Newyddlenni
Prifysgol Bangor yn agor y sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru
Mae'r sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru wedi cael ei agor ym Mhrifysgol Bangor. Sefydlwyd y Sefydliad Dyfodol Niwclear gan ddefnyddio cyllid gan y Brifysgol, tra bo cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r fenter trwy raglen Sêr Cymru, sy'n helpu i ddenu ymchwilwyr o'r radd flaenaf i Gymru.
Bydd y rhaglen £6.5m hon yn cyllido dwy ganolfan ymchwil newydd yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear a sefydlwyd yn ddiweddar. Arweinir y rhain gan arweinwyr ymchwil o fri rhyngwladol sy'n arbenigo mewn dau faes allweddol i'r sector niwclear. Mae gan Yr Athro Bill Lee o Imperial College Llundain arbenigedd eithriadol ym maes Gwyddorau Deunyddiau ac, yn arbennig, eu defnyddio mewn amgylcheddau eithaf megis mewn technolegau adweithyddion niwclear ar awyrofod. Yr ail faes arbenigol yw dadansoddi sensitifrwydd a modelu rhagfynegol systemau cymhleth er mwyn rhoi sylw i sialensiau, megis y rhai a geir yn y sector niwclear a systemau amgylcheddol. Mae'r brifysgol wedi cynnal trafodaethau helaeth i sicrhau gwasanaeth un o arbenigwyr amlycaf y byd yn y maes hwn, un sydd â phrofiad o arwain grwpiau ymchwil ledled y byd yn y meysydd academaidd a diwydiannol.
Bydd y rhaglen Sêr Cymru hefyd yn galluogi'r brifysgol i ddatblygu timau o gwmpas sêr y rhaglen a sefydlu Prifysgol Bangor yn ganolfan ragoriaeth newydd yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r buddsoddiad hwn eisoes yn chwarae rhan allweddol mewn denu buddsoddiad strategol hir dymor o'r sector preifat a swyddi o werth uchel yn y diwydiant niwclear i Ogledd Cymru. Mae hefyd yn cefnogi datblygu parc gwyddoniaeth ynni carbon isel Prifysgol Bangor, M-SParc Ltd, drwy helpu i ddenu cwmnïau cadwyn gyflenwi o fewn y diwydiant niwclear.
Fe wnaeth yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, groesawu sefydlu'r ganolfan newydd:
"Wrth i dechnolegau niwclear newydd gael eu cyflwyno i'r Deyrnas Unedig a rhannau eraill o'r byd, mae angen ymdrech ymchwil sylweddol i ddeall y technolegau newydd hynny a sicrhau eu bod yn cael eu cynllunio a'u defnyddio yn y ffyrdd gorau posib.
Defnyddir arbenigaeth gyfrifiannu Prifysgol Bangor i greu sefydliad a fydd yn gwneud Gogledd Cymru'n ganolfan fyd-eang mewn modelu rhagfynegol a deunyddiau yn y sector niwclear, a chyd-fynd â'r ymchwil arbrofol sy'n cael ei gwneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig."
Daw lansio'r yn fuan ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi fod Prifysgol Bangor wedi'i dewis i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi y North West Nuclear Arc Consortium, ac mae'n dilyn o lansio'r Boiling Water Reactor Research Hub and Network y llynedd. Mae hyn yn fenter ar y cyd gydag Imperial College, gyda chefnogaeth gan Hitachi-GE Nuclear a Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal, mae rhwydwaith ehangach o gysylltiadau gyda grwpiau allweddol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn cael ei datblygu ac mae wedi arwain eisoes at lofnodi Memoranda o Ddealltwriaeth gyda Horizon Nuclear Power, Hitachi-GE Nuclear Energy ac Imperial College Llundain, ac mae cydweithio â chadwyni cyflenwi pellach yn cael ei ddatblygu. Mae'r brifysgol a'i phartneriaid wedi ymrwymo i gydweithio'n agosach yn y blynyddoedd i ddod a dod â manteision lleol parhaol mewn ymchwil, arloesi a chreu swyddi.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Mae'r sector niwclear o bwys strategol i Gymru, gan roi ynni carbon isel i gartrefi a busnesau a chynnig cyfleoedd gwaith o safon mewn diwydiant lle mae galw am sgiliau uwch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu gyda sgiliau addas i'r sector niwclear, ac mae fy swyddogion eisoes yn cydweithio'n agos â diwydiant wrth i'r Cynllun Strategol hwn gael ei ddatblygu."
Mae'r Sefydliad Dyfodol Niwclear yn elfen bwysig o fewn y corff cyffredinol o ymchwil yn ymwneud ag ynni ym Mhrifysgol Bangor. Fe'i lleolir yn y pen draw o fewn yr Ardal Gwyddoniaeth a Thechnoleg arfaethedig newydd, sy'n rhan ganolog o Strategaeth Ystadau Prifysgol Bangor yn y ddinas.
Meddai'r Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor:
"Rydym yn teimlo'n gyffrous iawn ynghylch y potensial y bydd y Sefydliad Dyfodol Niwclear yn ein gynnig i'r brifysgol, i'n myfyrwyr yn y dyfodol, a hefyd i fusnesau yn y diwydiant niwclear a meysydd eraill cysylltiedig ag ynni sy'n cael eu denu'n gynyddol i Ogledd Cymru. Byddwn hefyd yn lansio rhaglenni gradd a fydd yn cyflawni anghenion rhanbarthol yng Nghymru a'r sector ynni ehangach yn y Deyrnas Unedig ac a fydd yn hynod berthnasol i ddiwydiannau uwch gynhyrchu eraill."
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017