Newyddlenni
Taflu goleuni ar dechnoleg y robot - Dr Mazia Nezhad yn ennill Cymrodoriaeth EPSRC i ddatblygu micro-robotiaid sy'n cael eu pweru gan oleuni
Taflu goleuni ar dechnoleg y robot - Dr Mazia Nezhad yn ennill Cymrodoriaeth EPSRC i ddatblygu micro-robotiaid sy'n cael eu pweru gan oleuni
"Mi wnaiff y Gymrodoriaeth hon fy ngalluogi i ddatblygu cysyniadau a dulliau a fydd, gobeithio, yn braenaru'r tir i gyfeiriadau newydd yn y maes. Yn arbennig felly, mae maes microboteg yn ei fabanod o'i gymharu â meysydd eraill ac rwy'n ffyddiog y bydd y wobr hon yn fodd imi gymryd camau gwirioneddol yn y maes yma." Dr Maziar Nezhad
Mae'r Dr Maziar Nezhad o Brifysgol Bangor a Phroject 105 PI i NRN wedi cael Cymrodoriaeth Arloesedd gan EPSRC.
Mae Dr Nezhad wedi cael cymrodoriaeth a fydd yn fodd i ddatblygu cysyniadau newydd ym maes microboteg a nano-optofecaneg.
Mae'r Cymrodoriaethau Arloesedd yn anelu at feithrin arweinwyr y dyfodol mewn diwydiant ac ymchwil nid yn unig er mwyn rhoi llwyfan i hybu cyfathrebu rhwng canolfannau arloesedd allweddol ond hefyd i sicrhau bod gan y Deyrnas Unedig yn ogystal â Chymru gyflenwad da o ymchwilwyr.
Mae cymrodoriaethau megis y Wobr Arloesedd yn cynnig arbenigedd neilltuol mewn meysydd hanfodol megis gofal iechyd, cludiant a gweithgynhyrchu; sy'n helpu gwella'r manteision posibl i'r gymdeithas ac i'r economi ym meysydd microroboteg a nano-optofecaneg.
"Mi wnaiff y Gymrodoriaeth hon fy ngalluogi i ddatblygu cysyniadau a dulliau a fydd, gobeithio, yn braenaru'r tir i gyfeiriadau newydd yn y maes. Yn arbennig felly, mae maes microroboteg yn ei fabanod o'i gymharu â meysydd eraill ac rwy'n ffyddiog y bydd y wobr hon yn fodd imi gymryd camau gwirioneddol yn y maes yma." meddai Dr Nezhad.
Mae ymchwil NRN Dr Nezhad yn creu llwyfannau ar gyfer gwireddu dyfeisiau ffotonig integredig o faint sglodion megis micro-gyseinyddion optegol. Mae'n gobeithio y bydd y gymrodoriaeth, yr hon y mae llu yn ei chwennych, yn help i wireddu potensial masnachol yr ymchwil yn ogystal â gwaith pellach gyda throsglwyddiadau technoleg.
"Mae'n anrhydedd fawr ac mae'n dilysu swmp a sylwedd fy ymchwil, ac mae hefyd yn darparu llawer iawn o offer, deunydd a phersonél yn gymorth i'r gweithgareddau ymchwil sy'n gysylltiedig â'r project. Yn ogystal, mae'r gymrodoriaeth yn rhoi'r pwys mwyaf ar fasnacheiddio canlyniadau'r gwaith hwn, sydd, yn fy marn i, yn agwedd allweddol ar ymchwil gymhwysol." meddai Dr Nezhad.
Nod NREM AEM yw gwella gwyddoniaeth Cymru ar y llwyfan rhyngwladol trwy sicrhau nid yn unig drwy ariannu ymchwil arloesol ond hefyd i gefnogi ceisiadau gan gynnwys grantiau a chymrodoriaethau; a rhoi llwyfan i academyddion ddatblygu eu gyrfaoedd a hybu eu maes arbenigol ymhellach yn yr un modd.
"Mae rhai o'r syniadau sydd yn yr ymchwil arfaethedig yn ymwneud i raddau helaeth iawn â'r ymchwil a wnaed o dan y project NRN AEM a ddyfarnwyd imi rai blynyddoedd yn ôl. Yn yr un modd, bydd y dulliau technegol ac arbrofol a ddatblygwyd yn y project NRN yn berthnasol iawn i ymchwil arfaethedig cymrodoriaeth yr EPSRC. Mae'r rhwydwaith wedi bod yn hwb ac yn help imi baratoi ar gyfer y gwahanol gamau a fu o ran paratoi'r cynnig hwn."
Mae ceisiadau am y gymrodoriaeth hon yn unol â strategaeth ddiwydiannol EPSRC, sef canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth sy'n cael eu cydnabod yn rhai blaenllaw o ran ymchwil peirianyddol a ffisegol.
"Mae angen cryn dipyn o amser a gwaith paratoi i ddatblygu set o syniadau craidd yn gynnig llawn ar gyfer dyfarniadau o'r math yma. Yn ogystal â set newydd o syniadau cyffrous, mae'n bwysig hefyd addasu'r syniadau hyn yn ôl disgwyliadau a gofynion yr alwad ariannu.
Mae cystadlu brwd bob tro gyda cheisiadau o'r fath ac mae llawer o ffactorau y tu hwnt i reolaeth yr ymgeisydd. Gwneud eich gorau wrth baratoi'r cynnig a sicrhau nad oes esgeuluso ar ddim yw'r dull mwyaf effeithiol yn y pen draw, mae'n debyg, o sicrhau cymaint o gyfle â phosibl i lwyddo"
Wrth i waith Dr Nezhad mewn optofecaneg arwain at ddatblygiadau sylweddol yn y maes, mi wnaiff y gymrodoriaeth yma helpu hybu a gwireddu cysyniadau newydd yn y maes yma.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018