Newyddlenni
Ymchwil o Fangor yn cael ei chyflwyno yn y brif gynhadledd ar ddelweddu data
Bu'r Athro Jonathan C. Roberts a Dr Panagiotis (Panos) Ritsos, o'r Ysgol Cyfrifiadureg, yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn yr IEEE Visualization (VIS2017) Conference, a gynhaliwyd yn Phoenix, Arizona, UDA y mis yma.
Yr IEEE VIS yw'r prif fforwm i gyflwyno datblygiadau mewn dadansoddi gweledol, a delweddu gwyddonol a gwybodaeth. Yn y digwyddiad daw rhai o'r prif ymchwilwyr ac ymarferwyr ym maes delweddu data o academia, llywodraeth a diwydiant at ei gilydd i archwilio eu diddordebau mewn offer, technegau a thechnoleg.
Fe wnaeth Jonathan a Panos gyflwyno un papur llawn, un tiwtorial, tri papur gweithdy a thri phoster, gan ddisgrifio'r gwaith a wneir gan y gr诺p ymchwil Delweddu, Modelu a Graffeg.
Yn y papur llawn 鈥 The explanatory visualization framework: An active learning framework for teaching creative computing using explanatory visualizations 鈥 cyflwynir fframwaith tri cham (EVF) sy'n arwain dysgwr drwy gyfres o dasgau. Cynlluniwyd pob un o'r rhain i ddatblygu gwahanol sgiliau angenrheidiol i ddelweddu data mewn ffyrdd creadigol, arloesol, effeithiol a phwrpasol. Cyhoeddir y papur yn rhifyn Ionawr 2018 o'r prif gyfnodolyn sy'n ymwneud 芒 delweddu, sef IEEE Transactions on Visualization and Computer Graphics.
Mae'r ymchwil hon yn ddilyniant i waith blaenorol gyda'r fethodoleg Five-Design Sheets (FDS), a gyflwynwyd mewn cynadleddau IEEE VIS blaenorol ac a gyhoeddwyd mewn llyfr diweddar. Roedd y fframwaith EVF a'r methodolegau FDS hefyd yn thema tiwtorial a gyflwynwyd am ail flwyddyn yn olynol yn IEEE VIS gan Jonathan a Panos. Roedd cynnyrch arall yn cynnwys gwaith sydd ar y gweill ar Ddadansoddi Trochi mewn Realaeth Gymysg a defnyddio Delweddau mewn Dyniaethau Digidol.
Meddai'r Athro Roberts: "Roedd yn bleser cyflwyno ymchwil a wnaed gan y gr诺p delweddu, modelu a graffeg ym Mangor a chynrychioli Prifysgol Bangor yn y digwyddiad pwysig hwn."
Ychwanegodd Panos "Cymryd rhan yn IEEE VIS yw uchafbwynt ein blwyddyn academaidd ac mae'n gyfle i gyflwyno ein gwaith yn y gynhadledd bwysicaf ym maes delweddu data. Rydym yn cael cyfle i gymysgu 芒 rhai o'r ymchwilwyr mwyaf disglair a dylanwadol yn ein maes, sefydlu cysylltiadau a chael ysbrydoliaeth ar gyfer ein gwaith yn y dyfodol."
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017