyda fideo cyllido torfol yr oedd y myfyrwyr wedi ei ffilmio ar eu ffonau symudol. Gwahoddwyd myfyrwyr o bob rhan o'r ysgol i gymryd rhan, a rhoddwyd chwe awr i bob tîm ddewis eu problem newid yn yr hinsawdd, datblygu ateb arloesol, ac yna ffilmio fideo cyllido torfol a rhoi cyflwyniad ar y diwedd.
Meddai Dr Iestyn Pierce (Pennaeth yr Ysgol) “Roedd yn dda cynnal y ras wib ddi-garbon yn yr ysgol. Daeth â myfyrwyr o sawl disgyblaeth o bob rhan o'r ysgol ynghyd ac o bob lefel academaidd. Cawsom fyfyrwyr electronig, cyfrifiadurol a dylunio cynnyrch, yn israddedigion a myfyrwyr meistr. Daeth y digwyddiad â ni at ein gilydd a gwnaethom helpu i ystyried atebion posib i un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas heddiw.”
Meddai Daniel Lambert, myfyriwr dylunio cynnyrch, “Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd y mwyafrif helaeth o bobl yn byw mewn dinasoedd erbyn 2050. Mae ystyried yr her hon yn dod ag amrywiaeth o broblemau a fyddai'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Wedi ein hysbrydoli gan arloeswyr 'dinas werdd' Singapore, aethom ati i greu ateb arloesol yn seiliedig ar gasglu dŵr glaw a hydroponeg a allai droi pob to, balconi neu sil ffenestr yn fan gwyrdd newydd a'r manteision clir mae hynny’n ei gynnig o ran lleihau CO2, gwella iechyd meddwl a harddwch adeiladau. Byddwn yn argymell i bawb roi cynnig ar ras wib greadigol, mae'n syndod beth allwch ei gynhyrchu gyda thîm o bobl dan bwysau amser! ”
Meddai Jasmine Parkes, myfyrwraig Peirianneg Electronig BENG, "Gwnes fwynhau'r her yn fawr. Roedd yn gyfle gwych i rwydweithio â phobl o'r un anian a cheisio gwneud gwahaniaeth. Roedd hefyd yn ddiddorol gweld sut mae busnesau newydd yn dechrau.”
Yn olaf, meddai Martin Beer, myfyriwr dylunio cynnyrch “Gwnes fwynhau’r ras wib ddi-garbon. Hoffais yn arbennig allu cwrdd â phobl newydd, a gweithio mewn tîm gyda phobl sydd â gwahanol arbenigeddau a chefndiroedd (peirianneg electronig, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, dylunio cynnyrch ac ati). Cydweithiodd ein tîm i ddod o hyd i ateb i’r broblem o wastraff bwyd. Gwnaethom gynhyrchu syniad lle gallai gwastraff bwyd fod yn ffynhonnell ynni (trydan). Mae'r syniad yn ymddangos yn ymarferol, yn hyfyw, yn ddymunol ac yn gynaliadwy, a gallai fod o fudd i bobl ar raddfa fawr, hyd yn oed yn fyd-eang. Roedd y digwyddiad hwn yn lle gwych i gynhyrchu syniadau, a allai fod yn sail i brojectau yn y dyfodol pe bai angen.”
Cyflwynodd y grwpiau eu gwaith, ynghyd â chyflwyniad fideo byr. Ar ôl trafodaeth, penderfynodd y trefnwyr y dylai'r wobr am y cyflwyniad gorau fynd i'r grŵp Ap Carbon, a oedd yn cynnwys Pablo Martinez O'Reilly, Jasmine Parkes, Daniel Ashton a Musaed Alnoumas. Yn olaf, diolch i Chris Walker am hwyluso'r digwyddiad, a’r hwyluswyr tîm o , a .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2021