Newyddlenni
Peiriannydd dawnus o’r Bala yn mynd ymlaen i astudio PhD
Ar ôl pedair blynedd o waith caled, bydd peiriannydd dawnus yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Yn ogystal â graddio gyda gradd MEng mewn peirianneg electronig, mae Ilan Wyn Davies, 22 oed, o'r Bala, wedi ennill Gwobr Dr John Robert Jones sy’n werth £1,000 ac sy’n cael ei dyfarnu’n flynyddol i'r myfyrwyr gorau ar draws pob disgyblaeth yn y brifysgol.
Dywedodd Ilan: "Mae'n rhyddhad cael graddio o’r diwedd. Dwi wedi mwynhau fy mhedair blynedd ym Mangor, er iddi fod yn anodd ar adegau. Roedd hi’n syndod clywed fy mod i wedi ennill y wobr bwysig yma, a hynny’n gwbl annisgwyl. Mae'n anrhydedd enfawr."
Mae Ilan yn gyn-ddisgybl o Ysgol Y Berwyn. Cafodd wybod ei fod yn ddyslecsig yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth. Ni wnaeth hyn ei atal rhag meddwl am addysg prifysgol, ac yn dilyn diwrnod agored ym Mangor, oherwydd yr awyrgylch cartrefol, y cyfeillgarwch a’r cymorth sydd ar gael gan Ganolfan Dyslecsia Miles, penderfynodd Ilan mai Bangor fyddai ei ddewis cadarn. Yna gwnaeth gais, ac enillodd ysgoloriaeth o £1,500 sy’n cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd hynny sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.
Mae Ilan wedi gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael iddo yn ystod ei gyfnod ym Mangor, eglurodd:
"Roeddwn i’n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, a dw i wedi mwynhau cymdeithasu a chwarae rygbi. Fe wnes i gymryd rhan weithredol yn y sialens Menter drwy Ddylunio, sy’n dod â myfyrwyr sy’n astudio pynciau gwahanol at ei gilydd i gystadlu mewn timau amlddisgyblaethol. Roeddwn yn rhan o'r tîm buddugol yn 2015 ac yn hwyluso’r tîm buddugol yn 2017.
"Yn ystod haf 2015 treuliais ddeufis ar leoliad yn Y Wylfa ar Ynys Môn, ac yn haf 2016 cefais interniaeth am dri mis gyda G.E. Hitachi yn Japan.
"Yn ystod fy interniaeth yn Japan, cefais gyfle i ddringo Mynydd Fuji a phrofi pob agwedd ar ddiwylliant Japan. Cefais wybodaeth a phrofiad am dechnoleg ac am gyfraniad y cwmni i’r diwydiant niwclear: yn enwedig am dechnoleg ABWR (advanced boiling water reactor) ac agweddau sy’n berthnasol i orsaf bŵer newydd yr Wylfa.
"Dwi’n ddiolchgar iawn i staff yr Ysgol Peirianneg Electronig am eu cymorth, eu harweiniad a’u ffydd ynof, yn enwedig i'm tiwtor, Dr Iestyn Pierce, am ei gymorth parod ac am ei hyder yn fy ngallu academaidd. Dwi hefyd yn ddyledus i Rhian o’r Ganolfan Dyslecsia am ei chefnogaeth barhaus yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf ac am ddatblygu a gwella fy sgiliau llythrennedd.
"Dwi ar fin cychwyn rhaglen PhD tair blynedd ar y cyd â Phrifysgol Bangor a CreoMedical - cwmni dyfeisiau meddygol sy’n canolbwyntio ar egin faes endosgopi llawfeddygol, sef datblygiad llawfeddygol diweddar sy’n llawer llai ymyrrol; ar ôl hynny, dwi’n gobeithio cael statws siartredig mewn peirianneg electronig. Yn y dyfodol dwi’n gobeithio gweithio yn y diwydiant niwclear a pharhau i ragori mewn peirianneg electronig."
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017