Newyddlenni
Prifysgolion a cholegau’n dod ynghyd i gynnig prentisiaethau yn rhad ac am ddim
Mae Prifysgolion Bangor a Glyndŵr Wrecsam, Coleg Cambria, Grŵp Llandrillo Menai a'r Brifysgol Agored (OU) wedi dod ynghyd er mwyn hyrwyddo prentisiaethau sydd wedi'u hariannu'n gyfan gwbl.
Bydd llefydd ar gael o fis Ionawr ymlaen ac mae'r partneriaid yn cynnwys Dŵr Cymru, Cartrefi Cymru, Airbus a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan ddod ag addysg i mewn i'r gweithle a rhoi profiad ymarferol hanfodol i ddysgwyr wrth iddynt gyflawni gradd is-raddedig dros dair blynedd.
Wedi'i gyflwyno gan David Roberts, cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, anogir cyflogwyr i fynychu'r digwyddiad rhithiol er mwyn uwchraddio sgiliau eu gweithwyr ar adeg allweddol i bob diwydiant yn wyneb pandemig Coronafeirws.
Meddai: "Mae'r weminar yn llwyfan i hysbysu busnesau ac unrhyw un sy'n ceisio ail-hyfforddi neu symud ymlaen yn eu rôl gyfredol ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael.
"Mae'r rhain yn swyddi sydd wedi'u hariannu'n gyfan gwbl mewn ystod o feysydd; ond, yn ystod y sesiwn byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar y sectorau TG, digidol a gweithgynhyrchu gan fod y rhain yn feysydd lle mae galw mawr."
Ychwanegodd Mr Roberts: "Mae hyn yn rhywbeth y dylem fod yn gweiddi amdano ar dop ein lleisiau. Prentisiaethau sydd wedi'u hariannu'n gyfan gwbl ar stepen drws cynifer o gyflogwyr yma yng Nghymru.
"Rydym yn arbennig o awyddus i roi hwb i niferoedd erbyn y Flwyddyn Newydd - mae cyfle i ddechrau fis Ionawr - felly, gobeithio y cawn ymateb cadarnhaol ar y diwrnod."
Ymhlith y rheini sydd wedi elwa o'r cynllun yw Carl Jeffreys, prentis peirianneg meddalwedd gyda landlord cymdeithasol yng Nghymru, Trivallis.
Meddai: "Mae'r lefel uchel o hyblygrwydd a hunan-reolaeth yn helpu'n fawr. Gallaf fapio pethau allan a chynllunio fy ngwaith a fy astudiaethau, ond gallaf fod yn hyblyg gyda fy amser hefyd os yw rhywbeth yn codi'i ben. Hefyd, gallaf jyglo'r cyfan gyda fy ngwraig a fy mhlentyn."
Cynhelir y digwyddiad ddydd Mawrth, 17 Tachwedd o 2.30-3.30pm ac mae'n cynnwys sesiwn Cwestiwn ac Ateb a chyflwyniad gan brentis a chyflogwr.
I gofrestru, ewch i
Prifysgolion a cholegau’n dod ynghyd i gynnig prentisiaethau yn rhad ac am ddim
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2020